RDGGCC Cyrsiau
Gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol
A ydych chi eisiau swydd fuddiol a gyrfa sy’n rhoi boddhad?
Wrth weithio mewn gofal cymdeithasol, gallwch fynd adref ar ddiwedd pob diwrnod gan wybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd rhywun.
P’un ai’r ydych yn dymuno gweithio gyda phobl hŷn, neu bobl ag anableddau, neu blant ac oedolion ifanc sydd angen cymorth yn eu bywydau beunyddiol, gallech ddod o hyd i swydd sy’n rhoi llawer iawn o falchder a boddhad.
Mae cyfleoedd gyrfa’n bodoli ar gyfer pobl o wahanol oedrannau, o’r rhai sy’n dechrau ar yrfa i’r rheini sy’n bwriadu newid cyfeiriad gyrfa yn llwyr.
I gael gwybodaeth am y rolau niferus a geir mewn gofal cymdeithasol, ewch i Gofalwyn Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Nid oes angen unrhyw gymwysterau neu brofiad gwaith blaenorol o reidrwydd er mwyn cael swydd mewn gofal cymdeithasol – er bod rhai cyflogwyr yn ffafrio staff profiadol a chymwys – yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw eich gwerthoedd a’ch agwedd tuag at y bobl sydd angen gofal a chymorth.
Bydd disgwyl i chi ddiweddaru eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch cymhwysedd yn rheolaidd a byddwch yn cael eich annog i gyflawni diploma Lefel 2 neu Lefel 3 tra’n gweithio.
Dolenni defnyddiol
I gael rhagor o wybodaeth am y rolau sydd ar gael a chyflogwyr lleol yn y sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ewch i Gofalwyn Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (yn agor mewn tab newydd)
Swyddi gwag (yn agor mewn tab newydd)