Presenoldeb Ysgolion a Lles Disgyblion
Hysbysiadau Cosb
Hysbysiadau Cosb am Beidio â Mynychu Ysgol/Darpariaeth Addysg Amgen yn Rheolaidd
Trosolwg
Yn 2013, crëwyd Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) gan Weinidogion Cymru.
Dywed y rheoliadau fod yn rhaid i Gyngor gael Cod Ymddygiad sy'n amlinellu mesurau i sicrhau cysondeb wrth gyflwyno hysbysiadau cosb.
Beth yw Hysbysiad Cosb?
Un o'r ymyriadau sydd ar gael i hyrwyddo presenoldeb gwell yn yr ysgol yw hysbysiad cosb. Bydd plentyn sy'n mynd i'r ysgol yn rheolaidd yn elwa fwy ar y cyfleoedd y mae ysgol yn eu darparu na phlentyn nad yw'n mynd i'r ysgol yn rheolaidd.
Pan fodlonir yr amgylchiadau ar gyfer cyflwyno hysbysiad cosb, gellir cyflwyno hysbysiad cosb i riant nad yw ei blentyn/phlentyn yn mynd i ysgol/darpariaeth addysg amgen yn rheolaidd.
Mae hysbysiad cosb yn cynnig cyfle i riant gyflawni unrhyw atebolrwydd i euogfarn am drosedd o dan Adran 444 Deddf Addysg 1996* a nodir yn yr hysbysiad, trwy dalu cosb yn unol â'r hysbysiad hwnnw. (*Mae Adran 444 y Ddeddf Addysg yn cynnwys amod os na fydd plentyn o oedran ysgol gorfodol sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yn mynd i'r ysgol yn rheolaidd, mae ei riant yn euog o drosedd).
Gall hysbysiadau cosb fod yn berthnasol o ran plant o oedran ysgol gorfodol. Ni fydd Cyngor Sir Penfro felly'n defnyddio hysbysiadau cosb ar gyfer plant oedran meithrin neu ddisgyblion sydd mewn chweched dosbarth (blynyddoedd 12 ac 13).
Os cyflwynir hysbysiad cosb, y gosb yw £60 os caiff ei thalu o fewn 28 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad. Mae hyn yn codi i £120 os caiff ei dalu ar ôl 28 diwrnod, ond o fewn 42 diwrnod o dderbyn yr hysbysiad.
Cod ymddygiad Sir Benfro ar gyfer Hysbysiadau Cosb am Beidio â Mynychu Ysgol/Darpariaeth Addysg Amgen yn Rheolaidd.
Absenoldebau
Absenoldeb Awdurdodedig / Anawdurdodedig
Pennaeth ysgol neu unigolyn arall yn yr ysgol wedi ei awdurdodi sydd â'r cyfrifoldeb i benderfynu p'un a ddylid awdurdodi absenoldeb disgybl ai peidio. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu arweiniad i helpu gwneud y penderfyniad hwn.
Gwyliau yn ystod y tymor
Mae'n bwysig fod eich plentyn yn mynd i'r ysgol yn rheolaidd trwy gydol y tymor er mwyn cael y budd gorau posibl o'r addysg a ddarperir. Bydd unrhyw geisiadau am wyliau yn ystod y tymor a wneir gan riant y mae'r disgybl fel arfer yn preswylio ag ef/â hi, yn cael eu hystyried yn unigol gan y pennaeth neu unigolyn arall yn yr ysgol sydd wedi ei (h)awdurdodi, a'i ddewis ef/dewis hi yw penderfynu p'un a yw am awdurdodi'r absenoldeb ai peidio. Heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, ni ddylid caniatáu mwy na deg diwrnod ysgol o wyliau i'r disgybl at y diben hwnnw mewn unrhyw flwyddyn ysgol.
Pwy sy'n gallu cyflwyno Hysbysiad Cosb?
Yr Awdurdod Lleol yn unig ddylai gyflwyno hysbysiadau cosb penodedig yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Os bydd yr heddlu neu ysgol yn gofyn i Gyngor Sir Penfro gyflwyno hysbysiad cosb, bydd Cyngor Sir Penfro yn adolygu'r holl waith papur a ddarparwyd a bydd swyddog awdurdodedig yn penderfynu a yw'n briodol cyflwyno hysbysiad cosb.
Mae hyn i sicrhau bod dull cyson yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau cosb.
Pryd fydd Hysbysiad Cosb yn cael ei gyflwyno?
Mae'r Cod Ymddygiad yn amlinellu'r amgylchiadau ar gyfer cyflwyno hysbysiad cosb, gan nodi y dylai'r meini prawf allweddol fod fel a ganlyn:
Pan fydd disgybl wedi colli o leiaf 10 sesiwn (pum diwrnod ysgol) o ganlyniad i absenoldebau anawdurdodedig yn ystod y tymor presennol a bod presenoldeb cyffredinol y disgybl islaw 90% yn y flwyddyn ysgol hyd yn hyn o ganlyniad (nid oes rhaid i'r absenoldebau hyn fod yn olynol).
*mae absenoldebau anawdurdodedig yn cynnwys:-
-diffyg presenoldeb anawdurdodedig yn yr ysgol;
-gwyliau anawdurdodedig yn ystod y tymor; ac
-achos anawdurdodedig o gyrraedd yn hwyr ar ôl i'r gofrestr gau.