Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Priodasau Sifil a Phartneriaethau – Hysbysiad Cyhoeddus Safle Cymeradwy

Hysbysiad o fwriad i wneud cais am gymeradwyo trwydded i weinyddu Priodasau / Partneriaethau Sifil yn unol â Deddf Priodas 1994 a Deddf Partneriaeth Sifil 2004.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwrthwynebu neu gyflwyno sylwaday ynglŷn â’r cais hwn wneud hynny yn ysgrifenedig o fewn i’r 21 diwrnod nesaf wedi’r rhybudd hwn i’r:

Y Swyddog Priodol

Cyngor Sir Benfro

Y Swyddfa Gofrestru Archifdy Sir Benfro

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 2PE

 

Ymgeisydd

Lleoliad

Dechrau'r cyfnod hysbysu

Diwedd y cyfnod hysbysu

 - Castell Carew, Lôn y Castell, Carew, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro SA70 8SL  21/08/2024  11/09/2024
 Patricia Griffiths Ysgubor Woodhouse, Rhosfarced, Aberdaugleddau, Sir Benfro SA73 1LH  03/09/2024  24/09/2024

 

ID: 11142, revised 03/09/2024
Print

Priodi

Mae eich priodas yn achlysur unigryw ac arbennig, ac rydym yma i'ch helpu i wneud y diwrnod yn un cofiadwy.   

Beth bynnag a ddewiswch, boed yn seremoni fach gyda chi eich dau a dau dyst, achlysur teuluol cartrefol neu ddathliad mawreddog, fe fyddwn yn falch o'ch helpu i drefnu diwrnod a fydd yn gwireddu eich breuddwydion.   

Ble bynnag y cynhaliwch eich seremoni, boed yn y Swyddfa Gofrestru, yn un o'n hadeiladau trwyddedig, neu mewn eglwys neu addoldy arall, fe fydd yn rhaid i chi fod yn gyfarwydd â'r trefniadau ffurfiol canlynol.  

  • nid oes raid i chi fyw yn Sir Benfro os byddwch am gynnal eich seremoni o fewn y sir  
  • fe ddylech archebu mewn da bryd er mwyn sicrhau'r amser a'r dyddiad sydd orau gennych; cysylltwch â ni i drafod dyddiadau ac amserau posibl 
  • mae'n rhaid i chi a'ch partner fod dros 18 oed, heb fod yn perthyn i'ch gilydd, a heb fod mewn priodas neu bartneriaeth sifil ar y pryd
  • fe fydd yn rhaid i chi eich dau roi rhybudd o briodas yn y swyddfa gofrestru yn yr ardal lle rydych yn byw  
  • mae rhybudd o briodas yn ddilys am un flwyddyn, ond rydym yn derbyn archebion dros dro fwy na blwyddyn o flaen llaw  
  • fe fydd angen i chi wneud apwyntiad i roi rhybudd o briodas, ac fe ddylech drefnu hyn dros y ffôn  
  • fe fydd yn rhaid i chi sicrhau fod y dogfennau cywir gennych pan ddowch i'r apwyntiad; oes nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni am gyngor
  • fe allwn gynnig awgrymiadau ynghylch cynnwys eich seremoni, ond cofiwch mai chi biau'r diwrnod, felly mae croeso i chi gynnig eich syniadau eich hunain  

Mae ein staff cofrestru arbenigol ar gael i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i'ch helpu i greu eich diwrnod perffaith.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:  

Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro

Swyddfa Gofrestru Sir Benfro

Archfidy Sir Benfro

Prendergast

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 2PE

Ffôn 01437 775176

E-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk

Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm

 

ID: 90, adolygwyd 05/12/2023

Ffurfio Partneriaeth Sifil

Mae eich partneriaeth sifil yn achlysur unigryw ac arbennig, ac rydym yma i'ch helpu i wneud y diwrnod yn un cofiadwy.

Beth bynnag a ddewiswch, boed yn seremoni fach gyda chi eich dau a dau dyst, achlysur teuluol cartrefol neu ddathliad mawreddog, fe fyddwn yn falch o'ch helpu i drefnu diwrnod a fydd yn gwireddu eich breuddwydion.   

Ble bynnag y cynhaliwch eich seremoni, boed yn y Swyddfa Gofrestru neu yn un o'n lleoliadau cymeradwy, fe fydd yn rhaid i chi fod yn gyfarwydd â'r trefniadau ffurfiol canlynol.

  • nid oes raid i chi fyw yn Sir Benfro os ydych am gynnal eich seremoni o fewn y sir  
  • fe ddylech archebu mewn da bryd er mwyn sicrhau'r amser a'r dyddiad sydd orau gennych; cysylltwch â ni i drafod dyddiadau a'r amserau posibl 
  • mae'n rhaid i chi a'ch partner fod o dros 18 oed, heb fod yn perthyn i'ch gilydd, a heb fod mewn priodas neu bartneriaeth sifil ar y pryd
  • fe fydd yn rhaid i chi eich dau roi rhybudd o bartneriaeth sifil yn y swyddfa gofrestru yn yr ardal lle rydych yn byw  
  • mae rhybudd o bartneriaeth sifil yn ddilys am un flwyddyn, ond rydym yn derbyn archebion dros dro fwy na blwyddyn o flaen llaw  
  • fe fydd angen i chi wneud apwyntiad i roi rhybudd o bartneriaeth sifil, ac fe ddylech drefnu hyn dros y ffôn  
  • fe fydd yn rhaid i chi sicrhau fod y dogfennau cywir gennych pan ddowch i'r apwyntiad; oes nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni am gyngor
  • mae partneriaeth sifil wedi'i ffurfio unwaith y bydd y pâr wedi llofnodi'r atodlen gofrestru ym mhresenoldeb swyddog cofrestru a dau dyst; nid oes raid cynnal seremoni yn ôl y gyfraith, ond rydym yn cynnig dewisiadau o ran seremoni i wneud yr achlysur yn un cofiadwy  
  • fe allwn gynnig awgrymiadau ynghylch cynnwys eich seremoni, ond cofiwch mai chi biau'r diwrnod, felly mae croeso i chi gynnig eich syniadau eich hunain

Mae ein staff cofrestru arbenigol ar gael i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i'ch helpu i greu eich diwrnod perffaith.

ID: 91, adolygwyd 07/05/2024

Adnewyddu eich addunedau

Os ydych eisoes wedi cynnal priodas neu bartneriaeth sifil ffurfiol ac yn dymuno dathlu ac adnewyddu eich addunedau mewn ffordd unigryw a phersonol, gallai'r seremoni hon fod yn addas i chi.

Dyma gyfle i ddathlu pen-blwydd priodas arbennig, i ail-gysegru'r addunedau a wnaethpwyd mewn priodas neu bartneriaeth sifil a oedd efallai wedi digwydd mewn gwlad arall lle nad oedd teulu a ffrindiau yn gallu bod yn bresennol, neu i ail-ddatgan yn syml eich ymrwymiad i'ch gilydd.

Yn wahanol i briodas neu bartneriaeth sifil, nid oes unrhyw statws cyfreithiol i'r seremoni hon, ond fe'i bwriedir i fod yn arwyddocaol ac yn bersonol i bob cwpwl.   

Beth sy'n digwydd yn y seremoni?

Rydych yn gallu rhoi addewidion i'ch gilydd, cyfnewid modrwyau a gwahodd eich gwesteion i gymryd rhan yn y seremoni. Cyflwynir tystysgrif goffaol i gydnabod yr achlysur.

Pwy sy'n gallu adnewyddu eu haddunedau?

Mae'n bosibl i unrhyw gwpwl priod neu bartneriaid sifil, o unrhyw oedran ac wedi bod yn briod neu'n bartneriaid sifil am ba bynnag hyd, drefnu seremoni i adnewyddu addunedau. Nid oes raid i chi fyw yn Sir Benfro i drefnu seremoni yn y sir.  

Ble ellir cynnar seremonïau adnewyddu addunedau?

Rydym yn cynnig seremonïau Adnewyddu Addunedau yn y Swyddfa Gofrestru ac mewn Adeiladau Cymeradwy o fewn y sir.  

Pa ddogfennau sy'n rhaid eu cynhyrchu?

Mae'n rhaid cyflwyno eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil ar adeg trefnu'r seremoni.  

Mae ein staff cofrestru arbennig yma i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i greu eich diwrnod perffaith.

ID: 92, adolygwyd 22/02/2023

Ble i gynnal eich seremoni

Fe allwch gynnal seremoni sifil mewn Swyddfa Gofrestru neu adeilad cymeradwy neu seremoni grefyddol mewn eglwys neu adeilad crefyddol.   

Ystafelloedd seremoni y swyddfa gofrestru

Mae'r Swyddfa Gofrestru ar gael ar gyfer seremonïau statudol sylfaenol, gyda lle i 4 o bobl.

Am fanylion am ddyddiadau posibl neu i drefnu seremoni, rhowch alwad i ni ar 01437 775176.

Adeiladau cymeradwy ar gyfer seremonïau sifil  

Rhaid cynnal seremonïau sifil mewn lleoliad sydd wedi'i gymeradwyo gan eich awdurdod lleol.  

Mae lleoliadau yn amrywio o ran maint a lleoliad ac yn cynnwys gwestai bach, cartrefol, ysguboriau sydd wedi'u hadnewyddu'n chwaethus, gwestai a phlastai mwy o faint, a hyd yn oed cestyll! Maen nhw i gyd wedi'u lleoli yn rhai o fannau mwyaf rhamantus, hanesyddol a phrydferth Sir Benfro - yng nghefn gwlad gogledd y Sir, ar hyd yr arfordir nodedig, ac yn nhrefi glan môr y de. Yr her fwyaf i chi fydd dewis un ohonyn nhw!

Pan fyddwch wedi dewis eich lleoliad, fe ddylech holi a yw ar gael ac archebu am y tro. Mae'n bwysig iawn wedyn ichi gysylltu â ni i wneud yn siŵr bod cofrestryddion ar gael i gynnal a chofrestru eich achlysur. 

Sefydliadau crefyddol

Os byddwch yn bwriadu priodi yn Eglwys Loegr neu'r Eglwys yng Nghymru, fe fydd yn rhaid i chi siarad â ficer y plwyf, a fydd yn trafod eich cynlluniau gyda chi. Cyfrifoldeb y ficer fydd rhoi'r alwad allan a chofrestru eich priodas, ac ni fydd rhaid galw am wasanaeth y swyddfa gofrestru leol fel arfer.

Os byddwch am gynnal eich priodas neu bartneriaeth sifil mewn adeilad crefyddol arall, rhaid i chi roi rhybudd i'ch Swyddfa Gofrestru leol.  

Fel arfer, dylai un ohonoch neu'r ddau fod yn byw yn yr ardal lle'r ydych yn bwriadu priodi, neu dylai'r adeilad fod yn ‘addoldy arferol' i'r naill neu'r llall. Cewch hefyd gynnal eich seremoni mewn ardal arall os nad oes gan eich crefydd chi adeilad yn yr ardal(oedd) lle'r ydych chi'n byw.

Rhaid i gofrestrydd o'r ardal lle mae'r adeilad fod yn eich seremoni oni bai bod gan yr adeilad ei berson ‘awdurdodedig' ei hunan sy'n gallu cofrestru priodasau. Byddai'n well i chi wirio hyn, ac os bydd angen cofrestrydd, dylech gysylltu â ni i sicrhau bod un ar gael cyn i chi bennu eich dyddiad a'ch amser. 

Ni ellir cynnal Seremonïau Enwi ac Adnewyddu Addunedau mewn adeilad crefyddol.  

Priodi y tu allan i Sir Benfro

Gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil mewn unrhyw swyddfa gofrestru neu adeilad cymeradwy o'ch dewis yng Nghymru a  Lloegr, waeth  pa ardal yr ydych yn byw. Fe fydd yn rhaid i chi wneud trefniadau'n uniongyrchol gyda'r swyddfa gofrestru neu'r adeilad cymeradwy. Mae rhestr lawn o adeiladau trwyddedig ar gael o'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Cynnal eich seremoni dramor

Os byddwch yn meddwl priodi neu gynnal seremoni partneriaeth sifil dramor, dylech sicrhau eich bod yn deall ac yn dilyn pob rheoliad yn unol â chyfraith y wlad honno. Mae hi bron yn siŵr y bydd angen i chi gyflwyno rhai dogfennau, ac mewn rhai amgylchiadau Tystysgrif o Ddim Rhwystr, sydd ar gael gan y Swyddfa Gofrestru. Ein cyngor yw eich ichi gysylltu â llysgennad y wlad lle rydych yn dymuno priodi.

