Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Cynllunio'ch seremoni

Croeso i Wasanaeth Cofrestru Sir Benfro. Rydym wrth ein bodd eich bod wedi dewis cynnal eich diwrnod arbennig yn Sir Benfro. Bydd eich seremoni'n cael ei theilwra i'ch gofynion, ac fe fydd mor ffurfiol neu anffurfiol ag yr ydych yn dymuno. Mae ein staff cofrestru arbenigol ar gael i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i'ch helpu i greu eich diwrnod perffaith.

Cyrraedd eich seremoni

Dylech gyrraedd o leiaf 20 munud cyn amser penodedig eich seremoni a fydd yn dechrau'n brydlon ar yr amser yr ydych wedi'i neilltuo. Os ydych yn dymuno aros ar wahân cyn y seremoni, trefnwch i gyrraedd ar amserau gwahanol, gyda'r ail bartner yn cyrraedd tua 10 munud ar ôl y cyntaf.

Byddwch gystal â chymryd i ystyriaeth unrhyw oedi gyda thraffig a ffotograffiaeth cyn y briodas a sicrhau bod pawb yn cyrraedd mewn da bryd.

Barddoniaeth/rhyddiaith

Mae darlleniadau barddoniaeth neu ryddiaith yn ffordd dda o gynnwys aelodau eich teulu neu'ch ffrindiau yn eich seremoni. Mae croeso hefyd i chi gynnwys eitemau cerddorol yn eich seremoni cyhyd â'n bod yn eu cymeradwyo.

Ffotograffiaeth neu ffilm

Os hoffech i rywun dynnu lluniau neu ffilmio yn ystod eich seremoni, gofynnwn i chi enwebu un person i wneud hyn a gofyn iddynt gyflwyno'u hunain i'r gweinydd cyn dechrau'r seremoni. Nodwch na chaniateir ffotograffiaeth fflach yn ystod y seremoni.

ID: 94, adolygwyd 05/01/2023