Priodasau a Phartneriaethau Sifil
Hysbysiad Cyhoeddus Safleoedd Cymeradwy
Safleoedd yn aros am cymeradwyaeth trwydded seremonïau sifil
Hysbysiad Cyhoeddus Beggars Reach
Hysbysiad Cyhoeddus Dawn till Dusk
Hysbysiad Cyhoeddus The Queens Hall
Hysbysiad Cyhoeddus Gwesty Casblaidd Allt yr Afon
Priodi
Mae eich priodas yn achlysur unigryw ac arbennig, ac rydym yma i'ch helpu i wneud y diwrnod yn un cofiadwy.
Beth bynnag a ddewiswch, boed yn seremoni fach gyda chi eich dau a dau dyst, achlysur teuluol cartrefol neu ddathliad mawreddog, fe fyddwn yn falch o'ch helpu i drefnu diwrnod a fydd yn gwireddu eich breuddwydion.
Ble bynnag y cynhaliwch eich seremoni, boed yn y Swyddfa Gofrestru, yn un o'n hadeiladau trwyddedig, neu mewn eglwys neu addoldy arall, fe fydd yn rhaid i chi fod yn gyfarwydd â'r trefniadau ffurfiol canlynol.
- nid oes raid i chi fyw yn Sir Benfro os byddwch am gynnal eich seremoni o fewn y sir
- fe ddylech archebu mewn da bryd er mwyn sicrhau'r amser a'r dyddiad sydd orau gennych; cysylltwch â ni i drafod dyddiadau ac amserau posibl
- mae'n rhaid i chi a'ch partner fod dros 18 oed (neu fod yn gallu darparu tystiolaeth o gydsyniad os ydych yn 16 neu 17 oed), heb fod yn perthyn i'ch gilydd, a heb fod mewn priodas neu bartneriaeth sifil ar y pryd
- fe fydd yn rhaid i chi eich dau roi rhybudd o briodas yn y swyddfa gofrestru yn yr ardal lle rydych yn byw
- mae rhybudd o briodas yn ddilys am un flwyddyn, ond rydym yn derbyn archebion dros dro fwy na blwyddyn o flaen llaw
- fe fydd angen i chi wneud apwyntiad i roi rhybudd o briodas, ac fe ddylech drefnu hyn dros y ffôn
- fe fydd yn rhaid i chi sicrhau fod y dogfennau cywir gennych pan ddowch i'r apwyntiad; oes nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni am gyngor
- fe allwn gynnig awgrymiadau ynghylch cynnwys eich seremoni, ond cofiwch mai chi biau'r diwrnod, felly mae croeso i chi gynnig eich syniadau eich hunain
Mae ein staff cofrestru arbenigol ar gael i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i'ch helpu i greu eich diwrnod perffaith.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro
Archfidy Sir Benfro
Prendergast
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PE
Ffôn 01437 775176
E-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm
Ffurfio Partneriaeth Sifil
Mae eich partneriaeth sifil yn achlysur unigryw ac arbennig, ac rydym yma i'ch helpu i wneud y diwrnod yn un cofiadwy.
Beth bynnag a ddewiswch, boed yn seremoni fach gyda chi eich dau a dau dyst, achlysur teuluol cartrefol neu ddathliad mawreddog, fe fyddwn yn falch o'ch helpu i drefnu diwrnod a fydd yn gwireddu eich breuddwydion.
Ble bynnag y cynhaliwch eich seremoni, boed yn y Swyddfa Gofrestru neu yn un o'n lleoliadau cymeradwy, fe fydd yn rhaid i chi fod yn gyfarwydd â'r trefniadau ffurfiol canlynol.