Parcio prin 2 awr am ddim y tu ôl i'r Swyddfa Gofrestru

ID: 93, adolygwyd 22/02/2023

Cynllunio'ch seremoni

Croeso i Wasanaeth Cofrestru Sir Benfro. Rydym wrth ein bodd eich bod wedi dewis cynnal eich diwrnod arbennig yn Sir Benfro. Bydd eich seremoni'n cael ei theilwra i'ch gofynion, ac fe fydd mor ffurfiol neu anffurfiol ag yr ydych yn dymuno. Mae ein staff cofrestru arbenigol ar gael i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i'ch helpu i greu eich diwrnod perffaith.

Cyrraedd eich seremoni

Dylech gyrraedd o leiaf 20 munud cyn amser penodedig eich seremoni a fydd yn dechrau'n brydlon ar yr amser yr ydych wedi'i neilltuo. Os ydych yn dymuno aros ar wahân cyn y seremoni, trefnwch i gyrraedd ar amserau gwahanol, gyda'r ail bartner yn cyrraedd tua 10 munud ar ôl y cyntaf.

Byddwch gystal â chymryd i ystyriaeth unrhyw oedi gyda thraffig a ffotograffiaeth cyn y briodas a sicrhau bod pawb yn cyrraedd mewn da bryd.

Barddoniaeth/rhyddiaith

Mae darlleniadau barddoniaeth neu ryddiaith yn ffordd dda o gynnwys aelodau eich teulu neu'ch ffrindiau yn eich seremoni. Mae croeso hefyd i chi gynnwys eitemau cerddorol yn eich seremoni cyhyd â'n bod yn eu cymeradwyo.

Ffotograffiaeth neu ffilm

Os hoffech i rywun dynnu lluniau neu ffilmio yn ystod eich seremoni, gofynnwn i chi enwebu un person i wneud hyn a gofyn iddynt gyflwyno'u hunain i'r gweinydd cyn dechrau'r seremoni. Nodwch na chaniateir ffotograffiaeth fflach yn ystod y seremoni.

ID: 94, adolygwyd 05/01/2023

Rhoi rhybudd o briodas neu bartneriaeth

 

Cyn y gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil bydd gofyn i chi’ch dau roi hysbysiad am briodas neu bartneriaeth sifil. Gellir rhoi’r hysbysiadau hyd at 12 mis ymlaen llaw a rhaid eu rhoi o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad y seremoni.

Gellir rhoi hysbysiadau naill ai yn Saesneg neu’n ddwyieithog. Os nad ydych yn siarad Cymraeg neu Saesneg yn rhugl bydd angen i chi ddod â chyfieithydd. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mae rhoi hysbysiad yn ddatganiad cyfreithiol i’r Cofrestrydd Arolygol. Bydd angen i’r ddau ohonoch roi eich manylion personol a gwneud datganiad eich bod dros 18 oed ac yn rhydd i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil.

Bydd angen i’r ddau ohonoch fod yn bresennol wyneb yn wyneb yn y swyddfa gofrestru yn yr ardal yr ydych yn byw ynddi neu yr ydych wedi byw ynddi am o leiaf saith diwrnod olynol llawn (gweler yr eithriad isod os ydych yn destun rheolaeth fewnfudo).

Gwneud apwyntiad i roi hysbysiad

Cyn gwneud apwyntiad mae angen i chi ddarllen yr wybodaeth ganlynol. Gall methu â gwneud hynny olygu na all eich apwyntiad fynd yn ei flaen.

Tystiolaeth o enw, cyfenw, dyddiad geni a chenedligrwydd

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig bydd angen i chi ddod â’r canlynol gyda chi –

Pasbort Prydeinig cyfredol yn dangos eich enw presennol

NEU

Tystysgrif Geni Lawn y DU a thrwydded yrru gyfredol (llawn neu dros dro)

Os cawsoch eich geni wedi Rhagfyr 1982, bydd hefyd angen ichi ddarparu un ai tystysgrif geni’r DU eich mam neu dystysgrif geni’r DU eich tad, ynghyd â thystysgrif priodas eich rhieni.

Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig bydd angen i chi ddod â’r canlynol gyda chi –

            Pasbort cyfredol yn dangos eich enw presennol

            NEU

            Os nad oes gennych basbort dilys, cysylltwch â ni am gyngor pellach

            A

            Phrawf o statws mewnfudo neu fisa priodas

 

Tystiolaeth o’ch man preswylio – un o'r canlynol

  • Bil gwasanaethau cyhoeddus wedi’i ddyddio o fewn y tri mis diwethaf
  • Cyfriflen/paslyfr banc neu gymdeithas adeiladu wedi’i ddyddio o fewn y mis diwethaf
  • Bil treth gyngor wedi’i ddyddio o fewn y 12 mis diwethaf
  • Cyfriflen morgais wedi’i ddyddio o fewn y flwyddyn ddiwethaf
  • Cytundeb tenantiaeth breswyl presennol
  • Trwydded yrru ddilys

Tystiolaeth bod priodas/partneriaeth sifil flaenorol wedi dod i ben

  • Archddyfarniad absoliwt y DU, NEU
  • Tystysgrif Marwolaeth y DU

Tystiolaeth o unrhyw newid enw – megis gweithred newid enw

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu dogfennau gwreiddiol. Ni ellir derbyn llungopïau.

Y ffi ar gyfer hysbysiad o briodas / partneriaeth sifil yw £42.00 yr un lle mae’r ddau barti yn ddinasyddion Prydeinig, yn ddinasyddion Gwyddelig, neu’n rhywun â naill ai statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog i ddinasyddion yr UE, caniatâd amhenodol i aros neu ddod i mewn, hawl preswylio, esemptiad diplomyddol neu filwrol, neu fisa priodas dilys.

I bob unigolyn arall, y ffi am hysbysiad am briodas yw £57.00.Bydd angen i’r ddau ohonoch fod yn bresennol yn yr un swyddfa hefyd, hyd yn oed os ydych yn byw mewn ardaloedd gwahanol ac yn destun Cynllun Atgyfeirio'r Swyddfa Gartref.

Os nad ydych yn gallu darparu’r dogfennau fel y’u rhestrir, neu os ydych yn ansicr sut i symud ymlaen, cysylltwch â ni am gyngor pellach.

Trefnu apwyntiad

Cysylltwch â ni drwy ffonio 01437 775176 neu drwy anfon neges e-bost i ceremonies@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 95, adolygwyd 16/08/2024

Faint fydd y gost?

Mae Telerau a Amodau yn berthnasol.

Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Cofrestru os gwelwch yn dda

I gyflwyno eich taliad gyda cherdyn debyd neu gredyd, naill ai

  • Ewch ar-lein ar Taliad Seremoni. Bydd y swm sydd angen i chi ei dalu yn cael ei gyfrifo'n awtomatig.

neu

  • Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 01437 775176

  • Dyfynnwch gyfeirnod y safle cymeradwy, dyddiad a lleoliad eich seremoni a’r swm rydych yn ei dalu

  • Byddwch yn cael cyfeirnod taliad. Nodwch hyn rhag ofn y bydd ymholiadau yn y dyfodol.

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Cofrestru 

 

1 Ebrill 2024 - 31 Mawrth 2025

Ystafell Seremoni, Archifdy Sir Benfro

Priodas/Partneriaeth Sifil gyda hyd at 8 o westeion

Llun-Iau
  • Cadw'r Dyddiad £32.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £120.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £164.50

Gwener-Sadwrn
  • Cadw'r Dyddiad £32.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £240.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £284.50

Gwasanaethau Eraill
  • Seremoni enwi adnewyddu addunedau £182.00 (Llun-Iau) £307.00 (Gwener-Sadwrn)

  • Seremoni Dinasyddiaeth Breifat £90.00 (Llun-Iau) £250.00 (Gwener-Sadwrn)

  • Ffi ychwanegol y seremoni £110.00

  • Sgript seremoni pwrpasol £65.00

  • Ymarfer seremoni £65.00 (Llun-Gwener 9.00yb - 6.00yn)

 

Adeiladau Cymeradwy yn Sir Benfro 

Llun-Iau
  • Cadw'r Dyddiad £32.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £566.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £610.50

Gwener-Sadwrn
  • Cadw'r Dyddiad £32.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £635.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £679.50

Sul a Gwyliau Banc
  • Cadw'r Dyddiad £32.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £822.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £866.50

Gwasanaethau Eraill
  • Seremoni enwi adnewyddu addunedau £527.00 (Llun-Iau) £587.00 (Gwener-Sadwrn) £812.00 (Sul a Gwyliau Banc)

  • Ffi ychwanegol y seremoni £110.00

  • Sgript seremoni pwrpasol £65.00

  • Ymarfer seremoni £160.00 (Llun-Gwener 9.00yb - 6.00yn), £215.00 (Yr hwyr & Sadwrn), £235.00 (Sul)

 

Priodas mewn addoldy

Ffi Seremoni Statudol a bennir gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

  • Cadw'r Dyddiad £32.00 (os archebwyd dyddiad y seremoni cyn yr hysbysiad o briodas/partneriaeth sifil)

  • Ffi am bresenoldeb cofrestrydd £104.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £148.50

 

Priodas/Partneriaeth Sifil Statudol (gyda 2 dyst)

Ffi Seremoni Statudol a bennir gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

  • Cadw'r Dyddiad £32.00 (os archebwyd dyddiad y seremoni cyn yr hysbysiad o briodas/partneriaeth sifil)

  • Ffi am bresenoldeb cofrestrydd £56.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £100.50

 

Seremonïau Deuol

Seremoni gyfreithiol Ystafell Seremoni Sir Benfro ynghyd â seremoni dathlu mewn lleoliad didrwydded

  • Cadw'r Dyddiad £32.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil (cyfreithiol a dathliadol) £950.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Total: £994.50

 

 

ID: 96, adolygwyd 25/07/2024

Lleoliadau cymeradwy ar gyfer seremonïau sifil

Mae'n rhaid cynnal seremonïau sifil mewn lleoliad sydd wedi'i gymeradwyo gan eich awdurdod lleol.  

Mae lleoliadau'n amrywio o ran maint a lleoliad ac yn cynnwys gwestai bach, cartrefol, ysguboriau sydd wedi'u hadnewyddu'n chwaethus, gwestai a phlastai mwy o faint, a hyd yn oed cestyll! Maen nhw i gyd wedi'u lleoli yn rhai o fannau mwyaf rhamantus, hanesyddol a phrydferth Sir Benfro - yng nghefn gwlad gogledd y Sir, ar hyd yr arfordir nodedig, ac yn nhrefi glan môr y de. Yr her fwyaf i chi fydd dewis un ohonyn nhw!

Pan fyddwch wedi dewis eich lleoliad, fe ddylech holi a yw ar gael ac archebu am y tro. Mae'n bwysig iawn wedyn ichi gysylltu â ni i wneud yn siŵr bod cofrestryddion ar gael i gynnal a chofrestru eich achlysur.

Os hoffech wneud cais am eich lleoliad i fod yn ganiatâd cymeradwy, darllenwch, llenwch a dychwelwch y ffurflen gais.

 

Lleoliad

Trwydded yn Dod i Ben

Ffôn

Alltyrafon (yn agor mewn tab newydd), Wolfscastle Country Hotel
Cas-blaidd SA62 5LZ 

 15/05/2027

01437 741225

Beggars Reach Hotel (yn agor mewn tab newydd)
Burton, Aberdaugleddau SA73 1PD

 09/02/2028

01646 600700

Cardeeth (yn agor mewn tab newydd)
Cresselly, Cilgetti, SA68 0TS 

 21/06/2027

07769 692104

Castell Caeriw (yn agor mewn tab newydd)
Castle Lane, Dinbych-y-Pysgod, SA70 8SL 

 01/07/2025

01646 651782

Cedar Barn (opens in a new tab)
St Twynnells, Sir Benfro, Sir Benfro SA71 5HX

 22/05/2027

 01646 661725

Cresselly House (yn agor mewn tab newydd)
Cresselly, Cilgeti SA68 0SP

 27/08/2025 

01646 651992

Crug-Glas Country House (yn agor mewn tab newydd)
Solfach SA62 6XX

 10/07/2027

01348 831302

Dawn till Dusk
Bastleford Road, Rosemarket, Aberdaugleddau, Sir Benfro SA73 1JY

 24/05/2027

01437 899959

Druidstone Hotel (yn agor mewn tab newydd)
Druidstone Haven, Hwlffordd  SA62 3NE

 27/06/2027

01437 781221

Fforest Farm (yn agor mewn tab newydd)
Cilgerran, Aberteifi SA43 2TB 

 26/10/2025

01239 623751

Gelli Fawr (yn agor mewn tab newydd)
Pontfaen, Abergwaun SA65 9TX

 24/02/2025

01239 820343

Giltar Hotel (yn agor mewn tab newydd)
Yr Esplanâd, Dinbych-y-pysgod SA70 7DU

 14/12/2027

01834 842507

Hilton Court (yn agor mewn tab newydd)
Roch, Hwlffordd, SA62 6AE

 16/04/2026

01437 710262

Hotel Plas Hyfryd (yn agor mewn tab newydd)
Moorfield Road, Arberth SA67 7AB

 07/05/2026

01834 869006

Llwyngwair Manor (yn agor mewn tab newydd)
East Street, Trefdraeth SA42 0SY

 22/03/2025

01239 820498

Llys Meddyg (yn agor mewn tab newydd)
East Street, Trefdraeth SA42 0SY

 19/03/2025

01239 820008

Manorbier Castle (yn agor mewn tab newydd)
Manorbier, ger Dinbych-y-pysgod

 02/03/2028

01834 870081

Manor House Wildlife Park (yn agor mewn tab newydd)
St Florence, Dinbych-y-pysgod SA70 9RJ

 30/09/2024

01646 651201

Monk Haven Manor (yn agor mewn tab newydd)
St Ishmaels, Hwlffordd, SA62 3TH

 14/11/2025

01646 636216

Musslewick Farm (yn agor mewn tab newydd)
St Brides, Hwlffordd, SA62 3AW

 11/05/2026

 01646 635949

Nantwen (yn agor mewn tab newydd)
Felindre Fachog, Crymych, SA41 3XG

 25/08/2027

01239 820768

Newport Links Golf Club (yn agor mewn tab newydd)
Golf Course Road, Trefdraeth SA42 0NR

 11/09/2025

01239 820244

Nolton Coast (yn agor mewn tab newydd) 
East Nolton, Nolton, Hwlffordd, SA62 3NW

 06/04/2026

01437 710360

Castell Penfro (yn agor mewn tab newydd)
Penfro SA71 4LA

 28/08/2027

01646 681510

Picton Castle (yn agor mewn tab newydd)
Hwlffordd SA62 4AS

 06/07/2024 

01437 751326

Plas Pantyderi Manor (yn agor mewn tab newydd)
Pantyderi, Blaenffos, Boncath SA37 0JB 

 19/04/2027

07855 955698

Maenordy Scolton (yn agor mewn tab newydd)
Spittle, Hwlffordd, SA62 5QL

 10/02/2028

01437 731328

Parc Slebets (yn agor mewn tab newydd)
Hwlffordd SA62 4AX

 24/01/2028

01437 752000

Canolfan Ddysgu Awyr Agored Ystagbwll (yn agor mewn tab newydd)
Old Home Farmyard, Ystagbwll SA71 5DQ 

 06/08/2027

01646 661359

St Brides Spa Hotel (yn agor mewn tab newydd)
St Brides Hill, Saundersfoot SA69 9NE

 26/03/2026

01834 812304

Teifi Waterside Hotel (yn agor mewn tab newydd) 
Poppit Sands, Llandudoch, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3LN

 16/02/2028

01239 614974

The Begelly Arms (yn agor mewn tab newydd)
New Road, Begelly, Kilgetty, SA68 0YF

 12/10/2024

01834 812601

The Grove (yn agor mewn tab newydd) 
Molleston, Arbert SA67 8BX

 24/02/2026 

01834 860915

The Imperial Hall (yn agor mewn tab newydd)
43 Hamilton Terrace, Aberdaugleddau SA73 3JN

