Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Priodasau Sifil a Phartneriaethau – Hysbysiad Cyhoeddus Safle Cymeradwy

Hysbysiad o fwriad i wneud cais am gymeradwyo trwydded i weinyddu Priodasau / Partneriaethau Sifil yn unol â Deddf Priodas 1994 a Deddf Partneriaeth Sifil 2004.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwrthwynebu neu gyflwyno sylwaday ynglŷn â’r cais hwn wneud hynny yn ysgrifenedig o fewn i’r 21 diwrnod nesaf wedi’r rhybudd hwn i’r:

Y Swyddog Priodol

Cyngor Sir Benfro

Y Swyddfa Gofrestru Archifdy Sir Benfro

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 2PE

 

Ymgeisydd

Lleoliad

Dechrau'r cyfnod hysbysu

Diwedd y cyfnod hysbysu

 Helen Hobson  Ty Waterwynch  06/11/2025  27/11/2025

 

 

 

ID: 11142, revised 05/11/2025
Print

Priodasau a phartneriaethau sifil

Mae gennym amrywiaeth o opsiynau ar gyfer priodi neu ffurfio partneriaeth sifil sy’n amrywio o gofrestriad syml i seremoni gwbl bwrpasol.   

 

Ar y dudalen hon:

Seremoni uwch

Seremoni syml

Cofrestriad syml

Seremonïau pwrpasol



Seremoni uwch

Gall seremonïau uwch mewn safleoedd cymeradwy neu yn ein hystafell seremoni fod mor syml neu mor bersonol ag y dymunwch.

Yn ogystal â’ch addunedau cyfreithiol, gallwch wneud y canlynol:

  • dewis ysgrifennu cyflwyniad i’ch seremoni yn llawn elfennau personol neu gallwch ddewis i’ch cofrestrydd seremoni wneud hyn ar eich rhan
  • gwneud addewidion i’ch gilydd sy’n eich adlewyrchu chi fel cwpl
  • cynnwys hyd at ddau ddarlleniad neu gân i gynnwys eich ffrindiau a’ch teulu a hefyd eich personoliaethau yn eich seremoni
  • cynnwys y gerddoriaeth rydych yn ei mwynhau, naill ai drwy greu rhestr chwarae neu logi cerddor byw, band neu gôr. Yn gyffredinol, rydym yn argymell cerddoriaeth pan fydd eich gwesteion yn ymgynnull cyn y seremoni, pan fyddwch yn mynd i mewn i'r lleoliad, pan fyddwch yn llofnodi’r dogfennau cyfreithiol, a phan fyddwch yn gadael y seremoni.

 

Seremoni syml

Mae seremonïau syml yn cynnwys addunedau personol ac addunedau modrwy y gellir eu dewis o’r opsiynau a ddarperir neu gallwch ysgrifennu rhai eich hun. Gallwch gynnwys eich personoliaethau yn y seremoni trwy gynnwys cerddoriaeth pan fyddwch yn dod i mewn i'r lleoliad, pan fyddwch yn llofnodi’r dogfennau cyfreithiol, a phan fyddwch yn gadael y seremoni.



Cofrestriad syml

Bydd cofrestriad yn cynnwys y cwpl, dau dyst, a’r swyddogion cofrestru sy’n cynnal y gofynion cyfreithiol ar gyfer y cofrestriad. (Nid oes unrhyw westeion eraill, dibynyddion neu blant dan oed yn gallu mynychu’r cofrestriad hwn.)

Bydd y cofrestriad yn digwydd yn ein swyddfa ddynodedig yn Archifdy Sir Benfro. Mae cofrestriadau syml ar gael ar ddydd Mawrth.

Mae cofrestriadau priodas yn cynnwys dweud addunedau cyfreithiol ar lafar tra nad yw cofrestriadau partneriaeth sifil yn gofyn am ddweud unrhyw addunedau cyfreithiol ar lafar, ond gallwch gael yr opsiwn i ddweud y datganiad cyfreithiol ar lafar.

Yn ogystal â’ch addunedau cyfreithiol, os dymunwch rhoi modrwyau i’ch gilydd, mae yna ddetholiad o addunedau i ddewis ohonynt. Mae croeso i’ch tystion dynnu lluniau.

Er ei fod yn ddi-ffwdan, mae cofrestriad yn dal i fod yn achlysur lle gallwch chi wneud eich ymrwymiad cyfreithiol i’ch gilydd.



Seremonïau pwrpasol 

Er bod ein seremonïau uwch yn caniatáu ichi greu seremoni bersonol iawn, os ydych am fynd gam ymhellach a chreu seremoni wirioneddol unigryw, mae ein gwasanaeth pwrpasol yn rhoi’r opsiwn i chi deilwra pob agwedd ar eich seremoni.

Dyma rai syniadau ar gyfer seremoni bwrpasol.

Clymu’r cwlwm

Mae clymu cwlwm y pysgotwr yn draddodiad hardd y gellir ei wehyddu o fewn i’ch seremoni. Gelwir hwn hefyd yn gwlwm y cariad a chwlwm y pysgotwr yw un o’r clymau cryfaf sydd ar gael. Daw’r cwlwm yn gryfach o dan bwysau, sy’n arwydd o’r cariad ac ymrwymiad parhaus sydd gennych tuag at eich gilydd.

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gynnwys hyn yn eich seremoni. Gallwch ddefnyddio un rhaff neu gortyn, dau ddarn ar wahân, neu ddarn sengl sydd wedi’i wehyddu o wahanol liwiau. Wrth i chi dynnu ar bob pen i’r rhaff, mae’r cwlwm yn tynhau ac ni fydd yn cael ei ddadwneud. Mae hyn yn cynrychioli cryfder eich cwlwm fel cwpl.

Cymysgu tywod

Mae cymysgu tywod yn golygu arllwys tywod o wahanol liwiau i mewn i un llestr, sy’n cynrychioli uno unigolion mewn un uned anwahanadwy. Gellir cynnwys plant hefyd, fel symbol o ymuno fel teulu.

Gall lliwiau’r tywod fod yn ddewis personol i’r ddau ohonoch.

Un opsiwn posibl fyddai eich bod yn cymryd troeon, am yn ail â’ch gilydd, i arllwys tywod o’ch llestr i mewn i lestr canolog, gan greu haenau. Wedyn, gyda’ch gilydd, byddwch yn arllwys gweddill y tywod i’r llestr canolog fel bod y ddau liw yn cyfuno ac na ellir eu gwahanu. Mae hyn yn symbol o’ch undod mewn priodas.

Ar ôl y seremoni, bydd gennych chi symbol hardd o’ch cariad y gallwch chi ei arddangos a’i gadw am byth.

