Priodasau a Phartneriaethau Sifil
Opsiynau seremonïau
Croeso i Seremonïau Sir Benfro, lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i drefnu a chynllunio’ch diwrnod.
P’un a ydych yn priodi, yn ffurfio partneriaeth sifil neu’n dathlu digwyddiad a gynhaliwyd yn flaenorol, byddwn yn eich helpu i wneud eich seremoni yn ddiwrnod i’w gofio. Mae gennym ni amrywiaeth o opsiynau i chi ddewis o’u plith a bydd ein tîm seremonïau ymroddedig wrth law i’ch helpu chi i wireddu’ch breuddwyd, p'un a yw'n ddigwyddiad bach agos atoch neu’n ddathliad mawreddog.
Rydym am chwalu’r myth bod seremonïau a gyflwynir gan gofrestryddion yn amhersonol ac yn ffurfiol. Rydym yn ffodus i fod â thîm gwych o gofrestryddion seremoni sy’n angerddol am gyflwyno seremoni bersonol ar gyfer pob cwpl, a ddangosir gan yr adborth anhygoel gan ein cyplau hapus niferus – edrychwch ar ein tudalennau Facebook ac Instagram am rai o’r sylwadau gwych rydym wedi’u derbyn.
Os ydych chi’n chwilio am seremoni sy’n bersonol, yn hyblyg ac wedi’i chynllunio’n arbennig ar eich cyfer chi, a hefyd yn sicrhau bod yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni, ni yw’r unig dîm yn Sir Benfro a all ddarparu’r gwasanaeth llawn hwn i chi.
Ar y dudalen hon:
A oes angen gweinydd annibynnol arnaf?
Ble gallaf gynnal fy seremoni?
Pa fath o seremoni alla i ei chael?
Pa becynnau seremoni ydych chi’n eu cynnig?
Sut byddaf yn cynllunio a phersonoli fy seremoni?
Sut ydw i’n talu am fy seremoni?
A oes angen gweinydd annibynnol arnaf?
Nac oes. Mae cyplau yn aml yn dewis gweinyddion oherwydd eu bod yn credu y gallant ddarparu seremoni fwy hyblyg a phersonol. Gall ein tîm ddarparu priodasau a phartneriaethau sifil cyfreithiol sy'n bersonol a phwrpasol a gallwn gynnig seremonïau dan arweiniad gweinydd sy’n union yr un fath â’r rhai a ddarperir gan weinyddion annibynnol. Un o fanteision archebu gyda ni yw y gall eich gweinydd hefyd gynnal eich seremoni gyfreithiol. Byddwch hefyd yn cael cefnogaeth lawn ein tîm drwy gydol yr amser. Os hoffech siarad ag un o’n tîm i drafod eich gofynion, cysylltwch â ni ar 01437 775826.
Ble gallaf gynnal fy seremoni?
Dim ond yn ein swyddfa yn Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd, neu ar un o’n safleoedd cymeradwy yn Sir Benfro y gellir cynnal priodasau a seremonïau partneriaeth sifil cyfreithiol, ond gall ein seremonïau gweinyddion gael eu cynnal mewn unrhyw leoliad o’ch dewis yn Sir Benfro a thu hwnt.
Ceir rhagor o wybodaeth am ble y gallwch gynnal eich seremoni yn ogystal â manylion cyswllt yr holl leoliadau a gymeradwywyd ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil yn Sir Benfro ar ble i gynnal eich seremoni (yn agor mewn tab newydd).
Pa fath o seremoni alla i ei chael?
Priodas sifil neu grefyddol: lle mae dau unigolyn yn cael eu huno'n gyfreithiol, gan ofyn am gyfnewid addunedau gerbron o leiaf dau dyst.
Partneriaeth sifil: lle mae dau unigolyn yn cael eu huno'n gyfreithiol o flaen o leiaf dau dyst lle nad oes angen cyfnewid addunedau.
Gall priodasau sifil a phartneriaeth sifil amrywio o gofrestriad syml lle bodlonir y gofynion cyfreithiol sylfaenol i seremoni hynod bersonol a phwrpasol.
Seremoni dan arweiniad gweinydd: dathliad nad yw’n gyfreithiol. Gellir cyfuno’r math hwn o seremoni â seremoni gyfreithiol naill ai’n syth ar ôl y rhan nad yw’n gyfreithiol o’r dathliad neu ar ddiwrnod arall (os yw’r seremoni'n cael ei chynnal mewn lleoliad didrwydded).
Pa becynnau seremoni ydych chi’n eu cynnig?
Mae ein holl seremonïau wedi’u cynllunio i fodloni’ch dewisiadau unigol, p’un a ydych eisiau cofrestriad ‘di-ffwdan’ syml neu ddigwyddiad cwbl bwrpasol. Mae gennym amrywiaeth o becynnau at ddant pawb ac sy'n addas ar gyfer pob cyllideb.
Cofrestriad syml mewn swyddfa gofrestru o flaen dau dyst (dydd Mawrth yn unig).
Seremoni syml yn ein hystafell seremoni gyda hyd at wyth o westeion (dydd Mercher i ddydd Gwener).
Seremoni uwch yn ein hystafell seremoni gyda hyd at 30 o westeion (dydd Mercher i ddydd Gwener) a hyd at 60 o westeion (dydd Sadwrn).
Seremoni uwch neu bwrpasol mewn lleoliad trwyddedig (unrhyw ddiwrnod).
Seremoni wedi’i rhannu mewn lleoliad trwyddedig, yn cyfuno dathliad dan arweiniad gweinydd ac yna priodas neu gofrestriad partneriaeth sifil cyfreithiol (unrhyw ddiwrnod).
Seremoni ddeuol sy'n cynnwys dathliad dan arweiniad gweinydd mewn lleoliad o’ch dewis (unrhyw ddiwrnod), ynghyd â seremoni gyfreithiol syml yn ein hystafell seremoni (dydd Mercher i ddydd Sadwrn).
Seremoni ddathlu, megis seremoni enwi, adnewyddu addunedau neu seremoni ymrwymiad.
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwahanol ddewisiadau ar gyfer seremonïau, neu siarad ag un o’n tîm.
E-bost: ceremonies@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 775826
Sut byddaf yn cynllunio a phersonoli fy seremoni?
Unwaith y byddwch wedi archebu eich seremoni, byddwch yn cael mynediad at eich porth seremoni personol. Bydd y porth yn eich arwain drwy’r broses o gynllunio a phersonoli eich seremoni.
Byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
- Gweld eich manylion archebu seremoni
- Diweddaru eich manylion personol
- Archebu eich hysbysiadau os ydych yn byw yn Sir Benfro ar hyn o bryd
- Dewis sgript eich seremoni
- Rhoi gwybod i ni am unrhyw fanylion ychwanegol fel y gallwn sicrhau bod eich seremoni yn rhedeg yn esmwyth
- Talu eich ffioedd seremoni
Os ydych wedi archebu’r canlynol:
- seremoni mewn adeilad cymeradwy
- ein hystafell seremoni uwch
- seremoni dan arweiniad gweinydd
Bydd eich cofrestrydd seremoni yn cyfarfod â chi (naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn neu gyswllt fideo) i fynd trwy eich dewisiadau seremoni a’r holl fanylion sydd eu hangen i sicrhau bod eich seremoni’n rhedeg yn esmwyth ac yn bodloni eich gofynion.
Sut ydw i’n talu am fy seremoni?
Gellir gwneud taliadau drwy eich porth seremoni neu drwy ein ffonio ar 01437 775826. Gweld y rhestr lawn o ffioedd cyfredol (yn agor mewn tab newydd).
Cadw’r dyddiad: Pan fyddwch chi'n archebu ymlaen llaw, bydd angen i chi dalu ffi ‘cadw’r dyddiad’ na ellir ei had-dalu. Bydd y ffi hon yn cadw eich archeb am gyfnod callio o 14 diwrnod, a bydd yn rhaid i chi dalu’r ffi statudol neu flaendal erbyn diwedd y cyfnod hwn.
Mae ffioedd statudol ar gyfer cofrestru seremonïau syml a chrefyddol yn cael eu pennu gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol a bydd angen eu talu’n llawn o fewn 14 diwrnod o’u harchebu.
Ni fydd angen unrhyw daliadau ffioedd statudol pellach oni bai fod y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn gweithredu codiad ffi cyn y seremoni. Ni fydd angen i chi dalu unrhyw godiad ffi ychwanegol os cynhelir y seremoni lai na thri mis ar ôl dyddiad y cynnydd.
Blaendal: Ar gyfer pob seremoni arall, bydd angen i chi dalu blaendal seremoni o fewn 14 diwrnod o archebu.
Balans terfynol: Gosodiry ffioedd ym mis Medi ar gyfer y flwyddyn ganlynol, gan roi o leiaf chwe mis o rybudd o’ch taliad terfynol. Unwaith y bydd eich balans terfynol wedi’i ychwanegu at y porth, gallwch ei dalu ar unrhyw adeg, ond dylid ei dalu o leiaf 12 wythnos cyn eich seremoni.
Noder: Bydd y swm terfynol y bydd angen i chi ei dalu yn seiliedig ar ddyddiad eich seremoni. Gweler ein ffioedd cyfredol (yn agor mewn tab newydd).
Os oes angen unrhyw un o’r gwasanaethau ychwanegol canlynol arnoch, bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at eich pecyn seremoni ar ôl trafod gyda’ch cofrestrydd seremoni. Bydd angen talu ffioedd am y gwasanaethau ychwanegol hyn o fewn saith diwrnod.
Ymarfer: Os hoffech gael ymarfer, gallwch roi gwybod i ni drwy’r porth seremoni. Bydd eich cofrestrydd seremoni yn cysylltu â chi tua mis cyn eich seremoni i drefnu diwrnod ac amser cyfleus ar gyfer eich ymarfer.
Gallwch hefyd ofyn am ymarfer yn eich cyfarfod cynllunio seremoni. Mae ffioedd ar gyfer ymarferion yn amrywio ac yn dibynnu ar ble y bydd yn digwydd a’r diwrnod/amser.
Ffi am seremoni wedi’i rhannu: Os ydych yn cynnal seremoni gyfreithiol mewn safle cymeradwy, ond yr hoffech gynnwys elfennau crefyddol neu baganaidd (e.e. llawafael), mae ffi ychwanegol oherwydd byddai angen i ni ddarparu seremoni dan arweiniad gweinydd yn ogystal â’r seremoni gyfreithiol.
Ffi am sgript bwrpasol: Mae ein holl seremonïau yn bersonol iawn ond, os ydych chi eisiau seremoni gwbl bwrpasol gyda llawer o elfennau ychwanegol, mae ffi fach ychwanegol.
Os hoffech siarad ag un o’n tîm cyn archebu lle neu ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cyn eich seremoni, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Cysylltwch â ni
E-bost: ceremonies@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 775826
Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro
Archfidy Sir Benfro
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PE
Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm