Prydau Ysgol
Prydau ysgol am Ddim – Ysgolion Uwchradd
Er mwyn bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, rhaid i’r rhiant / gwarcheidwad cyfreithiol neu’r myfyriwr ei hun fod yn derbyn naill ai:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith, yn seiliedig ar incwm yn unig (noder nad yw Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau yn gymwys)
- Yr Elfen Gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Credydau Treth Plant, gydag incwm aelwyd blynyddol o lai na £16,190 (sylwer nad yw Credydau Treth Gwaith yn gymwys hyd yn oed os cânt eu derbyn yn ychwanegol at y budd-daliadau hyn)*
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Cymorth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Credyd Treth Gwaith ychwanegol – y taliad y gall rhywun ei dderbyn am bedair wythnos arall wedi iddo beidio â bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol – pan nad yw incwm a enillir yn fwy na £7,400. Fel canllaw, mae incwm blynyddol eich aelwyd fel arfer yn cael ei ddatgan ar Grynodeb Credydau Treth / Hysbysiad Dyfarniad TC602. *Nid ydych chi’n gymwys os ydych chi’n derbyn Credydau Treth Gwaith a Chredydau Treth Plant – hyd yn oed os yw incwm blynyddol eich aelwyd yn dal yn llai na £16,190 y flwyddyn.
Mae ffurflenni cais ar gael hefyd:
- o ysgol eich plentyn
- drwy ffonio 01437 764551
Os ydych chi’n dymuno hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer mwy nag un plentyn, dim ond un ffurflen sydd angen ei chyflwyno, hyd yn oed os yw'r plant yn mynychu gwahanol ysgolion yn Sir Benfro.
Bydd gofyn i chi ddarparu prawf cyfredol o fudd-dal cymwys gyda'r ffurflen gais, hyd yn oed os ydych yn gwneud cais i adnewyddu prydau am ddim. Ni ellir rhoi prydau am ddim nes bod y prawf perthnasol o hawl wedi'i gyflwyno.
Nid yw Cyngor Sir Penfro yn rhoi prydau am ddim i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion y tu allan i Sir Benfro, neu i fyfyrwyr yn y coleg. Dylai disgyblion sy’n byw yn Sir Benfro ac sy’n mynychu ysgolion mewn siroedd eraill wneud cais i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol.
ID: 9334, adolygwyd 25/08/2023