Cynhesu modrwyon

Gall seremoni cynhesu modrwyon fod yn ffordd hyfryd i’ch teulu a’ch ffrindiau gymryd rhan yn eich priodas. Mae’r modrwyau priodas yn cael eu trosglwyddo i’ch gwesteion i’w dal am ychydig eiliadau fel y gallant ’gynhesu’ y modrwyon gyda phositifrwydd a dymuniadau da am eich bywyd gyda’ch gilydd.

Mae eich modrwyon priodas yn dod yn symbol, nid yn unig o’ch ymrwymiad i’ch gilydd, ond o’r cariad a’r gefnogaeth sydd gennych o’ch cwmpas.

Rydym yn agored i geisiadau a byddwn yn gweithio gyda chi i greu seremoni sy’n dathlu eich unigolrwydd wrth hefyd fod yn gyfreithiol ac yn swyddogol.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:  

Ffôn 01437 775176

E-bost: ceremonies@pembrokeshire.gov.uk

Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm

 

ID: 90, adolygwyd 18/08/2025

Canllaw ich porth seremoni

Boed yn seremoni syml yn ein swyddfa gofrestru neu’n seremoni gwbl bwrpasol mewn unrhyw leoliad yn Sir Benfro, byddwn yn gweithio gyda chi i greu profiad gwirioneddol bersonol.

Gyda’n porth seremonïau ar-lein, gallwch deilwra cynnwys eich seremoni o’r dechrau i’r diwedd, gan sicrhau eich bod yn cynnwys popeth sy’n ofynnol yn gyfreithiol. Gellir ffurfweddu popeth yn eich amser eich hun ar eich ffôn, tabled neu liniadur.

Os ydych chi’n cael un o’n seremonïau uwch neu bwrpasol, bydd eich cofrestrydd seremoni yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i drafod eich dewisiadau ac ychwanegu unrhyw beth personol ychwanegol yr hoffech chi ei gynnwys. Ar gyfer seremonïau llai, cysylltwch â ni os hoffech egluro unrhyw beth neu drafod eich gofynion.

 

Ar y dudalen hon:

Tudalen gartref y porth

Dewisiadau seremoni

Gwybodaeth ychwanegol am gynllunio seremoni



Tudalen gartref y porth

Hafan – bydd hyn yn mynd â chi i brif dudalen hafan y porth. 

 

Rhestr wirio seremoni

Dyma’r rhestr o dasgau y bydd angen eu cwblhau cyn eich seremoni. Wrth i chi gwblhau pob tasg, bydd yn troi'n wyrdd.

Fy manylion

Bydd y dasg rhestr wirio hon wedi’i chwblhau pan wnaethoch chi archebu, ond gallwch ddefnyddio’r opsiwn hwn yn y porth i newid eich manylion cyswllt.

Trefnu apwyntiad hysbysiad

Dim ond os ydych yn byw yn Sir Benfro y gallwch ddefnyddio’r opsiwn hwn. Os ydych yn byw yn rhywle arall, bydd angen i chi gysylltu â’ch swyddfa gofrestru leol.

Dewisiadau seremoni

Dyma’r geiriau y byddwch chi’n eu dweud yn ystod eich seremoni. Ar ôl i chi uwchlwytho eich dewisiadau gallwch gael rhagolwg o’ch dewisiadau trwy'r opsiwn ‘gweld dewisiadau seremoni’ a'u hargraffu gan ddefnyddio ‘argraffu trefn y seremoni’.

Traciwr taliadau

Yn dangos i chi pa daliadau sydd wedi’u gwneud ac a oes gennych unrhyw beth ar ôl i’w dalu. Nodwch na fydd eich taliad balans terfynol yn cael ei ychwanegu tan chwe mis cyn eich seremoni.

Gwybodaeth ychwanegol am gynllunio seremoni

Ni fydd yr opsiwn hwn yn ymddangos ar gyfer pob math o seremoni, ond dyma lle byddwn ni'n casglu unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnom i sicrhau bod eich seremoni yn rhedeg yn esmwyth.

Eich seremoni

Yn dangos eich manylion archebu seremoni ac yn cyfri i lawr i ddyddiad eich seremoni. Gallwch weld manylion llawn eich archeb seremoni drwy ddewis y botwm gwyrdd.

Fy seremoni 

Yn dangos eich gwybodaeth archebu. Ar y brig fe welwch rhif adnabod eich archeb (y dylech ei ddefnyddio mewn unrhyw ohebiaeth) ac, os sgroliwch i’r dde, fe welwch statws eich archeb, e.e.

  • Dros dro – mae eich gwybodaeth archebu gyda ni ac yn aros i gael ei wirio.
  • Archeb dros dro wedi’i chadarnhau – rydym wedi gwirio’ch archeb ac wedi cadarnhau’r dyddiad a’r amser yn ein dyddiadur.
  • Wedi’i chadarnhau – unwaith y byddwch wedi talu’n llawn a chwblhau unrhyw ofynion cyfreithiol, bydd eich archeb yn cael ei chadarnhau’n llawn.



Dewisiadau seremoni

Dyma lle rydych chi’n dewis yr hyn rydych chi am ei ddweud a’i wneud yn ystod y seremoni. Ar wahân i unrhyw addunedau cyfreithiol, rhaid i chi ddewis un o’r opsiynau a roddir. Rydych chi’n rhydd i adael dewis penodol allan o’ch seremoni, dewis o un o’r opsiynau a ddarperir, neu ysgrifennu eich geiriau eich hun.

I wneud eich dewis:

  • cliciwch ar ‘golygu dewis’ (mae hyn yn dangos yr opsiynau sydd ar gael)
  • dewiswch yr opsiwn sydd orau gennych o’r gwymplen
    • gwnewch eich dewis cychwynnol
  • Os ydych chi eisiau ysgrifennu eich geiriau eich hun, dewiswch yr opsiwn hwnnw o’r rhestr, ac yna naill ai ysgrifennwch eich addunedau yn yr adran ‘gwybodaeth ychwanegol am gynllunio seremoni’ neu e-bostiwch eich addunedau i ceremonies@pembrokeshire.gov.uk.
  • Os byddwch yn newid eich meddwl ac eisiau gwneud dewis gwahanol, dewiswch ‘Newid eich dewis seremoni’, dewiswch y cylch coch i ddileu eich dewis gwreiddiol, ac yna gwnewch eich dewis newydd.

 

Gwybodaeth ychwanegol am gynllunio seremoni

Gallwn ddal yr holl bethau personol eraill yr hoffech eu cynnwys yn eich seremoni yn ogystal â’r wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth ar y diwrnod.

Gallwch weithio drwy’r cwestiynau hyn cyn eich cyfarfod cynllunio seremoni (lle bo’n berthnasol) neu aros i drafod popeth gyda’ch cofrestrydd seremoni.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, byddwch yn gallu eu trafod yn eich cyfarfod cynllunio seremoni neu gallwch gysylltu â ni ar:

Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gyngor pellach arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Ar gyfer y cyplau hynny nad ydynt yn gallu rheoli eu harcheb ar-lein, cysylltwch ag aelod o’n tîm.

