Prydau Ysgol
Prydau Ysgol am Ddim – Ysgolion Cynradd
Os ydych chi, fel rhiant neu warcheidwad, yn derbyn budd-dal cymwys, efallai y byddwch yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chyllid arall, fel Hanfodion Ysgol (Y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad).
Budd-dal cymwys
Er mwyn bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, rhaid i’r rhiant / gwarcheidwad cyfreithiol neu’r myfyriwr ei hun fod yn derbyn naill ai:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm. Nid yw Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau yn gymwys
- Yr Elfen Gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Credydau Treth Plant yn unig, gydag incwm cartref blynyddol o lai na £16,190*
- Cymorth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (IR)
- Credyd Cynhwysol
Sylwch, os ydych yn derbyn Credydau Treth Gwaith yn ychwanegol at unrhyw un o'r budd-daliadau hyn, ni fyddwch yn gymwys i gael prydau am ddim, hyd yn oed os yw incwm eich aelwyd yn llai na £16,190*.
* Fel canllaw, mae incwm aelwyd blynyddol ymgeisydd fel arfer yn cael ei ddatgan ar Grynodeb Credydau Treth / Hysbysiad Dyfarniad TC602.
Mae ffurflenni cais ar gael hefyd:
- o ysgol eich plant
- drwy ffonio 01437 764551
Os ydych chi’n dymuno hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer mwy nag un plentyn, dim ond un ffurflen sydd angen ei chyflwyno, hyd yn oed os yw'r plant yn mynychu gwahanol ysgolion yn Sir Benfro.
Bydd gofyn i chi ddarparu prawf cyfredol o fudd-dal cymwys gyda'r ffurflen gais, hyd yn oed os ydych chi’n gwneud cais i adnewyddu prydau am ddim. Ni ellir rhoi prydau am ddim nes bod y prawf perthnasol o hawl wedi'i gyflwyno.
Nid yw Cyngor Sir Penfro yn rhoi prydau am ddim i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion y tu allan i Sir Benfro, neu i fyfyrwyr yn y coleg. Dylai disgyblion sy’n byw yn Sir Benfro ac sy’n mynychu ysgolion mewn siroedd eraill wneud cais i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol.