Pridiannau Tir Lleol

Gwasanaeth pridiannau tir lleol

O 3ydd Ebrill 2023, ni fyddwn yn darparu gwasanaeth chwilio Pridiannau Tir Lleol.

Ar ôl y dyddiad hwn, bydd ein Cofrestr Pridiannau Tir Lleol wedi mudo i gofrestr genedlaethol Cofrestrfa Tir EF. Byddwch yn gallu defnyddio gwasanaeth digidol trwy’r Porthol (yn agor mewn tab newydd), Business Gateway ac ar dudalennau GOV.UK Cofrestrfa Tir EF (yn agor mewn tab newydd).

Bydd Cyngor Bwrdeistref Cyngor Sir Benfro yn parhau i ddarparu atebion i ymholiadau Con29.

Mae’n bwysig cofio cyflwyno dim ond y ffi ofynnol o £124.80 (preswyl) £124.80 (masnachol) wrth gyflwyno ymholiad CON29 i ni ar ôl 1af April 2023.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwasanaeth Pridiannau tir lleol GOV.UK (yn agor mewn tab newydd).

Beth yw'r gwasanaeth pridiannau tir lleol?

Darperir y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar gyfer unrhyw un sy’n prynu eiddo neu dir o fewn ffiniau Cyngor Sir Penfro.

Diben y gwasanaeth yw sicrhau fod gan ddarpar brynwyr yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnynt am eiddo neu blot penodol er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus. 

Gallwch wneud cais am chwiliadau pridiannau tir lleol ar-lein drwy Fy Nghyfrif

Sut mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio?

Pan fydd eiddo neu ddarn o dir yn cael ei brynu neu ei roi ar les bydd yn cael ei brisio. Bydd ein tîm pridiannau tir lleol yn cadw'r gofrestr pridiannau tir lleol er mwyn sicrhau, pan fydd rhywun yn mynd ati i chwilio am yr eiddo neu'r darn o dir, bod yr holl wybodaeth yn gyfredol a chywir

Mae'r chwiliad yn cynnwys:

  • Ffurflen CON29 sy’n darparu gwybodaeth yn ymwneud â materion priffyrdd, materion cynllunio a materion amgylcheddol

Rydym hefyd yn cydweithio yn agos gyda thimau eraill megis:

  • Trafnidiaeth
  • Yr Amgylchedd
  • Datblygu
  • Gofal Cymdeithasol
  • Tai

 

Beth rydynm ni eisiau i chi ei wneud

Er mwyn i ni allu delio gyda'ch chwiliad am eiddo neu dir yn brydlon gofynnwn i chi wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod map lleoliad cyfredol Arolwg Ordnans (graddfa 1:2500) yn cael ei gyflwyno gyda phob cais am chwiliad, gyda therfynau’r eiddo wedi ei arddangos yn glir arno
  • Gallwch wneud cais am chwiliadau Pridiannau Tir Lleol ar-lein drwy Fy Nghyfrif 

 

Cyngor: er enghraifft, ni fydd yr wybodaeth am ffyrdd ochr neu ffyrdd gefn ychwanegol, neu ffyrdd sy’n rhedeg ochr yn ochr â therfynau’r eiddo neu'r tir yn ymddangos yng nghanlyniadau’r chwiliad oni bai fod eu henwau wedi’u pennu ym ‘Mlwch C’ neu y cyfeirir atynt neu y’u hamlygir ar y plan lleoliad a gyflwynir

 

Ffioedd

Disgrifiad

Ffi CON29

 TAW

 Cyfanswm ffi newydd

Chwiliad safonol a CON29R

 £122.50

 £24.50

 £147.00

Ymholiadau dewisol (4-21)

 £12.50

 £2.50

 £15.00

Ymholiadau dewisol (Cwestiwn 22)

£17.50

£3.50

£21.00

Ffi weinyddol CON29O yn unig

 £21.00

£4.20

£25.20 

Cwestiynau'r cyfreithiwr ei hun

 £17.50

 £3.50

 £21.00

 

Os oes angen copi o'r ddogfen arnoch, anfonwch e-bost at: landcharges@pembrokeshire.gov.uk

Sylwer: Nid yw ein tîm yn cadw gwybodaeth am faterion priffyrdd, cynllunio nag iechyd amgylcheddol. Er mwyn arbed amser wrth wneud eich chwiliad, cysylltwch â'r gwasanaethau hynny yn uniongyrchol am gymorth pellach.

 

Mae’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Cymru) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol inni gyhoeddi gwybodaeth am y gost o ddarparu’r gwasanaeth pridiannau tir lleol yn ogystal â’r incwm y mae’n ei ddarparu.

Blwyddyn 2022 i 2023 

  • Incwm £136,645.14
  • Gwariant £205,956.31
  • Ffi chwiliad llawn £104.80
  • Ffi LLC1 yn unig £6.00
  • Cyfaint y chwiliad llawn 2,590
  • Cyfaint yr LLC1 yn unig 453

 

Am fwy o wybodaeth:

Ffôn: (01437) 776224

 

ID: 2348, revised 12/08/2025