Prydau Ysgol

Gwnewch gais am brydau ysgol am ddim i'ch plentyn

Trosolwg

Os ydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad i blentyn yn yr ysgol, efallai y bydd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (yn agor mewn tab newydd).

Ar gyfer plant yn yr ysgol uwchradd, byddai hyn yn cynnwys lwfans dyddiol i dalu am eu cinio.

Mae'r wybodaeth am bwy sy'n cael prydau ysgol am ddim yn breifat. 

 

Mae prydau ysgol am ddim wedi newid

Mae'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) yn ei gwneud yn ofynnol i rieni a gwarcheidwaid cymwys wneud cais. 

Ond gyda chyflwyniad Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd (UPFSM), mae pob plentyn mewn ysgol gynradd yn Sir Benfro bellach yn cael prydau ysgol am ddim.

 

Gwnewch gais am gynllun dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim i gael cymorth arall

Dylech barhau i wneud cais am gynllun dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim os ydych yn gymwys hyd yn oed os yw prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn golygu bod eich plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim.

Y rheswm am hyn yw:

  • efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth arall, fel y Grant Hanfodion Ysgol
  • gallai eich ysgol gael mwy o gyllid

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer: 

 

Cymhwysedd 

Efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn rhiant neu’n warcheidwad plentyn yn yr ysgol, a’ch bod yn derbyn un o’r budd-daliadau hyn:  

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm. Nid yw Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau yn gymwys
  • Yr Elfen Gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credydau Treth Plant yn unig, gydag incwm cartref blynyddol o lai na £16,190 *
  • Cymorth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Cynhwysol

Sylwch, os ydych yn derbyn Credydau Treth Gwaith yn ychwanegol at unrhyw un o'r budd-daliadau hyn, ni fyddwch yn gymwys i gael prydau am ddim, hyd yn oed os yw incwm eich aelwyd yn llai na £16,190*.

* Fel canllaw, mae incwm aelwyd blynyddol ymgeisydd fel arfer yn cael ei ddatgan ar Grynodeb Credydau Treth/Hysbysiad Dyfarniad TC602.

Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, rhaid i enillion eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw incwm o fudd-daliadau. 

 

 

Gwnewch gais

Gwnewch gais am gynllun dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim os ydych chi'n gymwys, hyd yn oed os yw'ch plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim ers cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd.

Gallwch wneud cais unrhyw bryd. 

I wneud cais, bydd angen eich:   

  • manylion cyswllt
  • manylion y plentyn 
  • enw ysgol y plentyn 
  • Rhif Yswiriant Gwladol (os yw ar gael)
    • prawf cyfredol o fudd-dal cymhwyso (hyd yn oed os ydych yn gwneud cais i adnewyddu prydau am ddim)

 

Cais am brydau ysgol am ddim

Mae ffurflenni cais ar gael hefyd:

  • oddi wrth ysgol eich plentyn
  • drwy ffonio 01437 764551

Os ydych yn dymuno hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer mwy nag un plentyn, dim ond un ffurflen sydd angen ei chyflwyno, hyd yn oed os yw'r plant yn mynychu gwahanol ysgolion yn Sir Benfro.

  

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwch yn derbyn e-bost oddi wrthym i gadarnhau p’un a fydd eich plentyn yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim a pha bryd fydd hynny. Gall hyn gymryd hyd at bum niwrnod gwaith ac o bosibl yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.

 

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu os oes angen cymorth arnoch i wneud cais, gallwch: 

Gallwch hefyd gysylltu â'ch ysgol os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch i wneud cais.

 

Disgyblion sy'n mynychu ysgolion y tu allan i Sir Benfro

Nid yw Cyngor Sir Penfro yn rhoi prydau am ddim i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion y tu allan i Sir Benfro, neu i fyfyrwyr mewn coleg. Dylai disgyblion sy’n byw yn Sir Benfro ac sy’n mynychu ysgolion mewn siroedd eraill wneud cais i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol.

 

ID: 11147, adolygwyd 21/11/2023