Priodasau a Phartneriaethau Sifil
Priodasau a phartneriaethau sifil
Mae gennym amrywiaeth o opsiynau ar gyfer priodi neu ffurfio partneriaeth sifil sy’n amrywio o gofrestriad syml i seremoni gwbl bwrpasol.
Ar y dudalen hon:
Seremoni uwch
Gall seremonïau uwch mewn safleoedd cymeradwy neu yn ein hystafell seremoni fod mor syml neu mor bersonol ag y dymunwch.
Yn ogystal â’ch addunedau cyfreithiol, gallwch wneud y canlynol:
- dewis ysgrifennu cyflwyniad i’ch seremoni yn llawn elfennau personol neu gallwch ddewis i’ch cofrestrydd seremoni wneud hyn ar eich rhan
- gwneud addewidion i’ch gilydd sy’n eich adlewyrchu chi fel cwpl
- cynnwys hyd at ddau ddarlleniad neu gân i gynnwys eich ffrindiau a’ch teulu a hefyd eich personoliaethau yn eich seremoni
- cynnwys y gerddoriaeth rydych yn ei mwynhau, naill ai drwy greu rhestr chwarae neu logi cerddor byw, band neu gôr. Yn gyffredinol, rydym yn argymell cerddoriaeth pan fydd eich gwesteion yn ymgynnull cyn y seremoni, pan fyddwch yn mynd i mewn i'r lleoliad, pan fyddwch yn llofnodi’r dogfennau cyfreithiol, a phan fyddwch yn gadael y seremoni.
Seremoni syml
Mae seremonïau syml yn cynnwys addunedau personol ac addunedau modrwy y gellir eu dewis o’r opsiynau a ddarperir neu gallwch ysgrifennu rhai eich hun. Gallwch gynnwys eich personoliaethau yn y seremoni trwy gynnwys cerddoriaeth pan fyddwch yn dod i mewn i'r lleoliad, pan fyddwch yn llofnodi’r dogfennau cyfreithiol, a phan fyddwch yn gadael y seremoni.
Cofrestriad syml
Bydd cofrestriad yn cynnwys y cwpl, dau dyst, a’r swyddogion cofrestru sy’n cynnal y gofynion cyfreithiol ar gyfer y cofrestriad. (Nid oes unrhyw westeion eraill, dibynyddion neu blant dan oed yn gallu mynychu’r cofrestriad hwn.)
Bydd y cofrestriad yn digwydd yn ein swyddfa ddynodedig yn Archifdy Sir Benfro. Mae cofrestriadau syml ar gael ar ddydd Mawrth.
Mae cofrestriadau priodas yn cynnwys dweud addunedau cyfreithiol ar lafar tra nad yw cofrestriadau partneriaeth sifil yn gofyn am ddweud unrhyw addunedau cyfreithiol ar lafar, ond gallwch gael yr opsiwn i ddweud y datganiad cyfreithiol ar lafar.
Yn ogystal â’ch addunedau cyfreithiol, os dymunwch rhoi modrwyau i’ch gilydd, mae yna ddetholiad o addunedau i ddewis ohonynt. Mae croeso i’ch tystion dynnu lluniau.
Er ei fod yn ddi-ffwdan, mae cofrestriad yn dal i fod yn achlysur lle gallwch chi wneud eich ymrwymiad cyfreithiol i’ch gilydd.
Seremonïau pwrpasol
Er bod ein seremonïau uwch yn caniatáu ichi greu seremoni bersonol iawn, os ydych am fynd gam ymhellach a chreu seremoni wirioneddol unigryw, mae ein gwasanaeth pwrpasol yn rhoi’r opsiwn i chi deilwra pob agwedd ar eich seremoni.
Dyma rai syniadau ar gyfer seremoni bwrpasol.
Clymu’r cwlwm
Mae clymu cwlwm y pysgotwr yn draddodiad hardd y gellir ei wehyddu o fewn i’ch seremoni. Gelwir hwn hefyd yn gwlwm y cariad a chwlwm y pysgotwr yw un o’r clymau cryfaf sydd ar gael. Daw’r cwlwm yn gryfach o dan bwysau, sy’n arwydd o’r cariad ac ymrwymiad parhaus sydd gennych tuag at eich gilydd.
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gynnwys hyn yn eich seremoni. Gallwch ddefnyddio un rhaff neu gortyn, dau ddarn ar wahân, neu ddarn sengl sydd wedi’i wehyddu o wahanol liwiau. Wrth i chi dynnu ar bob pen i’r rhaff, mae’r cwlwm yn tynhau ac ni fydd yn cael ei ddadwneud. Mae hyn yn cynrychioli cryfder eich cwlwm fel cwpl.
Cymysgu tywod
Mae cymysgu tywod yn golygu arllwys tywod o wahanol liwiau i mewn i un llestr, sy’n cynrychioli uno unigolion mewn un uned anwahanadwy. Gellir cynnwys plant hefyd, fel symbol o ymuno fel teulu.
Gall lliwiau’r tywod fod yn ddewis personol i’r ddau ohonoch.
Un opsiwn posibl fyddai eich bod yn cymryd troeon, am yn ail â’ch gilydd, i arllwys tywod o’ch llestr i mewn i lestr canolog, gan greu haenau. Wedyn, gyda’ch gilydd, byddwch yn arllwys gweddill y tywod i’r llestr canolog fel bod y ddau liw yn cyfuno ac na ellir eu gwahanu. Mae hyn yn symbol o’ch undod mewn priodas.
Ar ôl y seremoni, bydd gennych chi symbol hardd o’ch cariad y gallwch chi ei arddangos a’i gadw am byth.
Cynhesu modrwyon
Gall seremoni cynhesu modrwyon fod yn ffordd hyfryd i’ch teulu a’ch ffrindiau gymryd rhan yn eich priodas. Mae’r modrwyau priodas yn cael eu trosglwyddo i’ch gwesteion i’w dal am ychydig eiliadau fel y gallant ’gynhesu’ y modrwyon gyda phositifrwydd a dymuniadau da am eich bywyd gyda’ch gilydd.
Mae eich modrwyon priodas yn dod yn symbol, nid yn unig o’ch ymrwymiad i’ch gilydd, ond o’r cariad a’r gefnogaeth sydd gennych o’ch cwmpas.
Rydym yn agored i geisiadau a byddwn yn gweithio gyda chi i greu seremoni sy’n dathlu eich unigolrwydd wrth hefyd fod yn gyfreithiol ac yn swyddogol.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Ffôn 01437 775176
E-bost: ceremonies@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm