Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Ble i gynnal eich seremoni

Fe allwch gynnal seremoni sifil mewn Swyddfa Gofrestru neu adeilad cymeradwy neu seremoni grefyddol mewn eglwys neu adeilad crefyddol.   

Ystafelloedd seremoni y swyddfa gofrestru

Mae'r Swyddfa Gofrestru ar gael ar gyfer seremonïau statudol sylfaenol, gyda lle i 4 o bobl.

Am fanylion am ddyddiadau posibl neu i drefnu seremoni, rhowch alwad i ni ar 01437 775176.

Adeiladau cymeradwy ar gyfer seremonïau sifil  

Rhaid cynnal seremonïau sifil mewn lleoliad sydd wedi'i gymeradwyo gan eich awdurdod lleol.  

Mae lleoliadau yn amrywio o ran maint a lleoliad ac yn cynnwys gwestai bach, cartrefol, ysguboriau sydd wedi'u hadnewyddu'n chwaethus, gwestai a phlastai mwy o faint, a hyd yn oed cestyll! Maen nhw i gyd wedi'u lleoli yn rhai o fannau mwyaf rhamantus, hanesyddol a phrydferth Sir Benfro - yng nghefn gwlad gogledd y Sir, ar hyd yr arfordir nodedig, ac yn nhrefi glan môr y de. Yr her fwyaf i chi fydd dewis un ohonyn nhw!

Pan fyddwch wedi dewis eich lleoliad, fe ddylech holi a yw ar gael ac archebu am y tro. Mae'n bwysig iawn wedyn ichi gysylltu â ni i wneud yn siŵr bod cofrestryddion ar gael i gynnal a chofrestru eich achlysur. 

Sefydliadau crefyddol

Os byddwch yn bwriadu priodi yn Eglwys Loegr neu'r Eglwys yng Nghymru, fe fydd yn rhaid i chi siarad â ficer y plwyf, a fydd yn trafod eich cynlluniau gyda chi. Cyfrifoldeb y ficer fydd rhoi'r alwad allan a chofrestru eich priodas, ac ni fydd rhaid galw am wasanaeth y swyddfa gofrestru leol fel arfer.

Os byddwch am gynnal eich priodas neu bartneriaeth sifil mewn adeilad crefyddol arall, rhaid i chi roi rhybudd i'ch Swyddfa Gofrestru leol.  

Fel arfer, dylai un ohonoch neu'r ddau fod yn byw yn yr ardal lle'r ydych yn bwriadu priodi, neu dylai'r adeilad fod yn ‘addoldy arferol' i'r naill neu'r llall. Cewch hefyd gynnal eich seremoni mewn ardal arall os nad oes gan eich crefydd chi adeilad yn yr ardal(oedd) lle'r ydych chi'n byw.

Rhaid i gofrestrydd o'r ardal lle mae'r adeilad fod yn eich seremoni oni bai bod gan yr adeilad ei berson ‘awdurdodedig' ei hunan sy'n gallu cofrestru priodasau. Byddai'n well i chi wirio hyn, ac os bydd angen cofrestrydd, dylech gysylltu â ni i sicrhau bod un ar gael cyn i chi bennu eich dyddiad a'ch amser. 

Ni ellir cynnal Seremonïau Enwi ac Adnewyddu Addunedau mewn adeilad crefyddol.  

Priodi y tu allan i Sir Benfro

Gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil mewn unrhyw swyddfa gofrestru neu adeilad cymeradwy o'ch dewis yng Nghymru a  Lloegr, waeth  pa ardal yr ydych yn byw. Fe fydd yn rhaid i chi wneud trefniadau'n uniongyrchol gyda'r swyddfa gofrestru neu'r adeilad cymeradwy. Mae rhestr lawn o adeiladau trwyddedig ar gael o'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Cynnal eich seremoni dramor

Os byddwch yn meddwl priodi neu gynnal seremoni partneriaeth sifil dramor, dylech sicrhau eich bod yn deall ac yn dilyn pob rheoliad yn unol â chyfraith y wlad honno. Mae hi bron yn siŵr y bydd angen i chi gyflwyno rhai dogfennau, ac mewn rhai amgylchiadau Tystysgrif o Ddim Rhwystr, sydd ar gael gan y Swyddfa Gofrestru. Ein cyngor yw eich ichi gysylltu â llysgennad y wlad lle rydych yn dymuno priodi.

Parcio prin 2 awr am ddim y tu ôl i'r Swyddfa Gofrestru

ID: 93, adolygwyd 22/02/2023