E-bost: ceremonies@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 775176

ID: 91, adolygwyd 18/08/2025

Cynnal seremoni dan arweiniad gweinydd

Mae seremonïau dan arweiniad gweinyddion yn caniatáu ichi ddathlu digwyddiad heb unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol. Gallai hyn olygu cael dathliad lleol yn dilyn priodas dramor, adnewyddu addunedau ar ben-blwydd arbennig, cynnal seremoni ymrwymiad i ddathlu eich dyweddïad, neu gyfuno seremoni dan arweiniad gweinydd â phriodas neu bartneriaeth sifil gyfreithiol.

Mae ein seremonïau uwch yn cynnwys cyflwyniad personol, darlleniadau neu ganeuon, ac addunedau personol y gallwch ddewis eu hysgrifennu eich hun.

 

Ar y dudalen hon:

Seremonïau deuol

Adnewyddu eich addunedau



Seremonïau deuol

Mae seremonïau deuol yn caniatáu ichi gael y gorau o ddau fyd – seremoni dan arweiniad gweinydd mewn lleoliad o’ch dewis a seremoni gyfreithiol a gynhelir yn ein hystafell seremoni gyda’r un cofrestrydd. Bydd eich seremoni o dan arweiniad gweinydd yn gwbl bwrpasol.



Adnewyddu eich addunedau

Os ydych eisoes wedi cynnal priodas neu bartneriaeth sifil ffurfiol ac yn dymuno dathlu ac adnewyddu eich addunedau mewn ffordd unigryw a phersonol, gallai'r seremoni hon fod yn addas i chi.

Dyma gyfle i ddathlu pen-blwydd priodas arbennig, i ail-gysegru'r addunedau a wnaethpwyd mewn priodas neu bartneriaeth sifil a oedd efallai wedi digwydd mewn gwlad arall lle nad oedd teulu a ffrindiau yn gallu bod yn bresennol, neu i ail-ddatgan yn syml eich ymrwymiad i'ch gilydd.

Yn wahanol i briodas neu bartneriaeth sifil, nid oes unrhyw statws cyfreithiol i'r seremoni hon, ond fe'i bwriedir i fod yn arwyddocaol ac yn bersonol i bob cwpwl.   

Beth sy'n digwydd yn y seremoni?

Rydych yn gallu rhoi addewidion i'ch gilydd, cyfnewid modrwyau a gwahodd eich gwesteion i gymryd rhan yn y seremoni. Cyflwynir tystysgrif goffaol i gydnabod yr achlysur.

Pwy sy'n gallu adnewyddu eu haddunedau?

Mae'n bosibl i unrhyw gwpwl priod neu bartneriaid sifil, o unrhyw oedran ac wedi bod yn briod neu'n bartneriaid sifil am ba bynnag hyd, drefnu seremoni i adnewyddu addunedau. Nid oes raid i chi fyw yn Sir Benfro i drefnu seremoni yn y sir.  

Ble ellir cynnar seremonïau adnewyddu addunedau?

Rydym yn cynnig seremonïau Adnewyddu Addunedau yn y Swyddfa Gofrestru ac mewn Adeiladau Cymeradwy o fewn y sir.  

Pa ddogfennau sy'n rhaid eu cynhyrchu?

Mae'n rhaid cyflwyno eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil ar adeg trefnu'r seremoni.  

Mae ein staff cofrestru arbennig yma i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i greu eich diwrnod perffaith.

 

Os hoffech siarad ag un o’n tîm mae croeso i chi gysylltu â ni.

E-bost: ceremonies@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 775176

ID: 92, adolygwyd 18/08/2025

Ble gallaf gynnal fy seremoni?

Ar y dudalen hon:

Safleoedd cymeradwy

Ystafell seremoni Archifdy Sir Benfro 

Swyddfa Gofrestru Sir Benfro 

Lleoliadau eraill

Seremoni y tu allan i Sir Benfro 

Cynnal eich seremoni dramor 

 



Safleoedd cymeradwy

Mae safleoedd cymeradwy yn lleoliadau sydd wedi’u trwyddedu i gynnal seremonïau priodas sifil a phartneriaeth sifil. Mae Sir Benfro yn cynnig dros 50 o safleoedd ledled y sir, sy’n cynnwys:

  • cestyll
  • gwestai gwledig
  • gwestai
  • ysguboriau wedi’u trosi
  • safleoedd glampio

Mae pob un wedi’u lleoli yn rhai o ardaloedd mwyaf rhamantus, hanesyddol a hardd Sir Benfro – o ganol cefn gwlad yn y gogledd, ar hyd arfordir garw syfrdanol, i drefi traeth yn y de.

Mae amrywiaeth anhygoel o leoliadau yn Sir Benfro, sy’n golygu y gallwch gael eich seremoni gyfreithiol yn edrych dros yr arfordir neu gefn gwlad, ar draeth, wrth ymyl afon, mewn gardd furiog, ymhlith adfeilion castell, mewn chwarel neu mewn coetir.

Gweler ein rhestr lawn o safleoedd cymeradwy.



Ystafell seremoni Archifdy Sir Benfro

Yn yr archifdy, mae gennym ystafell seremoni fawr a hyfryd sy’n gallu dal hyd at 60 o westeion ar ddydd Sadwrn a 30 o westeion yn ystod yr wythnos. Mae’r ystafell ar gael o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn ac mae maes parcio mawr am ddim gerllaw’r adeilad.



Swyddfa Gofrestru Sir Benfro

Swyddfa weithredol ar gyfer cofrestriadau syml.



Lleoliadau eraill

Er mai dim ond yn ein swyddfa neu mewn safleoedd cymeradwy y gellir cynnal seremonïau cyfreithiol, gallwn fynd i unrhyw leoliad i gynnal seremoni ‘dan arweiniad gweinydd’.

Gallai hwn fod yn lleoliad heb drwydded, eich cartref neu draeth. Bydd angen i chi gael caniatâd y perchennog neu’r tirfeddiannwr i gynnal eich seremoni, a bydd yn rhaid i ni ymweld â’r safle (wedi’i gynnwys yn ffi’r seremoni) cyn y seremoni.

Nodwch: dim ond am gyflwyno’r seremoni rydym yn gyfrifol. Byddai angen i chi wneud pob trefniant arall, gan gynnwys trefnu yswiriant pe bai angen.



Seremoni y tu allan i Sir Benfro

Gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil mewn unrhyw swyddfa gofrestru neu adeilad cymeradwy o'ch dewis yng Nghymru a  Lloegr, waeth  pa ardal yr ydych yn byw. Fe fydd yn rhaid i chi wneud trefniadau'n uniongyrchol gyda'r swyddfa gofrestru neu'r adeilad cymeradwy. Mae rhestr lawn o adeiladau trwyddedig ar gael o'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.



Cynnal eich seremoni dramor

Os byddwch yn meddwl priodi neu gynnal seremoni partneriaeth sifil dramor, dylech sicrhau eich bod yn deall ac yn dilyn pob rheoliad yn unol â chyfraith y wlad honno. Mae hi bron yn siŵr y bydd angen i chi gyflwyno rhai dogfennau, ac mewn rhai amgylchiadau Tystysgrif o Ddim Rhwystr, sydd ar gael gan y Swyddfa Gofrestru. Ein cyngor yw eich ichi gysylltu â llysgennad y wlad lle rydych yn dymuno priodi.

Parcio prin 2 awr am ddim y tu ôl i'r Swyddfa Gofrestru

ID: 93, adolygwyd 06/05/2025

Cynllunio'ch seremoni

Croeso i Wasanaeth Cofrestru Sir Benfro. Rydym wrth ein bodd eich bod wedi dewis cynnal eich diwrnod arbennig yn Sir Benfro. Bydd eich seremoni'n cael ei theilwra i'ch gofynion, ac fe fydd mor ffurfiol neu anffurfiol ag yr ydych yn dymuno. Mae ein staff cofrestru arbenigol ar gael i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i'ch helpu i greu eich diwrnod perffaith.

Cyrraedd eich seremoni

Dylech gyrraedd o leiaf 20 munud cyn amser penodedig eich seremoni a fydd yn dechrau'n brydlon ar yr amser yr ydych wedi'i neilltuo. Os ydych yn dymuno aros ar wahân cyn y seremoni, trefnwch i gyrraedd ar amserau gwahanol, gyda'r ail bartner yn cyrraedd tua 10 munud ar ôl y cyntaf.

Byddwch gystal â chymryd i ystyriaeth unrhyw oedi gyda thraffig a ffotograffiaeth cyn y briodas a sicrhau bod pawb yn cyrraedd mewn da bryd.

Barddoniaeth/rhyddiaith

Mae darlleniadau barddoniaeth neu ryddiaith yn ffordd dda o gynnwys aelodau eich teulu neu'ch ffrindiau yn eich seremoni. Mae croeso hefyd i chi gynnwys eitemau cerddorol yn eich seremoni cyhyd â'n bod yn eu cymeradwyo.

Ffotograffiaeth neu ffilm

Os hoffech i rywun dynnu lluniau neu ffilmio yn ystod eich seremoni, gofynnwn i chi enwebu un person i wneud hyn a gofyn iddynt gyflwyno'u hunain i'r gweinydd cyn dechrau'r seremoni. Nodwch na chaniateir ffotograffiaeth fflach yn ystod y seremoni.

ID: 94, adolygwyd 05/01/2023

Rhoi rhybudd o briodas neu bartneriaeth

Cyn y gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil bydd gofyn i chi’ch dau roi hysbysiad am briodas neu bartneriaeth sifil. Gellir rhoi’r hysbysiadau hyd at 12 mis ymlaen llaw a rhaid eu rhoi o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad y seremoni.

Gellir rhoi hysbysiadau naill ai yn Saesneg neu’n ddwyieithog. Os nad ydych yn siarad Cymraeg neu Saesneg yn rhugl bydd angen i chi ddod â chyfieithydd. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mae rhoi hysbysiad yn ddatganiad cyfreithiol i’r Cofrestrydd Arolygol. Bydd angen i’r ddau ohonoch roi eich manylion personol a gwneud datganiad eich bod dros 18 oed ac yn rhydd i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil.

Bydd angen i’r ddau ohonoch fod yn bresennol wyneb yn wyneb yn y swyddfa gofrestru yn yr ardal yr ydych yn byw ynddi neu yr ydych wedi byw ynddi am o leiaf saith diwrnod olynol llawn (gweler yr eithriad isod os ydych yn destun rheolaeth fewnfudo).

Gwneud apwyntiad i roi hysbysiad

Cyn gwneud apwyntiad mae angen i chi ddarllen yr wybodaeth ganlynol. Gall methu â gwneud hynny olygu na all eich apwyntiad fynd yn ei flaen.

Tystiolaeth o enw, cyfenw, dyddiad geni a chenedligrwydd

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig bydd angen i chi ddod â’r canlynol gyda chi:

  • Pasbort Prydeinig cyfredol yn dangos eich enw presennol

neu

  • Tystysgrif Geni Lawn y DU a thrwydded yrru gyfredol (llawn neu dros dro)
  • Os cawsoch eich geni wedi Rhagfyr 1982, bydd hefyd angen ichi ddarparu un ai tystysgrif geni’r DU eich mam neu dystysgrif geni’r DU eich tad, ynghyd â thystysgrif priodas eich rhieni.

Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig bydd angen i chi ddod â’r canlynol gyda chi:

  • Pasbort cyfredol yn dangos eich enw presennol

neu

  • Os nad oes gennych basbort dilys, cysylltwch â ni am gyngor pellach

a

  • Phrawf o statws mewnfudo neu fisa priodas

Tystiolaeth o’ch man preswylio – un o'r canlynol

  • Trwydded yrru ddilys
  • Bil cyfleustodau cyhoeddus wedi’i ddyddio o fewn y tri mis diwethaf
  • Cyfriflen/paslyfr banc neu gymdeithas adeiladu wedi’i ddyddio o fewn y mis diwethaf
  • Bil treth gyngor wedi’i ddyddio o fewn y 12 mis diwethaf
  • Cyfriflen morgais wedi’i ddyddio o fewn y flwyddyn ddiwethaf
  • Cytundeb tenantiaeth breswyl presennol

Tystiolaeth bod priodas/partneriaeth sifil flaenorol wedi dod i ben

  • Archddyfarniad absoliwt y DU, NEU
  • Tystysgrif Marwolaeth y DU

Tystiolaeth o unrhyw newid enw – megis gweithred newid enw

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu dogfennau gwreiddiol. Ni ellir derbyn llungopïau.

Y ffi ar gyfer hysbysiad o briodas / partneriaeth sifil yw £42.00 yr un lle mae’r ddau barti yn ddinasyddion Prydeinig, yn ddinasyddion Gwyddelig, neu’n rhywun â naill ai statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog i ddinasyddion yr UE, caniatâd amhenodol i aros neu ddod i mewn, hawl preswylio, esemptiad diplomyddol neu filwrol, neu fisa priodas dilys.

I bob unigolyn arall, y ffi am hysbysiad am briodas yw £57.00.Bydd angen i’r ddau ohonoch fod yn bresennol yn yr un swyddfa hefyd, hyd yn oed os ydych yn byw mewn ardaloedd gwahanol ac yn destun Cynllun Atgyfeirio'r Swyddfa Gartref (yn agor mewn tab newydd).

Os nad ydych yn gallu darparu’r dogfennau fel y rhestrir, neu os ydych yn ansicr sut i symud ymlaen, cysylltwch â ni am gyngor pellach.

Archebu apwyntiad

Os yw eich seremoni yn digwydd yn Sir Benfro, gallwch archebu eich hysbysiadau trwy eich porth seremoni:

Mewngofnodwch i'ch porth seremoni (yn agor mewn tab newydd)

Os yw eich seremoni wedi'i harchebu y tu allan i Sir Benfro:

Am ragor o wybodaeth ffonio 01437 775176 neu drwy anfon neges e-bost i ceremonies@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 95, adolygwyd 22/05/2025

Faint fydd y gost?

Ar y dudalen hon:

Telerau ac amodau a sut i dalu

Ffioedd seremonïau 1 Ebrill 2025 - 31 Mawrth 2026

Ffioedd seremonïau 1 Ebrill 2026 - 31 Mawrth 2027



 

Telerau ac amodau a sut i dalu

Mae Telerau a amodau yn berthnasol.

Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Cofrestru os gwelwch yn dda

I gyflwyno eich taliad gyda cherdyn debyd neu gredyd, naill ai

  • Gwneud taliad drwy eich cyfrif porth

  • Ffoniwch ein swydffa ar 01437 775176

Ffioedd seremonïau 1 Ebrill 2025 - 31 Mawrth 2026

 

Ystafell Seremoni, Archifdy Sir Benfro



 

Priodas/Partneriaeth Sifil gyda hyd at 8 o westeion
Mercher a Iau
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £122.50 (gan gynnwys blaendal)

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £168.00

Gwener
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £245.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £290.50



 

Priodas/Partneriaeth Sifil gyda hyd 9-30 gwesteion
Mercher a Iau
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £234.50

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £280.00

Gwener
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £346.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £391.50



 

 

Priodas/Partneriaeth Sifil gyda hyd 31-60 gwesteion
Dydd Sadwrn yn unig
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £448.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £493.50



 

Gwasanaethau Eraill
  • Seremoni enwi adnewyddu addunedau £186.00 (Mercher & Iau hyd at 30 gwesteion) £313.00 (Gwener hyd at 30 gwesteion) £413.00 (Sadwrn hyd at 60 gwesteion)

  • Seremoni Dinasyddiaeth Breifat £92.00 (Mercher & Iau) £255.00 (Gwener & Sadwrn)

  • Seremoni hollt £112.00

  • Sgript seremoni pwrpasol £66.00

  • Ymarfer seremoni £66.00 (Mercher-Gwener 9.00yb - 5.00yn)

 

 

Adeiladau Cymeradwy yn Sir Benfro 

Llun-Iau
  • Cadw'r Dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £576.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £621.50

Gwener & Sadwrn
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £642.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £687.50

Sul a Gwyliau Banc
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £836.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £881.50



 

Gwasanaethau Eraill
  • Seremoni enwi adnewyddu addunedau £538.00 (Llun-Iau) £599.00 (Gwener & Sadwrn) £828.00 (Sul a Gwyliau Banc)

  • Ffi ychwanegol y seremoni £112.00

  • Sgript seremoni pwrpasol £66.00

  • Ymarfer seremoni £163.00 (Llun-Gwener 9.00yb - 5.00yn), £219.00 (Yr hwyr & Sadwrn), £240.00 (Sul)



 

Seremonïau Deuol

Seremoni gyfreithiol Ystafell Seremoni Sir Benfro ynghyd â seremoni dathlu mewn lleoliad didrwydded

  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil (cyfreithiol a dathliadol) £980.50

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £1026.00



 

Priodas mewn addoldy

Ffi Seremoni Statudol a bennir gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

  • Cadw'r Dyddiad £33.00 

  • Ffi am bresenoldeb cofrestrydd £104.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £149.50



 

Priodas/partneriaeth sifil statudol (gyda 2 dyst)

Ffi Seremoni Statudol a bennir gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am bresenoldeb cofrestrydd £56.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £101.50

 

 

Ffioedd seremonïau 1 Ebrill 2026 - 31 Mawrth 2027

Ystafell Seremoni, Archifdy Sir Benfro



 

Priodas/Partneriaeth Sifil gyda hyd at 8 o westeion
Mercher a Iau
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £137.50 (gan gynnwys blaendal)

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £183.00

Gwener
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £254.00 (gan gynnwys blaendal)

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £300.00



 
Priodas/Partneriaeth Sifil gyda hyd 9-30 gwesteion
Mercher a Iau
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £243.50 (gan gynnwys blaendal)

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £289.00

Gwener
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £359.00 (gan gynnwys blaendal)

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £405.00



 

 

Priodas/Partneriaeth Sifil gyda hyd 31-60 gwesteion
Dydd Sadwrn yn unig
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £465.00 (gan gynnwys blaendal)

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £510.50



 

Gwasanaethau Eraill
  • Seremoni enwi adnewyddu addunedau £192.00 (Mercher & Iau hyd at 30 gwesteion) £323.50 (Gwener hyd at 30 gwesteion) £461.50 (Sadwrn hyd at 60 gwesteion)

  • Seremoni Dinasyddiaeth Breifat £95.50 (Mercher & Iau) £264.50 (Gwener & Sadwrn)

  • Seremoni hollt £116.50

  • Sgript seremoni pwrpasol £68.50

  • Ymarfer seremoni £68.50 (Mercher-Gwener 9.00yb - 5.00yn)

 

 

Adeiladau Cymeradwy yn Sir Benfro 

Llun-Iau
  • Cadw'r Dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £598.00 (gan gynnwys blaendal)

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £643.50

Gwener & Sadwrn
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £666.00 (gan gynnwys blaendal)

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £712.00

Sul a Gwyliau Banc
  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £868.00 (gan gynnwys blaendal)

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £913.50



 

Gwasanaethau Eraill
  • Seremoni enwi adnewyddu addunedau £557.00 (Llun-Iau) £620.50 (Gwener & Sadwrn) £858.00 (Sul a Gwyliau Banc)

  • Ffi ychwanegol y seremoni £116.50

  • Sgript seremoni pwrpasol £68.50

  • Ymarfer seremoni £169.00 (Llun-Gwener 9.00yb - 5.00yn), £227.00 (Yr hwyr & Sadwrn), £249.00 (Sul)



 

Seremonïau Deuol

Seremoni gyfreithiol Ystafell Seremoni Sir Benfro ynghyd â seremoni dathlu mewn lleoliad didrwydded

  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil (cyfreithiol a dathliadol) £1017.50

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £1062.50



 

Priodas mewn addoldy

Ffi Seremoni Statudol a bennir gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

  • Cadw'r Dyddiad £33.00 

  • Ffi am bresenoldeb cofrestrydd £104.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £149.50



 

Priodas/partneriaeth sifil statudol (gyda 2 dyst)

Ffi Seremoni Statudol a bennir gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

  • Cadw'r dyddiad £33.00

  • Ffi am bresenoldeb cofrestrydd £56.00

  • Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £12.50

Cyfanswm: £101.50

 

ID: 96, adolygwyd 01/09/2025

Lleoliadau cymeradwy ar gyfer seremonïau sifil

Mae'n rhaid cynnal seremonïau sifil mewn lleoliad sydd wedi'i gymeradwyo gan eich awdurdod lleol.  

Mae lleoliadau'n amrywio o ran maint a lleoliad ac yn cynnwys gwestai bach, cartrefol, ysguboriau sydd wedi'u hadnewyddu'n chwaethus, gwestai a phlastai mwy o faint, a hyd yn oed cestyll! Maen nhw i gyd wedi'u lleoli yn rhai o fannau mwyaf rhamantus, hanesyddol a phrydferth Sir Benfro - yng nghefn gwlad gogledd y Sir, ar hyd yr arfordir nodedig, ac yn nhrefi glan môr y de. Yr her fwyaf i chi fydd dewis un ohonyn nhw!

Pan fyddwch wedi dewis eich lleoliad, fe ddylech holi a yw ar gael ac archebu am y tro. Mae'n bwysig iawn wedyn ichi gysylltu â ni i wneud yn siŵr bod cofrestryddion ar gael i gynnal a chofrestru eich achlysur.

Os hoffech wneud cais am eich lleoliad i fod yn ganiatâd cymeradwy, darllenwch, llenwch a dychwelwch y ffurflen gais.

 

Lleoliad

Trwydded yn dod i ben

Ffôn

Alltyrafon (yn agor mewn tab newydd), Wolfscastle Country Hotel
Cas-blaidd SA62 5LZ 

 15/05/2027

01437 741225

Beggars Reach Hotel (yn agor mewn tab newydd)
Burton, Aberdaugleddau SA73 1PD

 09/02/2028

01646 600700

Cardeeth (yn agor mewn tab newydd)
Cresselly, Cilgetti, SA68 0TS 

 21/06/2027

07769 692104

Castell Caeriw (yn agor mewn tab newydd)
Castle Lane, Dinbych-y-Pysgod, SA70 8SL 

 01/07/2028

01646 651782

Cedar Barn (yn agor mewn tab newydd)
St Twynnells, Sir Benfro, Sir Benfro SA71 5HX

 22/05/2027

 01646 661725

Cresselly House (yn agor mewn tab newydd)
Cresselly, Cilgeti SA68 0SP

 27/08/2025 

01646 651992

Crug-Glas Country House (yn agor mewn tab newydd)
Solfach SA62 6XX

 10/07/2027

01348 831302

Dawn till Dusk
Bastleford Road, Rosemarket, Aberdaugleddau, Sir Benfro SA73 1JY

 24/05/2027

01437 899959

Druidstone Hotel (yn agor mewn tab newydd)
Druidstone Haven, Hwlffordd  SA62 3NE

 27/06/2027

01437 781221

Fforest Farm (yn agor mewn tab newydd)
Cilgerran, Aberteifi SA43 2TB 

 26/10/2028

01239 623751

Gelli Fawr (yn agor mewn tab newydd)
Pontfaen, Abergwaun SA65 9TX

 24/02/2028

01239 820343

Giltar Hotel (yn agor mewn tab newydd)
Yr Esplanâd, Dinbych-y-pysgod SA70 7DU

 14/12/2027

01834 842507

Gwesty Abaty Penalun (yn agor mewn tab newydd)
Penalun, Dinbych y Pysgod S70 7PY
   

Giltar Hotel (yn agor mewn tab newydd)
Yr Esplanâd, Dinbych-y-pysgod SA70 7DU

 17/10/2027

 01834 383101

Hilton Court (yn agor mewn tab newydd)
Roch, Hwlffordd, SA62 6AE

 16/04/2026

01437 710262

Hotel Plas Hyfryd (yn agor mewn tab newydd)
Moorfield Road, Arberth SA67 7AB

 07/05/2026

01834 869006

Lamphey Court (yn agor mewn tab newydd)
Lamphey, SA71 5NT

 08/04/2025   01646 672273

Llwyngwair Manor (yn agor mewn tab newydd)
East Street, Trefdraeth SA42 0SY

 22/03/2028

01239 820498

Llys Meddyg (yn agor mewn tab newydd)
East Street, Trefdraeth SA42 0SY

 19/03/2028

01239 820008

Manorbier Castle (yn agor mewn tab newydd)
Manorbier, ger Dinbych-y-pysgod

 02/03/2028

01834 870081

Monk Haven Manor (yn agor mewn tab newydd)
St Ishmaels, Hwlffordd, SA62 3TH

 14/11/2028

01646 636216

Musslewick Farm (yn agor mewn tab newydd)
St Brides, Hwlffordd, SA62 3AW

 11/05/2026

 01646 635949

Nantwen (yn agor mewn tab newydd)
Felindre Fachog, Crymych, SA41 3XG

 25/08/2027

01239 820768

Newport Links Golf Club (yn agor mewn tab newydd)
Golf Course Road, Trefdraeth SA42 0NR

 11/09/2028

01239 820244

Nolton Coast (yn agor mewn tab newydd) 
East Nolton, Nolton, Hwlffordd, SA62 3NW

 06/04/2026

01437 710360

Castell Penfro (yn agor mewn tab newydd)
Penfro SA71 4LA

 28/08/2027

01646 681510

Plas Pantyderi Manor (yn agor mewn tab newydd)
Pantyderi, Blaenffos, Boncath SA37 0JB 

 19/04/2027

07855 955698

Maenordy Scolton (yn agor mewn tab newydd)
Spittle, Hwlffordd, SA62 5QL

 10/02/2028

01437 731328

Parc Slebets (yn agor mewn tab newydd)
Hwlffordd SA62 4AX

 24/01/2028

01437 752000

Canolfan Ddysgu Awyr Agored Ystagbwll (yn agor mewn tab newydd)
Old Home Farmyard, Ystagbwll SA71 5DQ 

 06/08/2027

01646 661359

St Brides Spa Hotel (yn agor mewn tab newydd)
St Brides Hill, Saundersfoot SA69 9NE

 26/03/2026

01834 812304

Teifi Waterside Hotel (yn agor mewn tab newydd) 
Poppit Sands, Llandudoch, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3LN

 16/02/2028

01239 614974

The Grove (yn agor mewn tab newydd) 
Molleston, Arberth SA67 8BX

 24/02/2026 

01834 860915

The Imperial Hall (yn agor mewn tab newydd)
43 Hamilton Terrace, Aberdaugleddau SA73 3JN

 19/04/2027

07949 406624

The Imperial Hotel (yn agor mewn tab newydd)
The Paragon, Dinbych y pysgod SA70 7HR

