Prydau Ysgol

Trosolwg

Ein Gwasanaeth Arlwyo sy’n darparu prydau ysgol ac mae ein holl fwydlenni’n dilyn Canllawiau Maethol Cynulliad Cymru (yn agor mewn tab newydd) ac yn darparu dros draean gofynion maethol ac ynni dyddiol y corff.

Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda chyflenwyr i sicrhau bod holl elfennau’n cyrraedd y safon uchaf, heb ychwanegion niweidiol. Bydd cylchoedd bwydlenni’n newid ddwywaith y flwyddyn ac mae modd arlwyo ar gyfer holl ofynion arbennig o ran lluniaeth, e.e. llysieuol, diabetig, anoddefiad llaeth neu gnau ar gais ysgrifenedig rhieni / gwarcheidwaid.

O fis Medi 2023 ymlaen, bydd pob disgybl cynradd amser llawn yn derbyn prydau ysgol am ddim.

Mae ein Ysgolion Uwchradd yn darparu gwasanaeth ffreutur fel bod disgyblion yn gallu dewis pa fwyd i’w brynu.

Mae cyfleusterau ar gael yn holl ysgolion cynradd ac uwchradd i blant sydd eisiau dod â chinio pecyn.

 

 

ID: 1223, adolygwyd 25/08/2023