Prydau Ysgol

Hysbysiad Balans Isel

Ar gyfer pob un o'r Cyfrifon Arlwyo heb Arian rydych wedi'u hychwanegu at 'Fy Nghyfrif' byddwch yn derbyn e-bost a neges destun AM DDIM pan fydd y balans yn is na £10.00.  Byddwch yn cael un hysbysiad yr wythnos hyd nes y bydd credyd ar y cyfrif. 


Er mwyn cael hysbysiadau am falans isel dylid:

  1. Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
  2. Clicio ar 'Fy Ngwasanaethau' a dewis 'Fy Hysbysiadau'
  3. Ychwanegu 'Hysbysiadau Balans Isel Arlwyo heb Arian' yn yr adran Hysbysiadau Gwasanaeth.

Er mwyn gwirio bod gennym eich cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol cywir dylid:

  1. Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
  2. Clicio ar y linc 'Golygu' wrth ymyl eich enw
  3. Clicio 'Golygu Manylion Cyswllt’
  4. Gwirio/golygu eich cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol
  5. Clicio 'Cadw Newidiadau' ar waelod y dudalen

Gallwch weld pa hysbysiadau eraill sydd ar gael drwy ein Gwasanaeth Hysbysu

ID: 2823, adolygwyd 25/08/2023