 16/11/2025

01834 843737

The Lord Nelson Hotel (yn agor mewn tab newydd)
Hamilton Terrace, Aberdaugleddau SA73 3AW

 14/03/2027

01646 450445

The Old Rectory (yn agor mewn tab newydd)
Fishguard Road, Trefdraeth, SA42 0UE

 03/02/2028

01239 820277

The Pembrokeshire Retreat, Rhos-y-Gilwen Mansion (yn agor mewn tab newydd) 
Rhoshill, Cilgerran, Aberteifi SA43 2TW

 04/02/2027

01239 841387 

The Queen's Hall (yn agor mewn tab newydd) 
44 High Street, Arberth, SA67 7AS

 21/06//2027

 01834 861212

The Regency Hall (yn agor mewn tab newydd) 
King George V Playing Fields, Milford Street, Saundersfoot, SA69 9EW

 22/11/2028

01834 811700 

The Snooty Fox (yn agor mewn tab newydd) 
Martletwy, Arberth SA67 8AD

 28/08/2027

01834 891300

Trefloyne Manor (yn agor mewn tab newydd)
Trefloyne Lane, Penalun, Dinbych y pysgod SA70 7RG

 19/04/2026

01834 842165

Waterwynch House (yn agor mewn tab newydd)
Narberth Road, Dinbych y pysgod SA70 8TJ

 03/05/2026

01834 850100

Twr y felin (yn agor mewn tab newydd)
Dewi Sant, SA62 6BN

 21/06/2027

 01437 725555

Woodhouse Barn (yn agor mewn tab newydd)
Rosemarket, Aberdaugleddau SA73 1LH

 05/10/2028

01437 769154

 

 

 

 

 

 

ID: 97, adolygwyd 05/11/2025

Opsiynau seremoniau

Croeso i Seremonïau Sir Benfro, lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i drefnu a chynllunio’ch diwrnod.

P’un a ydych yn priodi, yn ffurfio partneriaeth sifil neu’n dathlu digwyddiad a gynhaliwyd yn flaenorol, byddwn yn eich helpu i wneud eich seremoni yn ddiwrnod i’w gofio. Mae gennym ni amrywiaeth o opsiynau i chi ddewis o’u plith a bydd ein tîm seremonïau ymroddedig wrth law i’ch helpu chi i wireddu’ch breuddwyd, p'un a yw'n ddigwyddiad bach agos atoch neu’n ddathliad mawreddog.

Rydym am chwalu’r myth bod seremonïau a gyflwynir gan gofrestryddion yn amhersonol ac yn ffurfiol. Rydym yn ffodus i fod â thîm gwych o gofrestryddion seremoni sy’n angerddol am gyflwyno seremoni bersonol ar gyfer pob cwpl, a ddangosir gan yr adborth anhygoel gan ein cyplau hapus niferus – edrychwch ar ein tudalennau Facebook ac Instagram am rai o’r sylwadau gwych rydym wedi’u derbyn.

Os ydych chi’n chwilio am seremoni sy’n bersonol, yn hyblyg ac wedi’i chynllunio’n arbennig ar eich cyfer chi, a hefyd yn sicrhau bod yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni, ni yw’r unig dîm yn Sir Benfro a all ddarparu’r gwasanaeth llawn hwn i chi.

Ar y dudalen hon:

A oes angen gweinydd annibynnol arnaf?

Ble gallaf gynnal fy seremoni?

Pa fath o seremoni alla i ei chael?

Pa becynnau seremoni ydych chi’n eu cynnig?

Sut ydw i'n trefnu seremoni?

Sut byddaf yn cynllunio a phersonoli fy seremoni?

Sut ydw i’n talu am fy seremoni?



 

A oes angen gweinydd annibynnol arnaf?

Nac oes. Mae cyplau yn aml yn dewis gweinyddion oherwydd eu bod yn credu y gallant ddarparu seremoni fwy hyblyg a phersonol. Gall ein tîm ddarparu priodasau a phartneriaethau sifil cyfreithiol sy'n bersonol a phwrpasol a gallwn gynnig seremonïau dan arweiniad gweinydd sy’n union yr un fath â’r rhai a ddarperir gan weinyddion annibynnol. Un o fanteision archebu gyda ni yw y gall eich gweinydd hefyd gynnal eich seremoni gyfreithiol. Byddwch hefyd yn cael cefnogaeth lawn ein tîm drwy gydol yr amser. Os hoffech siarad ag un o’n tîm i drafod eich gofynion, cysylltwch â ni ar 01437 775826.



 

Ble gallaf gynnal fy seremoni?

Dim ond yn ein swyddfa yn Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd, neu ar un o’n safleoedd cymeradwy yn Sir Benfro y gellir cynnal priodasau a seremonïau partneriaeth sifil cyfreithiol, ond gall ein seremonïau gweinyddion gael eu cynnal mewn unrhyw leoliad o’ch dewis yn Sir Benfro a thu hwnt.

Ceir rhagor o wybodaeth am ble y gallwch gynnal eich seremoni yn ogystal â manylion cyswllt yr holl leoliadau a gymeradwywyd ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil yn Sir Benfro ar ble i gynnal eich seremoni.



 

Pa fath o seremoni alla i ei chael? 

  • Priodas sifil neu grefyddol: lle mae dau unigolyn yn cael eu huno'n gyfreithiol, gan ofyn am gyfnewid addunedau gerbron o leiaf dau dyst.
  • Partneriaeth sifil: lle mae dau unigolyn yn cael eu huno'n gyfreithiol o flaen o leiaf dau dyst lle nad oes angen cyfnewid addunedau.
  • Gall priodasau sifil a phartneriaeth sifil amrywio o gofrestriad syml lle bodlonir y gofynion cyfreithiol sylfaenol i seremoni hynod bersonol a phwrpasol.
  • Seremoni dan arweiniad gweinydd: dathliad nad yw’n gyfreithiol.  Gellir cyfuno’r math hwn o seremoni â seremoni gyfreithiol naill ai’n syth ar ôl y rhan nad yw’n gyfreithiol o’r dathliad neu ar ddiwrnod arall (os yw’r seremoni'n cael ei chynnal mewn lleoliad didrwydded).



 

Pa becynnau seremoni ydych chi’n eu cynnig?

Mae ein holl seremonïau wedi’u cynllunio i fodloni’ch dewisiadau unigol, p’un a ydych eisiau cofrestriad ‘di-ffwdan’ syml neu ddigwyddiad cwbl bwrpasol. Mae gennym amrywiaeth o becynnau at ddant pawb ac sy'n addas ar gyfer pob cyllideb.

  • Cofrestriad syml mewn swyddfa gofrestru o flaen dau dyst (dydd Mawrth yn unig).
  • Seremoni syml yn ein hystafell seremoni gyda hyd at wyth o westeion (dydd Mercher i ddydd Gwener).
  • Seremoni uwch yn ein hystafell seremoni gyda hyd at 30 o westeion (dydd Mercher i ddydd Gwener) a hyd at 60 o westeion (dydd Sadwrn).
  • Seremoni uwch neu bwrpasol mewn lleoliad trwyddedig (unrhyw ddiwrnod).
  • Seremoni wedi’i rhannu mewn lleoliad trwyddedig, yn cyfuno dathliad dan arweiniad gweinydd ac yna priodas neu gofrestriad partneriaeth sifil cyfreithiol (unrhyw ddiwrnod).
  • Seremoni ddeuol sy'n cynnwys dathliad dan arweiniad gweinydd mewn lleoliad o’ch dewis (unrhyw ddiwrnod), ynghyd â seremoni gyfreithiol syml yn ein hystafell seremoni (dydd Mercher i ddydd Sadwrn).
  • Seremoni ddathlu, megis seremoni enwi, adnewyddu addunedau neu seremoni ymrwymiad.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwahanol ddewisiadau ar gyfer seremonïau, neu siarad ag un o’n tîm.

E-bost: ceremonies@pembrokeshire.gov.uk 

Rhif ffôn: 01437 775826



 

Sut ydw i'n trefnu seremoni?

Trefnwch eich seremoni briodas neu gofrestriad yn ein swyddfa gofrestru yn Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd, un o’n safleoedd cymeradwy yn Sir Benfro, adeilad crefyddol yn Sir Benfro neu mewn lleoliad arall.

Trefnu seremoni briodas (yn agor mewn tab newydd)

I trefnu partneriaeth sifil, seremoni sy'n digwydd mewn lleoliad heb drwydded, seremoni adnewyddu addunedau neu ymrwymiad, ffoniwch 01437 775176. 

 



 

Sut byddaf yn cynllunio a phersonoli fy seremoni?

Unwaith y byddwch wedi archebu eich seremoni, byddwch yn cael mynediad at eich porth seremoni personol. Bydd y porth yn eich arwain drwy’r broses o gynllunio a phersonoli eich seremoni.

Byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

  • Gweld eich manylion archebu seremoni 
  • Diweddaru eich manylion personol
  • Archebu eich hysbysiadau os ydych yn byw yn Sir Benfro ar hyn o bryd
  • Dewis sgript eich seremoni
  • Rhoi gwybod i ni am unrhyw fanylion ychwanegol fel y gallwn sicrhau bod eich seremoni yn rhedeg yn esmwyth
  • Talu eich ffioedd seremoni

 

Os ydych wedi archebu’r canlynol:

  • seremoni mewn adeilad cymeradwy
  • ein hystafell seremoni uwch 
  • seremoni dan arweiniad gweinydd

 

Bydd eich cofrestrydd seremoni yn cyfarfod â chi (naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn neu gyswllt fideo) i fynd trwy eich dewisiadau seremoni a’r holl fanylion sydd eu hangen i sicrhau bod eich seremoni’n rhedeg yn esmwyth ac yn bodloni eich gofynion.



Sut ydw i’n talu am fy seremoni?

Gellir gwneud taliadau drwy eich porth seremoni neu drwy ein ffonio ar 01437 775826. Gweld y rhestr lawn o ffioedd cyfredol.

  • Cadw’r dyddiad: Pan fyddwch chi'n archebu ymlaen llaw, bydd angen i chi dalu ffi ‘cadw’r dyddiad’ na ellir ei had-dalu. Bydd y ffi hon yn cadw eich archeb am gyfnod callio o 14 diwrnod, a bydd yn rhaid i chi dalu’r ffi statudol neu flaendal erbyn diwedd y cyfnod hwn. 
  • Mae ffioedd statudol ar gyfer cofrestru seremonïau syml a chrefyddol yn cael eu pennu gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol a bydd angen eu talu’n llawn o fewn 14 diwrnod o’u harchebu.
  • Ni fydd angen unrhyw daliadau ffioedd statudol pellach oni bai fod y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn gweithredu codiad ffi cyn y seremoni. Ni fydd angen i chi dalu unrhyw godiad ffi ychwanegol os cynhelir y seremoni lai na thri mis ar ôl dyddiad y cynnydd.
  • Blaendal: Ar gyfer pob seremoni arall, bydd angen i chi dalu blaendal seremoni o fewn 14 diwrnod o archebu.
  • Balans terfynol: Gosodiry ffioedd ym mis Medi ar gyfer y flwyddyn ganlynol, gan roi o leiaf chwe mis o rybudd o’ch taliad terfynol. Unwaith y bydd eich balans terfynol wedi’i ychwanegu at y porth, gallwch ei dalu ar unrhyw adeg, ond dylid ei dalu o leiaf 12 wythnos cyn eich seremoni.

 

Noder: Bydd y swm terfynol y bydd angen i chi ei dalu yn seiliedig ar ddyddiad eich seremoni. Gweler ein ffioedd cyfredol.

Os oes angen unrhyw un o’r gwasanaethau ychwanegol canlynol arnoch, bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at eich pecyn seremoni ar ôl trafod gyda’ch cofrestrydd seremoni. Bydd angen talu ffioedd am y gwasanaethau ychwanegol hyn o fewn saith diwrnod.

  • Ymarfer: Os hoffech gael ymarfer, gallwch roi gwybod i ni drwy’r porth seremoni.  Bydd eich cofrestrydd seremoni yn cysylltu â chi tua mis cyn eich seremoni i drefnu diwrnod ac amser cyfleus ar gyfer eich ymarfer

 

Gallwch hefyd ofyn am ymarfer yn eich cyfarfod cynllunio seremoni. Mae ffioedd ar gyfer ymarferion yn amrywio ac yn dibynnu ar ble y bydd yn digwydd a’r diwrnod/amser.

  • Ffi am seremoni wedi’i rhannu: Os ydych yn cynnal seremoni gyfreithiol mewn safle cymeradwy, ond yr hoffech gynnwys elfennau crefyddol neu baganaidd (e.e. llawafael), mae ffi ychwanegol oherwydd byddai angen i ni ddarparu seremoni dan arweiniad gweinydd yn ogystal â’r seremoni gyfreithiol.
  • Ffi am sgript bwrpasol: Mae ein holl seremonïau yn bersonol iawn ond, os ydych chi eisiau seremoni gwbl bwrpasol gyda llawer o elfennau ychwanegol, mae ffi fach ychwanegol.

 

Os hoffech siarad ag un o’n tîm cyn archebu lle neu ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cyn eich seremoni, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cysylltwch â ni 

E-bost: ceremonies@pembrokeshire.gov.uk

Rhif ffôn: 01437 775826

Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro

Swyddfa Gofrestru Sir Benfro

Archfidy Sir Benfro

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 2PE

Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm

 

ID: 77, adolygwyd 02/09/2025