Prydau Ysgol

Cynllun Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb

O fis Medi 2023 ymlaen, bydd pob disgybl cynradd amser llawn yn derbun prydau ysgol am ddim.

Mae’r polisi Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

 

Cwestiynau Cyffredin

 

A fydd angen i ni lenwi ffurflen gais i fanteisio ar y cynllun Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd ar gyfer fy mhlentyn / fy mhlant?

Ni fydd angen i rieni a gofalwyr lenwi ffurflen gais. Gofynnir i blant p’un a hoffent archebu pryd o fwyd bob dydd yn ystod cyfnod cofrestru’r bore.

 

Mae fy incwm yn isel ac mae fy mhlentyn / fy mhlant yn cael Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) ar hyn o bryd, beth bynnag -  sut bydd cyflwyno’r cynllun Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn effeithio arna’ i?

Ni fydd teuluoedd ar incymau isel yn cael eu heffeithio gan gyflwyno’r cynllun Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd. Byddwch chi’n gallu cael prydau ysgol am ddim a hanfodion ysgol eraill o hyd, fel cymorth i brynu gwisg ysgol, cit chwaraeon, ac offer ysgrifennu.

 

Mae gen i blentyn neu blentyn arall yn dechrau’r ysgol ym mis Medi. A fydd y plentyn yn cael prydau ysgol am ddim fel mater o drefn?

Os yw eich plentyn yn dechrau yn y dosbarth meithrin, y dosbarth derbyn, Blwyddyn 1 neu Flwyddyn 2 ym mis Medi, bydd yn cymhwyso fel mater o drefn ar gyfer y cynllun newydd Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd. Fodd bynnag, os ydych chi fel rhiant neu warcheidwad yn derbyn budd-dal cymhwyso, rhaid i chi wneud cais o hyd am Brydau Ysgol Am Ddim (eFSM) er mwyn gallu cael cyllid arall, fel Hanfodion Ysgol (Mynediad GDD). 

 

A yw ysgolion yn gallu darparu ar gyfer anghenion deietegol arbennig fy mhlentyn?

Ydyn, gellir darparu ar gyfer yr holl ofynion deietegol arbennig, ar gais. Cysylltwch â’n special.diets@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 776168 i drafod anghenion deietegol arbennig eich plentyn.

 

Mae credyd ar ôl yng nghyfrif arlwyo di-arian parod fy mhlentyn. Sut ydw i’n cael ad-daliad?

Anfonwch neges e-bost at:cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk i ofyn am ad-daliad, neu fel arall, gallwch ofyn bod y credyd yn cael ei drosglwyddo i gyfrif brawd neu chwaer.

 

ID: 9251, adolygwyd 20/08/2025