Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Ble gallaf gynnal fy seremoni?

Ar y dudalen hon:

Safleoedd cymeradwy

Ystafell seremoni Archifdy Sir Benfro 

Swyddfa Gofrestru Sir Benfro 

Lleoliadau eraill

Seremoni y tu allan i Sir Benfro 

Cynnal eich seremoni dramor 

 



Safleoedd cymeradwy

Mae safleoedd cymeradwy yn lleoliadau sydd wedi’u trwyddedu i gynnal seremonïau priodas sifil a phartneriaeth sifil. Mae Sir Benfro yn cynnig dros 50 o safleoedd ledled y sir, sy’n cynnwys:

  • cestyll
  • gwestai gwledig
  • gwestai
  • ysguboriau wedi’u trosi
  • safleoedd glampio

Mae pob un wedi’u lleoli yn rhai o ardaloedd mwyaf rhamantus, hanesyddol a hardd Sir Benfro – o ganol cefn gwlad yn y gogledd, ar hyd arfordir garw syfrdanol, i drefi traeth yn y de.

Mae amrywiaeth anhygoel o leoliadau yn Sir Benfro, sy’n golygu y gallwch gael eich seremoni gyfreithiol yn edrych dros yr arfordir neu gefn gwlad, ar draeth, wrth ymyl afon, mewn gardd furiog, ymhlith adfeilion castell, mewn chwarel neu mewn coetir.

Gweler ein rhestr lawn o safleoedd cymeradwy.



Ystafell seremoni Archifdy Sir Benfro

Yn yr archifdy, mae gennym ystafell seremoni fawr a hyfryd sy’n gallu dal hyd at 60 o westeion ar ddydd Sadwrn a 30 o westeion yn ystod yr wythnos. Mae’r ystafell ar gael o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn ac mae maes parcio mawr am ddim gerllaw’r adeilad.



Swyddfa Gofrestru Sir Benfro

Swyddfa weithredol ar gyfer cofrestriadau syml.



Lleoliadau eraill

Er mai dim ond yn ein swyddfa neu mewn safleoedd cymeradwy y gellir cynnal seremonïau cyfreithiol, gallwn fynd i unrhyw leoliad i gynnal seremoni ‘dan arweiniad gweinydd’.

Gallai hwn fod yn lleoliad heb drwydded, eich cartref neu draeth. Bydd angen i chi gael caniatâd y perchennog neu’r tirfeddiannwr i gynnal eich seremoni, a bydd yn rhaid i ni ymweld â’r safle (wedi’i gynnwys yn ffi’r seremoni) cyn y seremoni.

Nodwch: dim ond am gyflwyno’r seremoni rydym yn gyfrifol. Byddai angen i chi wneud pob trefniant arall, gan gynnwys trefnu yswiriant pe bai angen.



Seremoni y tu allan i Sir Benfro

Gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil mewn unrhyw swyddfa gofrestru neu adeilad cymeradwy o'ch dewis yng Nghymru a  Lloegr, waeth  pa ardal yr ydych yn byw. Fe fydd yn rhaid i chi wneud trefniadau'n uniongyrchol gyda'r swyddfa gofrestru neu'r adeilad cymeradwy. Mae rhestr lawn o adeiladau trwyddedig ar gael o'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.



Cynnal eich seremoni dramor

Os byddwch yn meddwl priodi neu gynnal seremoni partneriaeth sifil dramor, dylech sicrhau eich bod yn deall ac yn dilyn pob rheoliad yn unol â chyfraith y wlad honno. Mae hi bron yn siŵr y bydd angen i chi gyflwyno rhai dogfennau, ac mewn rhai amgylchiadau Tystysgrif o Ddim Rhwystr, sydd ar gael gan y Swyddfa Gofrestru. Ein cyngor yw eich ichi gysylltu â llysgennad y wlad lle rydych yn dymuno priodi.

Parcio prin 2 awr am ddim y tu ôl i'r Swyddfa Gofrestru

ID: 93, adolygwyd 06/05/2025