Presenoldeb Ysgolion a Lles Disgyblion

Hysbysiadau cosb am absenoldeb yn rheolaidd or ysgol / darpariaeth addysg amgen

Beth yw hysbysiad cosb?

Mae gan rieni a gofalwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eu plentyn / plant yn cael addysg amser llawn. Gall methu â gwneud hynny arwain at hysbysiad cosb neu, mewn achosion mwy difrifol, erlyniad cyfreithiol.

Mae hysbysiad cosb yn un o sawl ymyriad a ddefnyddir i hyrwyddo presenoldeb gwell yn yr ysgol. Nid yn unig y mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn fuddiol—mae’n hanfodol. Mae presenoldeb rheolaidd wedi’i gysylltu’n agos â pherfformiad gwell mewn arholiadau, cyfleoedd dysgu cynyddol, a rhagolygon swydd gwell. Yr un mor bwysig, mae’n cefnogi datblygiad cymdeithasol plant drwy eu helpu i feithrin cyfeillgarwch, datblygu sgiliau cyfathrebu, a dysgu sut i weithio’n effeithiol gydag eraill.

Pan fo’r meini prawf ar gyfer rhoi hysbysiad cosb yn cael eu bodloni, gall Cyngor Sir Penfro roi hysbysiad i riant neu ofalwr lle mae ei blentyn / plant yn methu â mynychu’r ysgol neu ddarpariaeth addysg amgen yn rheolaidd.

Dim ond i blant o oedran ysgol gorfodol y gellir rhoi hysbysiadau cosb. Nid ydynt yn berthnasol i blant oedran meithrin na disgyblion yn y chweched dosbarth (blynyddoedd 12 a 13).

Os rhoddir hysbysiad cosb, y ddirwy yw £60 os caiff ei thalu o fewn 28 diwrnod o gael yr hysbysiad. Os gwneir taliad ar ôl 28 diwrnod ond o fewn 42 diwrnod, mae’r swm yn cynyddu i £120.

 

Pwy all roi hysbysiad cosb?

Dim ond yr awdurdod lleol sydd â’r hawl i roi hysbysiadau cosb benodedig, yn unol â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Hysbysiadau Cosb

Os bydd ysgol neu’r heddlu’n gofyn am roi hysbysiad cosb, bydd Cyngor Sir Penfro yn adolygu’r holl ddogfennaeth berthnasol a ddarperir yn ofalus. Yna bydd swyddog awdurdodedig yn penderfynu a ydyw’n briodol rhoi’r hysbysiad cosb yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r amgylchiadau.


Pryd fydd hysbysiad cosb yn cael ei roi?

Mae’r cod ymddygiad yn amlinellu’r amgylchiadau penodol lle y gellir rhoi hysbysiad cosb. Mae’r meini prawf allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaid i ddisgybl fod wedi cronni o leiaf 10 sesiwn (sy’n cyfateb i bum diwrnod ysgol) o absenoldeb anawdurdodedig* yn ystod y tymor ysgol cyfredol
  • Rhaid i’r absenoldebau hyn arwain at bresenoldeb cyffredinol y disgybl yn gostwng o dan 90% ar gyfer y flwyddyn ysgol hyd yma
  • Nid oes rhaid i’r absenoldebau fod yn rhai olynol

 

*Mae absenoldeb anawdurdodedig yn cynnwys y canlynol:

  • Absenoldeb anawdurdodedig o’r ysgol
  • Gwyliau anawdurdodedig a gymerir yn ystod y tymor – gweler ‘Gwyliau teuluol yn ystod y tymor’ am ragor o wybodaeth
  • Cyrraedd yn hwyr heb awdurdod ar ôl i’r cyfnod cofrestru ddod i ben

 

Pwy sy’n penderfynu a ydyw absenoldeb yn anawdurdodedig?

Y pennaeth, neu aelod dynodedig arall o staff yr ysgol sy’n gweithredu ar ran yr ysgol, sy’n gyfrifol am benderfynu a ydyw absenoldeb disgybl wedi’i awdurdodi. I ategu’r broses hon o wneud penderfyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau, y mae ysgolion yn cael eu hannog i’w dilyn er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch wrth benderfynu ar ddilysrwydd absenoldeb.

 

A oes proses apelio?

Na. Nid oes hawl statudol i apelio ar ôl i hysbysiad cosb gael ei roi. Os ydych chi’n ystyried bod hysbysiad cosb wedi’i roi i chi ar gam, gallwch wneud cais i’w dynnu’n ôl. Os na chaiff ei dynnu’n ôl, rhaid i chi dalu’r ddirwy, neu efallai y cewch eich erlyn am fethu â sicrhau presenoldeb eich plentyn / plant yn yr ysgol.

 

Sut ydw i’n talu?

Noder: nid yw rhandaliadau na thaliadau fesul tipyn yn cael eu derbyn ar gyfer hysbysiadau cosb. Rhaid talu’r swm llawn o fewn yr amserlen benodedig er mwyn osgoi camau cyfreithiol pellach.

 

A allaf gael cymorth os nad yw fy mhlentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd?

Gallwch. Os yw eich plentyn yn cael trafferth mynychu’r ysgol yn rheolaidd, mae’r ysgol a Chyngor Sir Penfro yma i helpu. Gallwn gynnig cyngor a chefnogaeth i’ch helpu i wella presenoldeb eich plentyn / plant.

Mae’n bwysig gweithredu’n gynnar. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch presenoldeb eich plentyn / plant, siaradwch ag ysgol eich plentyn / plant, y Swyddog Presenoldeb Ysgol, y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd, neu’r Swyddog Lles Addysg sy’n gysylltiedig ag ysgol eich plentyn cyn gynted â phosibl. Gall cyfathrebu cynnar wneud gwahaniaeth mawr wrth nodi a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau sylfaenol.

 

Sut i gael rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am weithrediad y cod ymddygiad hwn a hysbysiadau cosb ar gael gan:

Gwasanaeth Lles Addysg Sir Benfro

E-bost: educationwelfareservice@pembrokeshire.gov.uk

Rhif ffôn: 01437 764551

ID: 1351, adolygwyd 12/08/2025