Diwygiadau Caffael: Bydd Deddf Caffael 2023

Mae caffael cyhoeddus yn newid

Mae’r dirwedd a’r rheolau sy’n llywodraethu caffael cyhoeddus yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn newid. Mae hyn oherwydd tri gofyniad deddfwriaethol newydd ar wahân:

  • Deddf Caffael 2023

  • Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

  • Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024

Beth yw Deddf Caffael 2023?

Mae Deddf Caffael 2023 yn cyflwyno newidiadau sylweddol i’r rheoliadau sy’n llywodraethu caffael yn y Deyrnas Unedig. Bydd y Ddeddf yn gwneud trefn caffael cyhoeddus y Deyrnas Unedig yn gyflymach, yn symlach, yn fwy tryloyw, ac yn fwy abl o ran diwallu anghenion y Deyrnas Unedig gan barhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol.

Beth yw amcanion Deddf Caffael 2023?

  • Sicrhau gwerth am arian

  • Sicrhau’r budd mwyaf posibl i’r cyhoedd

  • Tryloywder

  • Gweithredu gydag uniondeb

Pryd bydd hyn yn digwydd?

Bydd y Ddeddf Caffael, a fydd yn diwygio’r rheolau caffael presennol, yn ‘dod i rym’ ar 24 Chwefror 2025. Bydd y ddeddfwriaeth bresennol yn berthnasol nes i’r drefn newydd gychwyn a bydd, hefyd, yn parhau i fod yn gymwys i gaffael a ddechreuodd o dan y rheolau caffael presennol.

Beth yw'r manteision?

Mae'r manteision yn cynnwys:

  • Proses dendro fwy hyblyg ac wedi'i symleiddio

  • Mwy o amlygrwydd

  • Mwy o ymgysylltu â'r farchnad

  • Taliadau prydlon

  • Crynodebau adborth ac ôl-drafodaethau cyson

  • Diwallu anghenion sefydliadol

  • Amcanion cenedlaethol a lleol

  • Sicrhau gwerth am arian

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno’r Ddeddf Gaffael newydd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio cyfres o fideos Diferion Gwybodaeth i roi trosolwg lefel uchel o’r newidiadau i randdeiliaid, gan gynnwys cyflenwyr, busnesau bach a chanolig, a mentrau cymdeithasol cymunedol gwirfoddol.

Mae'r fideos Diferion Gwybodaeth wedi’u teilwra i wahanol gynulleidfaoedd, ac maen nhw'n cynnwys:

  • Cyflenwyr: 45 munud i gyd, wedi'i rannu'n dair adran lai.

  • Cyflenwyr mentrau cymdeithasol cymunedol gwirfoddol a busnesau bach a chanolig: 45 munud i gyd, wedi'i rannu'n dair adran lai.

 

Y Platfform Digidol Canolog

Mae’r Ddeddf Caffael 2023 yn deddfu ar gyfer darparu platfform digidol canolog i hwyluso'r gwaith o gyhoeddi hysbysiadau a dogfennau gofynnol yn unol â'r rheoliadau newydd.

Bydd y ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni sy'n dymuno gwneud busnes gyda Cyngor Sir Penfro gofrestru eu manylion ar y Platfform Digidol Canolog, sy'n cael ei gynnal gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Byddwch chi’n gallu cofrestru o 24 Chwefror 2025.

Bydd methu â chofrestru yn golygu y bydd eich sefydliad chi’n colli cymhwysedd i dendro am gyfleoedd contract newydd.

Ar ôl cofrestru, bydd y system yn rhoi Dynodwr Unigryw i chi y mae'n rhaid i chi ei ddarparu i gyrff y sector cyhoeddus pan fyddwch chi’n cyflwyno tendr.

Bydd y Platfform Digidol Canolog yn gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

  • Gwybodaeth sylfaenol: Enw, cyfeiriad, rhif Tŷ'r Cwmnïau (neu gyfwerth, e.e. Rhif elusen), Rhif TAW (os yw'n berthnasol), cymwysterau perthnasol neu sicrwydd masnach ac a yw'r sefydliad yn Fenter Fach a Chanolig, yn Fenter Gymdeithasol Gymunedol Gwirfoddol neu'n gwmni cydfuddiannol cyhoeddus.

  • Gwybodaeth ariannol: Copïau o'ch cyfrifon o'r blynyddoedd ariannol diweddaraf.

  • Personau cysylltiedig: Enwau, cyfeiriadau a manylion am unrhyw bersonau cysylltiedig â'r busnes (e.e. pobl sydd â rheolaeth sylweddol). Mae'r rhain yn unigolion neu sefydliadau sydd â dylanwad neu reolaeth dros y cyflenwr.

  • Gwaharddiadau: Manylion unrhyw waharddiadau dewisol neu orfodol ar gyfer y cyflenwr neu'r personau cysylltiedig fel sy’n cael ei nodi yn atodlenni 6 a 7 Deddf Caffael 2023

 

Rhannu eich gwybodaeth

Wrth wneud cais am gyfleoedd, gallwch chi roi mynediad i'ch gwybodaeth cyflenwr mewn un o ddwy ffordd:

  • Cod Rhannu: Cynhyrchu cod proffil unigryw i roi mynediad i'ch gwybodaeth cyflenwr

  • Lawrlwytho gwybodaeth: Lawrlwythwch eich gwybodaeth cyflenwr fel ffeil .zip a'i lanlwytho gyda'ch cais chi.

Byddwn ni’n cadarnhau sut y bydd angen i’r wybodaeth hon gael ei rhannu gyda ni drwy'r Porth e-dendro , Proactis.

 

Diweddaru'ch gwybodaeth cyflenwr chi

Os bydd eich gwybodaeth cyflenwr chi’n newid, diweddarwch yr wybodaeth a chreu cod rhannu a ffeil newydd i rannu'r wybodaeth newydd. Nid oes angen diweddaru'r wybodaeth hon ar gyfer pob cais.

Byddwn ni’n darparu rhagor o wybodaeth pan fydd hyn ar gael, fodd bynnag, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig. wedi lansio cyfres o fideos Diferion Gwybodaeth i ddarparu trosolwg lefel uchel o'r newidiadau i randdeiliaid, gan gynnwys cyflenwyr, Mentrau Bach a Chanolig a Mentrau Cymdeithasol Cymunedol Gwirfoddol.

Wrth baratoi ar gyfer y ddeddf yn dod i rym ar 24 Chwefror 2025, rydyn ni’n eich cynghori chi i ymgyfarwyddo â'r cynhyrchion arweiniol pwrpasol i'ch helpu chi i baratoi ac i'ch cynorthwyo chi wrth i chi ddechrau gwneud busnes o dan y drefn newydd.

 

Gweler y ddolen isod: Diferion gwybodaeth swyddogol trawsnewid caffael cyhoeddus (saesneg yn unig) (yn agor mewn tab newydd)

Mae'r canlynol yn ganllaw byr i gyflenwyr sy'n crynhoi'r newidiadau a ddaw yn sgil y Ddeddf Gaffael.

Deddf Caffael 2023: Canllaw byr i gyflenwyr (yn agor mewn tab newydd)

Taflen ffeithiau yn esbonio sut fydd y Platfform Digidol Canolog (saesneg yn unig) (yn agor tab newydd) yn gweithio

Bydd cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant/gweithdai ychwanegol yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi yn nes at y dyddiad y bydd y Ddeddf yn dod i rym.

ID: 12635, revised 18/02/2025