- nid oes raid i chi fyw yn Sir Benfro os ydych am gynnal eich seremoni o fewn y sir
- fe ddylech archebu mewn da bryd er mwyn sicrhau'r amser a'r dyddiad sydd orau gennych; cysylltwch â ni i drafod dyddiadau a'r amserau posibl
- mae'n rhaid i chi a'ch partner fod o dros 18 oed (neu fod yn gallu darparu tystiolaeth o gydsyniad os ydych yn 16 neu 17 oed), heb fod yn perthyn i'ch gilydd, a heb fod mewn priodas neu bartneriaeth sifil ar y pryd
- fe fydd yn rhaid i chi eich dau roi rhybudd o bartneriaeth sifil yn y swyddfa gofrestru yn yr ardal lle rydych yn byw
- mae rhybudd o bartneriaeth sifil yn ddilys am un flwyddyn, ond rydym yn derbyn archebion dros dro fwy na blwyddyn o flaen llaw
- fe fydd angen i chi wneud apwyntiad i roi rhybudd o bartneriaeth sifil, ac fe ddylech drefnu hyn dros y ffôn
- fe fydd yn rhaid i chi sicrhau fod y dogfennau cywir gennych pan ddowch i'r apwyntiad; oes nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni am gyngor
- mae partneriaeth sifil wedi'i ffurfio unwaith y bydd y pâr wedi llofnodi'r atodlen gofrestru ym mhresenoldeb swyddog cofrestru a dau dyst; nid oes raid cynnal seremoni yn ôl y gyfraith, ond rydym yn cynnig dewisiadau o ran seremoni i wneud yr achlysur yn un cofiadwy
- fe allwn gynnig awgrymiadau ynghylch cynnwys eich seremoni, ond cofiwch mai chi biau'r diwrnod, felly mae croeso i chi gynnig eich syniadau eich hunain
Mae ein staff cofrestru arbenigol ar gael i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i'ch helpu i greu eich diwrnod perffaith.
Adnewyddu eich addunedau
Os ydych eisoes wedi cynnal priodas neu bartneriaeth sifil ffurfiol ac yn dymuno dathlu ac adnewyddu eich addunedau mewn ffordd unigryw a phersonol, gallai'r seremoni hon fod yn addas i chi.
Dyma gyfle i ddathlu pen-blwydd priodas arbennig, i ail-gysegru'r addunedau a wnaethpwyd mewn priodas neu bartneriaeth sifil a oedd efallai wedi digwydd mewn gwlad arall lle nad oedd teulu a ffrindiau yn gallu bod yn bresennol, neu i ail-ddatgan yn syml eich ymrwymiad i'ch gilydd.
Yn wahanol i briodas neu bartneriaeth sifil, nid oes unrhyw statws cyfreithiol i'r seremoni hon, ond fe'i bwriedir i fod yn arwyddocaol ac yn bersonol i bob cwpwl.
Beth sy'n digwydd yn y seremoni?
Rydych yn gallu rhoi addewidion i'ch gilydd, cyfnewid modrwyau a gwahodd eich gwesteion i gymryd rhan yn y seremoni. Cyflwynir tystysgrif goffaol i gydnabod yr achlysur.
Pwy sy'n gallu adnewyddu eu haddunedau?
Mae'n bosibl i unrhyw gwpwl priod neu bartneriaid sifil, o unrhyw oedran ac wedi bod yn briod neu'n bartneriaid sifil am ba bynnag hyd, drefnu seremoni i adnewyddu addunedau. Nid oes raid i chi fyw yn Sir Benfro i drefnu seremoni yn y sir.
Ble ellir cynnar seremonïau adnewyddu addunedau?
Rydym yn cynnig seremonïau Adnewyddu Addunedau yn y Swyddfa Gofrestru ac mewn Adeiladau Cymeradwy o fewn y sir.
Pa ddogfennau sy'n rhaid eu cynhyrchu?
Mae'n rhaid cyflwyno eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil ar adeg trefnu'r seremoni.
Mae ein staff cofrestru arbennig yma i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i greu eich diwrnod perffaith.
Ble i gynnal eich seremoni
Fe allwch gynnal seremoni sifil mewn Swyddfa Gofrestru neu adeilad cymeradwy neu seremoni grefyddol mewn eglwys neu adeilad crefyddol.
Ystafelloedd seremoni y swyddfa gofrestru
Mae'r Swyddfa Gofrestru ar gael ar gyfer seremonïau statudol sylfaenol, gyda lle i 4 o bobl.
Am fanylion am ddyddiadau posibl neu i drefnu seremoni, rhowch alwad i ni ar 01437 775176.
Adeiladau cymeradwy ar gyfer seremonïau sifil
Rhaid cynnal seremonïau sifil mewn lleoliad sydd wedi'i gymeradwyo gan eich awdurdod lleol.
Mae lleoliadau yn amrywio o ran maint a lleoliad ac yn cynnwys gwestai bach, cartrefol, ysguboriau sydd wedi'u hadnewyddu'n chwaethus, gwestai a phlastai mwy o faint, a hyd yn oed cestyll! Maen nhw i gyd wedi'u lleoli yn rhai o fannau mwyaf rhamantus, hanesyddol a phrydferth Sir Benfro - yng nghefn gwlad gogledd y Sir, ar hyd yr arfordir nodedig, ac yn nhrefi glan môr y de. Yr her fwyaf i chi fydd dewis un ohonyn nhw!
Pan fyddwch wedi dewis eich lleoliad, fe ddylech holi a yw ar gael ac archebu am y tro. Mae'n bwysig iawn wedyn ichi gysylltu â ni i wneud yn siŵr bod cofrestryddion ar gael i gynnal a chofrestru eich achlysur.
Sefydliadau crefyddol
Os byddwch yn bwriadu priodi yn Eglwys Loegr neu'r Eglwys yng Nghymru, fe fydd yn rhaid i chi siarad â ficer y plwyf, a fydd yn trafod eich cynlluniau gyda chi. Cyfrifoldeb y ficer fydd rhoi'r alwad allan a chofrestru eich priodas, ac ni fydd rhaid galw am wasanaeth y swyddfa gofrestru leol fel arfer.
Os byddwch am gynnal eich priodas neu bartneriaeth sifil mewn adeilad crefyddol arall, rhaid i chi roi rhybudd i'ch Swyddfa Gofrestru leol.
Fel arfer, dylai un ohonoch neu'r ddau fod yn byw yn yr ardal lle'r ydych yn bwriadu priodi, neu dylai'r adeilad fod yn ‘addoldy arferol' i'r naill neu'r llall. Cewch hefyd gynnal eich seremoni mewn ardal arall os nad oes gan eich crefydd chi adeilad yn yr ardal(oedd) lle'r ydych chi'n byw.
Rhaid i gofrestrydd o'r ardal lle mae'r adeilad fod yn eich seremoni oni bai bod gan yr adeilad ei berson ‘awdurdodedig' ei hunan sy'n gallu cofrestru priodasau. Byddai'n well i chi wirio hyn, ac os bydd angen cofrestrydd, dylech gysylltu â ni i sicrhau bod un ar gael cyn i chi bennu eich dyddiad a'ch amser.
Ni ellir cynnal Seremonïau Enwi ac Adnewyddu Addunedau mewn adeilad crefyddol.
Priodi y tu allan i Sir Benfro
Gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil mewn unrhyw swyddfa gofrestru neu adeilad cymeradwy o'ch dewis yng Nghymru a Lloegr, waeth pa ardal yr ydych yn byw. Fe fydd yn rhaid i chi wneud trefniadau'n uniongyrchol gyda'r swyddfa gofrestru neu'r adeilad cymeradwy. Mae rhestr lawn o adeiladau trwyddedig ar gael o'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.
Cynnal eich seremoni dramor
Os byddwch yn meddwl priodi neu gynnal seremoni partneriaeth sifil dramor, dylech sicrhau eich bod yn deall ac yn dilyn pob rheoliad yn unol â chyfraith y wlad honno. Mae hi bron yn siŵr y bydd angen i chi gyflwyno rhai dogfennau, ac mewn rhai amgylchiadau Tystysgrif o Ddim Rhwystr, sydd ar gael gan y Swyddfa Gofrestru. Ein cyngor yw eich ichi gysylltu â llysgennad y wlad lle rydych yn dymuno priodi.
Parcio prin 2 awr am ddim y tu ôl i'r Swyddfa Gofrestru
Cynllunio'ch seremoni
Croeso i Wasanaeth Cofrestru Sir Benfro. Rydym wrth ein bodd eich bod wedi dewis cynnal eich diwrnod arbennig yn Sir Benfro. Bydd eich seremoni'n cael ei theilwra i'ch gofynion, ac fe fydd mor ffurfiol neu anffurfiol ag yr ydych yn dymuno. Mae ein staff cofrestru arbenigol ar gael i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i'ch helpu i greu eich diwrnod perffaith.
Cyrraedd eich seremoni
Dylech gyrraedd o leiaf 20 munud cyn amser penodedig eich seremoni a fydd yn dechrau'n brydlon ar yr amser yr ydych wedi'i neilltuo. Os ydych yn dymuno aros ar wahân cyn y seremoni, trefnwch i gyrraedd ar amserau gwahanol, gyda'r ail bartner yn cyrraedd tua 10 munud ar ôl y cyntaf.
Byddwch gystal â chymryd i ystyriaeth unrhyw oedi gyda thraffig a ffotograffiaeth cyn y briodas a sicrhau bod pawb yn cyrraedd mewn da bryd.
Barddoniaeth/rhyddiaith
Mae darlleniadau barddoniaeth neu ryddiaith yn ffordd dda o gynnwys aelodau eich teulu neu'ch ffrindiau yn eich seremoni. Mae croeso hefyd i chi gynnwys eitemau cerddorol yn eich seremoni cyhyd â'n bod yn eu cymeradwyo.
Ffotograffiaeth neu ffilm
Os hoffech i rywun dynnu lluniau neu ffilmio yn ystod eich seremoni, gofynnwn i chi enwebu un person i wneud hyn a gofyn iddynt gyflwyno'u hunain i'r gweinydd cyn dechrau'r seremoni. Nodwch na chaniateir ffotograffiaeth fflach yn ystod y seremoni.
Rhoi rhybudd o briodas neu bartneriaeth
Cyn gallu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil bydd rhaid i'r ddau ohonoch roi rhybudd o briodas neu bartneriaeth sifil.
Ar hyn o bryd, ellir rhoi'r rhybuddion hyd at 12 mis ac o leiaf 28 o ddyddiau cyn dyddiad y seremoni. Mae'r daflen hon yn egluro'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud. Darllenwch hon yn ofalus os gwelwch yn dda.
Mae rhoi rhybudd yn ddatganiad cyfreithiol i'r Cofrestrydd Arolygol. Bydd rhaid i'r ddau ohonoch roi eich manylion personol a gwneud datganiad eich bod yn rhydd i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil.
- Bydd rhaid i'r ddau ohonoch fod yn bresennol yn y swyddfa gofrestru yn yr ardal yr ydych yn byw ynddi.
- Bydd rhaid i chi fod wedi cadarnhau'r lle yr ydych yn dymuno cynnal eich seremoni.
- Mae'n rhaid i chi fyw yn yr ardal am o leiaf saith diwrnod llawn yn olynol cyn rhoi rhybudd.
- Os nad ydych wladolydd y DU / AEE efallai y bydd rhaid i chi fynd i Swyddfa Gofrestru ddynodedig. Nid yw pob Swyddfa Gofrestru yn ddynodedig, felly bydd rhaid efallai i chi gael cyngor ynglŷn â ble y gallwch fynd. Mae Dosbarth Cofrestru Sir Benfro yn swyddfa gofrestru ddynodedig.
- Mae'n rhaid i chi aros o leiaf 28 o ddyddiau wedi rhoi eich rhybudd cyn y gall eich priodas neu bartneriaeth sifil ddigwydd.
