Rhaglen Adeiladu Ysgolion
Rhaglen Cymunedau Dysgu
Mae’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn gydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.
Adlewyrchir ymrwymiad Cyngor Sir Penfro i addysg yn ei fuddsoddiad cyfalaf a refeniw mewn adeiladau ysgolion. Mae gan adeiladau ysgol ran hanfodol i'w chwarae wrth helpu i godi safonau addysgol. Gall adeiladau ysgol fodern o ansawdd uchel gyda'r systemau TGCh integredig diweddaraf helpu i godi cyrhaeddiad a gallant wneud cyfraniad mawr at wella cyfleoedd addysgol ac ehangu mynediad cymunedol i ysgolion.
I gydnabod hyn, rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn ysgolion newydd ac mewn gwaith i wella ysgolion presennol. Ar hyn o bryd rydym yn un o'r gwarwyr mwyaf yng Nghymru ac eisoes wedi agor sawl ysgol newydd.
Mae blaenoriaethau ar gyfer gwariant cyfalaf yn cynnwys:
- Sicrhau digon o leoedd i ddisgyblion, ad-drefnu'r ddarpariaeth a chael gwared ar yr holl ystafelloedd dosbarth symudol
- Gwella pob ysgol i gyflwr da neu ragorol
- Sicrhau hygyrchedd a chynwysoldeb llawn ar gyfer y rheini ag anghenion arbennig
- Ymestyn a chefnogi datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg
- Cynllunio i fodloni gofynion cwricwlaidd newidiol
- Nodi a rhyddhau safleoedd ac adeiladau nad oes eu hangen mwyach
- Darparu system addysg gynaliadwy yng Nghymru sy’n bodloni safonau adeiladu cenedlaethol ac sy’n lleihau costau rheolaidd ac ôl troed carbon adeiladau addysg.
Ers ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996, mae buddsoddiad sylweddol wedi’i ddyrannu i brosiectau newydd i wella adeiladau ysgol a’r amgylchedd addysgol ar gyfer ein pobl ifanc. Dyma’r rhaglen fuddsoddi fwyaf sylweddol yn ein seilwaith addysgol ers blynyddoedd lawer ac rydym wedi gweithio’n agos iawn gydag ysgolion a Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu dull darbodus ac effeithlon o ymdrin â phrosiectau datblygu ar safleoedd ysgol.
Er bod rhywfaint o'n gwariant wedi canolbwyntio ar gael gwared ar yr ôl-groniad o waith atgyweirio a chynnal a chadw sydd heb ei wneud, rhoddwyd sylw hefyd i wella cynaliadwyedd adeiladau ysgol.
Prosiectau a gwblhawyd (Band A)
Prosiectau a gwblhawyd yn Ddiweddar
Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd
Ysgol Gynradd Cymunedol Fenton
Adeilad Modiwlaidd Ysgol Wirfoddol a Reolir Cosheston
Adeilad Modiwlaidd Ysgol Caer Elen
Prosiectau wrthi’n cael eu hadeiladu
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau sy’n rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, cysylltwch â’r Swyddog Prosiect, Margaret Treiber-Johnson drwy ffonio 01437 764551 neu drwy e-bostio Margaret.Treiber-Johnson@pembrokeshire.gov.uk