RDGGCC Cyrsiau
Gwneud cais am gwrs
Mae Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (RhDGGCC) yn darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, mewn rôl a thâl neu rôl wirfoddol, yn gofalu am bobl yn Sir Benfro.
Pwy sy’n gymwys?
- Sector annibynnol / preifat, gwasanaethau a reoleiddir ac a gomisiynir
- Sector gwirfoddol / trydydd sector
- Byrddau diogelu, mabwysiadu, CAFCASS, Arolygiaeth Gofal Cymru
- Cynorthwyydd personol sy’n cael taliadau uniongyrchol / derbynnydd taliadau uniongyrchol
- Gofalwr Cysylltu Bywydau
- Gweithiwr gofal / uwch-weithiwr gofal / swyddog gofal / rolau cynorthwyydd gofal
- Gwarchodwr plant
- Gofalwr maeth
- Rheolwr / dirprwy reolwr / rheolwr cynorthwyol
- Gweithiwr cymdeithasol cofrestredig
- Gweithiwr cymdeithasol dan hyfforddiant
- Staff nyrsio cofrestredig
- Unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr
- Gofalwyr anffurfiol
I wneud cais ewch i Dysgu Rhyngweithiol Gofal Cymdeithasol (DRhGC) (yn agor mewn tab newydd) lle gallwch ddod o hyd i’r amserlen cyrsiau diweddaraf gyda manylion y cyrsiau a ffurflenni cais.
ID: 3459, adolygwyd 03/03/2025