- Os bydd y ddau ohonoch yn rhoi eich rhybudd ar ddyddiau gwahanol, mae'r cyfnod lleiaf o rybudd yn cael ei gyfrif o ddyddiad yr ail rybudd.
- Mae'n rhaid talu ffi o £35.00 yr un.
Sylwch os gwelwch yn dda: Mae adeiladau neu safleoedd sy'n lleoliadau cymeradwy yn cael trwydded am 3 blynedd ar y tro. Holwch gyda'r lleoliad os gwelwch yn dda, os bydd eu trwydded wedi dod i ben cyn y dyddiad sydd wedi ei drefnu ar gyfer eich seremoni, a ydynt yn bwriadu adnewyddu'r drwydded. Nid oes modd derbyn rhybudd o briodas/partneriaeth sifil ar gyfer lleoliad heb drwydded.
Bydd rhaid hefyd i chi ddangos dogfennau i gadarnhau eich enw, oedran, cenedl, statws priodasol neu bartneriaeth sifil a phrawf o'ch cyfeiriad ar gyfer y saith diwrnod llawn diwethaf cyn rhoi eich rhybudd.
Os ydych dros 18 oed, yn ddinesydd Prydeinig ac yn byw yn Sir Benfro, efallai y gall y ddogfen hon eich helpu - .
Cadarnhewch os gwelwch yn dda pa ddogfennau y bydd rhaid i chi a'ch partner ddod â hwy gyda chi at y Cofrestrydd Arolygol cyn dod i mewn i roi eich rhybudd.
Cofiwch sicrhau, os gwelwch yn dda, eich bod yn rhoi dogfennau gwreiddiol. Ni ellir derbyn llungopïau.
Faint fydd y gost?
Mae Telerau a Amodau yn berthnasol.
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Cofrestru
I gyflwyno eich taliad gyda cherdyn debyd neu gredyd, naill ai
- Ewch ar-lein ar Taliad Seremoni. Bydd y swm sydd angen i chi ei dalu yn cael ei gyfrifo'n awtomatig.
neu
- Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 01437 775176
- Dyfynnwch gyfeirnod y safle cymeradwy, dyddiad a lleoliad eich seremoni a’r swm rydych yn ei dalu
- Byddwch yn cael cyfeirnod taliad. Nodwch hyn rhag ofn y bydd ymholiadau yn y dyfodol.
1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2023
Hysbysiad o briodas/partneriaeth sifil £35.00 y pen: £70.00
Priodas/Partneriaeth Sifil yn y Ystafell Seremoni, Archfidy Sir Benfro
Gyda 2 dyst
Cadw'r Dyddiad £25.00 (ar gyfer archebion ymlaen llaw)
Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £46.00
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £11.00
Cyfanswm: £82.00
Gydag 8 gwestai (Mawrth-Iau)
Cadw'r Dyddiad £25.00
Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £100.00
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £11.00
Cyfanswm: £136.00
Gydag 8 gwestai (Gwener-Sadwrn)
Cadw'r Dyddiad £25.00
Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £200.00
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £11.00
Cyfanswm: £236.00
Priodas/Partneriaeth Sifil mewn lleoliad cymeradwy yn Sir Benfro (Llun-Iau)
Cadw'r Dyddiad £25.00
Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £475.00
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £11.00
Cyfanswm: £511.00
Priodas/Partneriaeth Sifil mewn lleoliad cymeradwy yn Sir Benfro (Gwener - Sadwrn)
Cadw'r Dyddiad £25.00
Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £540.00
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £11.00
Cyfanswm: £576.00
Priodas/Partneriaeth Sifil mewn lleoliad cymeradwy yn Sir Benfro (Sul & Gwyliau Banc)
Save The Date £25.00
Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £730.00
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £11.00
Cyfanswm: £771.00
Ffioedd ychwanegol Priodas/Partneriaeth Sifil mewn lleoliad cymeradwy yn Sir Benfro
Seremoni dathlu tu allan £75.00
Sgript seremoni pwrpasol £50.00
Ymarferiad seremoni £120.00 (Llun - Gwener 9.00yb - 6.00yn), £175.00 (Yr hwyr & Sadwrn), £200.00 (Sul & Gwyliau Banc)
Priodas mewn addoldy
Cadw'r Dyddiad £25.00 (ar gyfer archebion ymlaen llaw)
Ffi am bresenoldeb cofrestrydd £86.00
Tystysgrif priodas £11.00
Cyfanswm: £122.00
Seremonïau eraill mewn Lleoliad Cymeradwy
Seremoni enwi neu adnewyddu addunedau
Llun - Iau: £400.00
Gwener - Sadwrn: £450.00
Sul: £650.00
Dinasyddiaeth
Llun - Iau: £400.00
Gwener - Sadwrn: £450.00
Sul: £650.00
1 Ebrill 2023 - 31 Mawrth 2024
Hysbysiad o briodas/partneriaeth sifil £35.00 y pen: £70.00
Priodas/Partneriaeth Sifil yn y Ystafell Seremoni, Archfidy Sir Benfro
Gyda 2 dyst
Cadw'r Dyddiad £30.00 (ar gyfer archebion ymlaen llaw)
Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £46.00
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £11.00
Cyfanswm: £87.00
Gydag 8 gwestai (Mawrth-Iau)
Cadw'r Dyddiad £30.00
Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £110.00
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £11.00
Cyfanswm: £151.00
Gydag 8 gwestai (Gwener-Sadwrn)
Cadw'r Dyddiad £30.00
Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £225.00
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £11.00
Cyfanswm: £266.00
Priodas/Partneriaeth Sifil mewn lleoliad cymeradwy yn Sir Benfro (Llun-Iau)
Cadw'r Dyddiad £30.00
Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £530.00
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £11.00
Cyfanswm: £571.00
Priodas/Partneriaeth Sifil mewn lleoliad cymeradwy yn Sir Benfro (Gwener - Sadwrn)
Cadw'r Dyddiad £30.00
Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £595.00
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £11.00
Cyfanswm: £636.00
Priodas/Partneriaeth Sifil mewn lleoliad cymeradwy yn Sir Benfro (Sul & Gwyliau Banc)
Save The Date £30.00
Ffi am seremoni priodas/partneriaeth sifil £770.00
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil £11.00
Cyfanswm: £811.00
Ffioedd ychwanegol Priodas/Partneriaeth Sifil mewn lleoliad cymeradwy yn Sir Benfro
Seremoni pwrpasol £100.00
Sgript seremoni pwrpasol £60.00
Ymarferiad seremoni £150.00 (Llun - Gwener 9.00yb - 6.00yn), £200.00 (Yr hwyr & Sadwrn), £220.00 (Sul & Gwyliau Banc)
Priodas mewn addoldy
Cadw'r Dyddiad £30.00 (ar gyfer archebion ymlaen llaw)
Ffi am bresenoldeb cofrestrydd £86.00
Tystysgrif priodas £11.00
Cyfanswm: £127.00
Seremonïau eraill mewn Lleoliad Cymeradwy
Seremoni enwi neu adnewyddu addunedau
Llun - Iau: £435.00
Gwener - Sadwrn: £490.00
Sul: £700.00
Dinasyddiaeth
Llun - Iau: £400.00
Gwener - Sadwrn: £450.00
Sul: £650.00
Lleoliadau cymeradwy ar gyfer seremonïau sifil
Mae'n rhaid cynnal seremonïau sifil mewn lleoliad sydd wedi'i gymeradwyo gan eich awdurdod lleol.
Mae lleoliadau'n amrywio o ran maint a lleoliad ac yn cynnwys gwestai bach, cartrefol, ysguboriau sydd wedi'u hadnewyddu'n chwaethus, gwestai a phlastai mwy o faint, a hyd yn oed cestyll! Maen nhw i gyd wedi'u lleoli yn rhai o fannau mwyaf rhamantus, hanesyddol a phrydferth Sir Benfro - yng nghefn gwlad gogledd y Sir, ar hyd yr arfordir nodedig, ac yn nhrefi glan môr y de. Yr her fwyaf i chi fydd dewis un ohonyn nhw!