 19/04/2027

07949 406624

The Imperial Hotel (yn agor mewn tab newydd)
The Paragon, Dinbych y pysgod SA70 7HR

 16/11/2025

01834 843737

The Lord Nelson Hotel (yn agor mewn tab newydd)
Hamilton Terrace, Aberdaugleddau SA73 3AW

 14/03/2027

01646 450445

The Old Rectory (yn agor mewn tab newydd)
Fishguard Road, Trefdraeth, SA42 0UE

 03/02/2025 

01239 820277

The Pembrokeshire Retreat, Rhos-y-Gilwen Mansion (yn agor mewn tab newydd) 
Rhoshill, Cilgerran, Aberteifi SA43 2TW

 04/02/2027

01239 841387 

The Queen's Hall (yn agor mewn tab newydd) 
44 High Street, Narberth, SA67 7AS

 21/06//2027

 01834 861212

The Regency Hall (yn agor mewn tab newydd) 
King George V Playing Fields, Milford Street, Saundersfoot, SA69 9EW

 22/11/2025

01834 811700 

The Snooty Fox (yn agor mewn tab newydd) 
Martletwy, Arberth SA67 8AD

 28/08/2027

01834 891300

Trefloyne Manor yn agor mewn tab newydd)
Trefloyne Lane, Penalun, Dinbych y pysgod SA70 7RG

 19/04/2026

01834 842165

Waterwynch House (yn agor mewn tab newydd)
Narberth Road, Dinbych y pysgod SA70 8TJ

 03/05/2026

01834 850100

Twr y felin (opens in a new tab)
Tyddewi, SA62 6BN

 21/06/2027

 01437 725555

Woodhouse Barn (yn agor mewn tab newydd)
Rosemarket, Aberdaugleddau SA73 1LH

 06/10/2025

01437 769154

 

 

 

 

 

 

ID: 97, adolygwyd 21/08/2024

Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Trowch eich cefn ar strach a helynt bywyd y dref a'r ddinas a gwelwch eich breuddwydion am ddiwrnod perffaith yn dod yn wir pan ddewiswch Sir Benfro ar gyfer eich priodas, partneriaeth sifil neu eich seremoni enwi neu ailddatgan addunedau. 

Mae Sir Benfro, Bro Hud a Lledrith, a'i Gwasanaeth Cofrestru yn eich gwahodd i ddathlu achlysuron pwysicaf eich bywyd yn y sir hudol hon. 

Yn Sir Benfro gellir cynnal pob seremoni sifil yn Swyddfa Gofrestru Ardal Sir Benfro yn Hwlffordd neu yn unrhyw un o nifer o adeiladau sydd wedi eu cymeradwyo ar hyn o bryd.  Mae'r mannau hyn yn amrywio o ran  maint a lleoliad - gwestai bach agosatoch, ysgubor wedi ei ailwampio'n chwaethus, neu westai mwy, plastai a thai gwledig a hyd yn oed castell neu ddau!  Mae pob un yn rhai o ardaloedd harddaf Sir Benfro - ym mhellafoedd y wlad yn y gogledd, ger glannau geirwon ysgubol neu drefi glan môr yn y de.  Mae rhywbeth i bawb, eich problem fwyaf fydd penderfynu lle! 

Bydd eich seremoni chi yn cael ei llunio'n arbennig ar gyfer eich gofynion, ac mae'n gallu bod mor ffurfiol neu anffurfiol ag y dymunwch - cyn lleied â'r ddau ohonoch a dau dyst neu gynulliadau mwy yn unol â'r lleoliad y byddwch yn ei ddewis.  Fe gewch seremoni draddodiadol neu anffurfiol ac yna gwledd, barbiciw neu ddim ond mynd am dro bach ar y traeth a hedfan eich barcut!

Trowch eich cefn ar hynt a helynt y byd a mwynhau profiad gwirioneddol hudolus. 

I gadw lle, trefnu apwyntment neu ar gyfer cyngor cyffredinol a gwybodaeth:

Cysylltwch â ni

Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro
Archfidy Sir Benfro
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PE

Ffôn 01437 775176
E-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk

Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm

 

ID: 77, adolygwyd 22/02/2023