Presenoldeb Ysgolion a Lles Disgyblion
Grant Hanfodion Ysgol (y Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad) gynt)
Gall plant sydd â'u teuluoedd ar incwm isel ac sy’n gymwys ar gyfer budd-daliadau penodol (yn gysylltiedig â meini prawf cymhwysedd presennol ar gyfer prydau ysgol am ddim) wneud cais am y grant o £225 i bob dysgwr, neu £300 i'r dysgwyr hynny sy'n cychwyn ym mlwyddyn 7, gan gydnabod y costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau'r ysgol uwchradd. Mae'r £100 ychwanegol ar gyfer eleni yn unig.
Mae pob blwyddyn ysgol orfodol bellach yn gymwys.
Gall teuluoedd ar incwm isel ac sy’n gymwys i gael budd-daliadau penodol wneud cais os oes ganddynt blentyn mewn:
- ysgol gynradd o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6
- ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11
Mae pob plentyn sy'n cael eu hystyried yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gymwys ar gyfer y grant, p'un a ydynt yn cael derbyn prydau ysgol am ddim ai peidio. Nid yw disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim dan drefniadau 'amddiffyniad wrth bontio' yn gymwys i’r cyllid yma.
Gall teuluoedd dim ond gwneud un cais ar gyfer un plentyn, unwaith ar gyfer pob blwyddyn ysgol.
Mae cynllun 2022 i 2023 bellach ar agor ac yn cau mis 30 Mehefin 2023.
I wneud cais am ginio ysgol am ddim
Am fwy o wybodaeth: SUGS@Pembrokeshire.gov.uk