Pan fyddwch wedi dewis eich lleoliad, fe ddylech holi a yw ar gael ac archebu am y tro. Mae'n bwysig iawn wedyn ichi gysylltu â ni i wneud yn siŵr bod cofrestryddion ar gael i gynnal a chofrestru eich achlysur.
Os hoffech wneud cais am eich lleoliad i fod yn ganiatâd cymeradwy, darllenwch, llenwch a dychwelwch y ffurflen gais.
Lleoliad |
Trwydded yn Dod i Ben |
Ffôn |
---|---|---|
Alltyrafon (yn agor mewn tab newydd), Wolfscastle Country Hotel |
15/05/2024 |
01437 741225 |
Beggars Reach Hotel (yn agor mewn tab newydd) |
9/11/2024 |
01646 600700 |
Cardeeth (yn agor mewn tab newydd) |
21/06/2024 | 07768 692104 |
Castell Caeriw (yn agor mewn tab newydd) |
01/07/2025 | 01646 651782 |
Cresselly House (yn agor mewn tab newydd) |
27/08/2025 |
01646 651992 |
Crug-Glas Country House (yn agor mewn tab newydd) |
10/04/2024 |
01348 831302 |
Druidstone Hotel (yn agor mewn tab newydd) |
27/06/2027 |
01437 781221 |
Fforest Farm (yn agor mewn tab newydd) |
26/10/2025 |
01239 623633 |
Fishguard Bay Hotel (yn agor mewn tab newydd) |
14/12/2021 |
01348 873571 |
Gelli Fawr (yn agor mewn tab newydd) |
24/05/2021 |
01239 820343 |
Giltar Hotel (yn agor mewn tab newydd) |
14/12/2024 |
01834 842507 |
Hilton Court (yn agor mewn tab newydd) |
16/04/2026 |
01437 710262 |
Hotel Plas Hyfryd (yn agor mewn tab newydd) |
7/05/2026 |
01834 869006 |
Llwyngwair Manor (yn agor mewn tab newydd) |
22/03/2025 |
01239 820498 |
Llys Meddyg (yn agor mewn tab newydd) |
19/03/2025 |
01239 820008 |
Manorbier Castle (yn agor mewn tab newydd) |
02/03/2025 |
01834 870081 |
Manor House Wildlife Park (yn agor mewn tab newydd) |
30/09/2024 |
01646 651201 |
Monk Haven Manor (yn agor mewn tab newydd) |
14/02/2025 |
01646 636216 |
Musslewick Farm (yn agor mewn tab newydd) St Brides, Haverfordwest, SA62 3AW |
11/05/2026 | 01646 635949 |
Nantwen (yn agor mewn tab newydd) |
25/08/2027 |
01239 820768 |
Nantyffin Hotel and Motel (yn agor mewn tab newydd) |
25/06/2026 |
01437 563423 |
Newport Links Golf Club (yn agor mewn tab newydd) |
11/09/2025 |
01239 820244 |
Nolton Coast (yn agor mewn tab newydd) |
06/04/2024 | 01437 710310 |
Castell Penfro (yn agor mewn tab newydd) |
28/05/2024 |
01646 681510 |
Abaty Penalun (yn agor mewn tab newydd) |
27/09/2023 |
01834 843033 |
Picton Castle (yn agor mewn tab newydd) |
6/07/2024 |
01437 751326 |
Plas Pantyderi Manor (yn agor mewn tab newydd) |
19/04/2024 |
07932 956099 |
Maenordy Scolton (yn agor mewn tab newydd) |
10/02/2025 |
01437 731328 |
Parc Slebets (yn agor mewn tab newydd) |
24/10/2024 |
01437 752000 |
Canolfan Ddysgu Awyr Agored Ystagbwll (yn agor mewn tab newydd) |
06/08/2027 |
01646 623110 |
St Brides Spa Hotel (yn agor mewn tab newydd) |
26/03/2026 |
01834 812304 |
Teifi Waterside Hotel (yn agor mewn tab newydd) |
16/02/2025 | 01239 612085 |
