Radon yn y Gweithle

Pa waith sy'n cael ei wneud?

Mae Strategaeth y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch ar gyfer 2005-2010 yn amlinellu'r angen i ganolbwyntio ar ardaloedd y mae radon yn effeithio arnynt er mwyn lleihau'r graddau uchel y mae gweithwyr a'r cyhoedd mewn cysylltiad ag ymbelydredd.  Bydd hyn yn cael ei wneud trwy gynnig gwybodaeth a chyngor, cysylltu'n uniongyrchol â chyflogwyr a gweithio gyda rhanddeiliaid.  Yn ystod mis Hydref 2010,  bydd swyddogion o Gyngor Sir Penfro a'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch yn ymweld ag adeiladau yn Sir Benfro i drafod y mater hwn, sicrhau bod mesuriadau wedi neu yn cael eu gwneud, a bod cysylltiad gweithwyr â'r nwy cyn lleied ag y bo modd yn rhesymol.  Os ydych chi wedi gwneud gwaith yn y gorffennol i fesur lefelau radon ac/neu wedi  gweithredu i'w cywiro, cofiwch os gwelwch yn dda bod angen adolygu hyn yn rheolaidd. 

Fe gewch ragor o wybodaeth drwy gysylltu â'r:

Tîm Iechyd a Diogelwch,
Adran Diogelu'r Cyhoedd,
Cyngor Sir Penfro,
Neuadd y Sir,
Hwlffordd,
Sir Benfro
SA61 1TP

Ffôn: 01437 775179

E-bost: health&safety@pembrokeshire.gov.uk  

ID: 1514, adolygwyd 17/03/2023