Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Cynnal seremoni dan arweiniad gweinydd

Mae seremonïau dan arweiniad gweinyddion yn caniatáu ichi ddathlu digwyddiad heb unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol. Gallai hyn olygu cael dathliad lleol yn dilyn priodas dramor, adnewyddu addunedau ar ben-blwydd arbennig, cynnal seremoni ymrwymiad i ddathlu eich dyweddïad, neu gyfuno seremoni dan arweiniad gweinydd â phriodas neu bartneriaeth sifil gyfreithiol.

Mae ein seremonïau uwch yn cynnwys cyflwyniad personol, darlleniadau neu ganeuon, ac addunedau personol y gallwch ddewis eu hysgrifennu eich hun.

 

Ar y dudalen hon:

Seremonïau deuol

Adnewyddu eich addunedau



Seremonïau deuol

Mae seremonïau deuol yn caniatáu ichi gael y gorau o ddau fyd – seremoni dan arweiniad gweinydd mewn lleoliad o’ch dewis a seremoni gyfreithiol a gynhelir yn ein hystafell seremoni gyda’r un cofrestrydd. Bydd eich seremoni o dan arweiniad gweinydd yn gwbl bwrpasol.



Adnewyddu eich addunedau

Os ydych eisoes wedi cynnal priodas neu bartneriaeth sifil ffurfiol ac yn dymuno dathlu ac adnewyddu eich addunedau mewn ffordd unigryw a phersonol, gallai'r seremoni hon fod yn addas i chi.

Dyma gyfle i ddathlu pen-blwydd priodas arbennig, i ail-gysegru'r addunedau a wnaethpwyd mewn priodas neu bartneriaeth sifil a oedd efallai wedi digwydd mewn gwlad arall lle nad oedd teulu a ffrindiau yn gallu bod yn bresennol, neu i ail-ddatgan yn syml eich ymrwymiad i'ch gilydd.

Yn wahanol i briodas neu bartneriaeth sifil, nid oes unrhyw statws cyfreithiol i'r seremoni hon, ond fe'i bwriedir i fod yn arwyddocaol ac yn bersonol i bob cwpwl.   

Beth sy'n digwydd yn y seremoni?

Rydych yn gallu rhoi addewidion i'ch gilydd, cyfnewid modrwyau a gwahodd eich gwesteion i gymryd rhan yn y seremoni. Cyflwynir tystysgrif goffaol i gydnabod yr achlysur.

Pwy sy'n gallu adnewyddu eu haddunedau?

Mae'n bosibl i unrhyw gwpwl priod neu bartneriaid sifil, o unrhyw oedran ac wedi bod yn briod neu'n bartneriaid sifil am ba bynnag hyd, drefnu seremoni i adnewyddu addunedau. Nid oes raid i chi fyw yn Sir Benfro i drefnu seremoni yn y sir.  

Ble ellir cynnar seremonïau adnewyddu addunedau?

Rydym yn cynnig seremonïau Adnewyddu Addunedau yn y Swyddfa Gofrestru ac mewn Adeiladau Cymeradwy o fewn y sir.  

Pa ddogfennau sy'n rhaid eu cynhyrchu?

Mae'n rhaid cyflwyno eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil ar adeg trefnu'r seremoni.  

Mae ein staff cofrestru arbennig yma i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i greu eich diwrnod perffaith.

 

Os hoffech siarad ag un o’n tîm mae croeso i chi gysylltu â ni.

E-bost: ceremonies@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 775176

ID: 92, adolygwyd 18/08/2025