RDGGCC Cyrsiau
Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
Mae Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (RhDGGCC) yn fenter genedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae tîm RhDGGCC Sir Benfro yn darparu cyfleoedd dysgu a datblygu i unigolion sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, boed mewn rôl â thal neu rôl wirfoddol, yn gofalu am drigolion yn Sir Benfro.
Rydym yn cydweithio â Chynghorau Sir Gaerfyrddin a Cheredigion i ddarparu rhaglen hyfforddi wedi’i hariannu’n llawn sy’n mynd i’r afael â blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Yn y tudalennau hyn, fe welwch wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer hyfforddiant am ddim, dolenni i’n hamserlen cyrsiau, adnoddau sydd ar gael ar ein platfform dysgu ar-lein Dysgu Rhyngweithiol Gofal Cymdeithasol, a manylion am yrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol.