Priodasau a Phartneriaethau Sifil
Rhoi rhybudd o briodas neu bartneriaeth
Cyn gallu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil bydd rhaid i'r ddau ohonoch roi rhybudd o briodas neu bartneriaeth sifil.
Ar hyn o bryd, ellir rhoi'r rhybuddion hyd at 12 mis ac o leiaf 28 o ddyddiau cyn dyddiad y seremoni. Mae'r daflen hon yn egluro'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud. Darllenwch hon yn ofalus os gwelwch yn dda.
Mae rhoi rhybudd yn ddatganiad cyfreithiol i'r Cofrestrydd Arolygol. Bydd rhaid i'r ddau ohonoch roi eich manylion personol a gwneud datganiad eich bod yn rhydd i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil.
- Bydd rhaid i'r ddau ohonoch fod yn bresennol yn y swyddfa gofrestru yn yr ardal yr ydych yn byw ynddi.
- Bydd rhaid i chi fod wedi cadarnhau'r lle yr ydych yn dymuno cynnal eich seremoni.
- Mae'n rhaid i chi fyw yn yr ardal am o leiaf saith diwrnod llawn yn olynol cyn rhoi rhybudd.
- Os nad ydych wladolydd y DU / AEE efallai y bydd rhaid i chi fynd i Swyddfa Gofrestru ddynodedig. Nid yw pob Swyddfa Gofrestru yn ddynodedig, felly bydd rhaid efallai i chi gael cyngor ynglŷn â ble y gallwch fynd. Mae Dosbarth Cofrestru Sir Benfro yn swyddfa gofrestru ddynodedig.
- Mae'n rhaid i chi aros o leiaf 28 o ddyddiau wedi rhoi eich rhybudd cyn y gall eich priodas neu bartneriaeth sifil ddigwydd.
- Os bydd y ddau ohonoch yn rhoi eich rhybudd ar ddyddiau gwahanol, mae'r cyfnod lleiaf o rybudd yn cael ei gyfrif o ddyddiad yr ail rybudd.
- Mae'n rhaid talu ffi o £35.00 yr un.
Sylwch os gwelwch yn dda: Mae adeiladau neu safleoedd sy'n lleoliadau cymeradwy yn cael trwydded am 3 blynedd ar y tro. Holwch gyda'r lleoliad os gwelwch yn dda, os bydd eu trwydded wedi dod i ben cyn y dyddiad sydd wedi ei drefnu ar gyfer eich seremoni, a ydynt yn bwriadu adnewyddu'r drwydded. Nid oes modd derbyn rhybudd o briodas/partneriaeth sifil ar gyfer lleoliad heb drwydded.
Bydd rhaid hefyd i chi ddangos dogfennau i gadarnhau eich enw, oedran, cenedl, statws priodasol neu bartneriaeth sifil a phrawf o'ch cyfeiriad ar gyfer y saith diwrnod llawn diwethaf cyn rhoi eich rhybudd.
Os ydych dros 18 oed, yn ddinesydd Prydeinig ac yn byw yn Sir Benfro, efallai y gall y ddogfen hon eich helpu - .
Cadarnhewch os gwelwch yn dda pa ddogfennau y bydd rhaid i chi a'ch partner ddod â hwy gyda chi at y Cofrestrydd Arolygol cyn dod i mewn i roi eich rhybudd.
Cofiwch sicrhau, os gwelwch yn dda, eich bod yn rhoi dogfennau gwreiddiol. Ni ellir derbyn llungopïau.