The Begelly Arms (yn agor mewn tab newydd) |
12/10/2024 | 01834 812601 |
The Grove (yn agor mewn tab newydd) |
24/02/2026 |
01834 860915 |
The Imperial Hall (yn agor mewn tab newydd) |
19/04/2025 |
07949 406624 |
The Imperial Hotel (yn agor mewn tab newydd) |
16/11/2025 |
01834 843737 |
The Pembrokeshire Retreat, Rhos-y-Gilwen Mansion (yn agor mewn tab newydd) |
04/02/2027 | 01239 841387 |
The Old Barn, Crunwere House (yn agor mewn tab newydd) |
16/07/2024 | 07899 005709 |
The Old Rectory (yn agor mewn tab newydd) |
03/02/2025 |
01239 820277 |
The Queen's Hall (yn agor mewn tab newydd) 44 High Street, Narberth, SA67 7AS |
21/06//2024 | 01834 861212 |
The Regency Hall (yn agor mewn tab newydd) |
22/11/2025 |
01834 811700 |
The Snooty Fox (yn agor mewn tab newydd) |
28/05/2024 |
01834 891300 |
Trefloyne Manor (yn agor mewn tab newydd) |
19/07/2024 |
01834 842165 |
Tudor Lodge (yn agor mewn tab newydd) |
23/06/2024 |
01834 871212 |
Waterwynch House (yn agor mewn tab newydd) |
28/05/2026 |
01834 850100 |
Woodhouse Barn (yn agor mewn tab newydd) |
06/10/2025 |
01437 769154 |
Priodasau a Phartneriaethau Sifil
Trowch eich cefn ar strach a helynt bywyd y dref a'r ddinas a gwelwch eich breuddwydion am ddiwrnod perffaith yn dod yn wir pan ddewiswch Sir Benfro ar gyfer eich priodas, partneriaeth sifil neu eich seremoni enwi neu ailddatgan addunedau.
Mae Sir Benfro, Bro Hud a Lledrith, a'i Gwasanaeth Cofrestru yn eich gwahodd i ddathlu achlysuron pwysicaf eich bywyd yn y sir hudol hon.
Yn Sir Benfro gellir cynnal pob seremoni sifil yn Swyddfa Gofrestru Ardal Sir Benfro yn Hwlffordd neu yn unrhyw un o nifer o adeiladau sydd wedi eu cymeradwyo ar hyn o bryd. Mae'r mannau hyn yn amrywio o ran maint a lleoliad - gwestai bach agosatoch, ysgubor wedi ei ailwampio'n chwaethus, neu westai mwy, plastai a thai gwledig a hyd yn oed castell neu ddau! Mae pob un yn rhai o ardaloedd harddaf Sir Benfro - ym mhellafoedd y wlad yn y gogledd, ger glannau geirwon ysgubol neu drefi glan môr yn y de. Mae rhywbeth i bawb, eich problem fwyaf fydd penderfynu lle!
Bydd eich seremoni chi yn cael ei llunio'n arbennig ar gyfer eich gofynion, ac mae'n gallu bod mor ffurfiol neu anffurfiol ag y dymunwch - cyn lleied â'r ddau ohonoch a dau dyst neu gynulliadau mwy yn unol â'r lleoliad y byddwch yn ei ddewis. Fe gewch seremoni draddodiadol neu anffurfiol ac yna gwledd, barbiciw neu ddim ond mynd am dro bach ar y traeth a hedfan eich barcut!
Trowch eich cefn ar hynt a helynt y byd a mwynhau profiad gwirioneddol hudolus.
I gadw lle, trefnu apwyntment neu ar gyfer cyngor cyffredinol a gwybodaeth:
Cysylltwch â ni
Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro
Archfidy Sir Benfro
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PE
Ffôn 01437 775176
E-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm