Problemau golwg
Problemau golwg
Cymorth gan y gwasanaeth iechyd
Os ydych yn cael problemau gyda’ch golwg, ewch i weld eich meddyg teulu neu optegydd cyn gynted ag y bo modd. Os oes angen, gallant eich cyfeirio i glinig llygaid neu at offthalmolegydd ymgynghorol. Bydd eich meddyg teulu neu’r optegydd hefyd yn gallu rhoi manylion am Glinigau Golwg Gwan lle gallwch fenthyca chwyddwydrau neu sbectols arbennig. Bydd clinigau hefyd yn gallu rhoi manylion i chi am sefydliadau a all gynnig cefnogaeth neu gyngor emosiynol i chi ynglŷn â chyflyrau penodol.
Dewis Cymru y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall
ID: 2133, adolygwyd 16/01/2023