Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Priodi

Mae eich priodas yn achlysur unigryw ac arbennig, ac rydym yma i'ch helpu i wneud y diwrnod yn un cofiadwy.   

Beth bynnag a ddewiswch, boed yn seremoni fach gyda chi eich dau a dau dyst, achlysur teuluol cartrefol neu ddathliad mawreddog, fe fyddwn yn falch o'ch helpu i drefnu diwrnod a fydd yn gwireddu eich breuddwydion.   

Ble bynnag y cynhaliwch eich seremoni, boed yn y Swyddfa Gofrestru, yn un o'n hadeiladau trwyddedig, neu mewn eglwys neu addoldy arall, fe fydd yn rhaid i chi fod yn gyfarwydd â'r trefniadau ffurfiol canlynol.  

  • nid oes raid i chi fyw yn Sir Benfro os byddwch am gynnal eich seremoni o fewn y sir  
  • fe ddylech archebu mewn da bryd er mwyn sicrhau'r amser a'r dyddiad sydd orau gennych; cysylltwch â ni i drafod dyddiadau ac amserau posibl 
  • mae'n rhaid i chi a'ch partner fod dros 18 oed, heb fod yn perthyn i'ch gilydd, a heb fod mewn priodas neu bartneriaeth sifil ar y pryd
  • fe fydd yn rhaid i chi eich dau roi rhybudd o briodas yn y swyddfa gofrestru yn yr ardal lle rydych yn byw  
  • mae rhybudd o briodas yn ddilys am un flwyddyn, ond rydym yn derbyn archebion dros dro fwy na blwyddyn o flaen llaw  
  • fe fydd angen i chi wneud apwyntiad i roi rhybudd o briodas, ac fe ddylech drefnu hyn dros y ffôn  
  • fe fydd yn rhaid i chi sicrhau fod y dogfennau cywir gennych pan ddowch i'r apwyntiad; oes nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni am gyngor
  • fe allwn gynnig awgrymiadau ynghylch cynnwys eich seremoni, ond cofiwch mai chi biau'r diwrnod, felly mae croeso i chi gynnig eich syniadau eich hunain  

Mae ein staff cofrestru arbenigol ar gael i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i'ch helpu i greu eich diwrnod perffaith.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:  

Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro

Swyddfa Gofrestru Sir Benfro

Archfidy Sir Benfro

Prendergast

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 2PE

Ffôn 01437 775176

E-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk

Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm

 

ID: 90, adolygwyd 05/12/2023