Radon yn y Gweithle
Beth yw Radon?
- Mae radon yn nwy ymbelydrol naturiol. Ni fedrwch ei weld, ei glywed na chlywed ei flas. Mae'n dod o'r ychydig bach iawn o wraniwm sy'n digwydd yn naturiol ym mhob craig, pridd, bricsen a choncrit.
- Mae radon yn y pridd ym mhob rhan o'r DU i raddau amrywiol. Mae'r rhan fwyaf ohono yn hidlo'n ddiniwed o'r ddaear i'r amgylchedd. Fodd bynnag, lle mae'n dod i mewn i adeiladau, mae'n gallu cronni ac o bryd i'w gilydd mae'r ymbelydredd ynddo yn gallu bod yn berygl sylweddol i'r bobl y tu mewn. Fel arfer, mewn gwagleoedd tanddaearol fel isloriau, ogofâu a mwyngloddiau y mae'r lefelau uchaf ohono.
- Mae'r Asiantaeth Diogelu Iechyd ac Arolwg Daearegol Prydain wedi gwneud arolwg o'r DU i ddarganfod yr ardaloedd y mae radon yn effeithio arnynt. Mae atlas o ardaloedd radon yng Nghymru a Lloegr i'w gael oddi ar UKRadon
- Mae Sir Benfro yn un o'r ardaloedd yn y DU lle mae lefelau radon yn uwch yn gyffredinol.
ID: 1510, adolygwyd 15/11/2022