Rhaglen Adeiladu Ysgolion
Prosiectau a Gwblhawyd (Band A)
Ysgol Gynradd Aberllydan
Roedd y prosiect yn cynnwys ailfodelu'r adeilad presennol a’r mannau awyr agored ynghyd ag estyniad newydd y tu cefn i’r ysgol ar gyfer yr Uned Blynyddoedd Cynnar. Cwblhawyd y gwaith ym mis Medi 2015 ac agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Gadeirydd y Cyngor, Wynne Evans, ar 25 Tachwedd 2015.
Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick
Ysgol gynradd i ddisgyblion 3-11 oed yw Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick, a adeiladwyd yn lle Ysgol Feithrin ac Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Hubberston, ac Ysgol Gymunedol Hakin. Cynlluniwyd yr adeilad ysgol i gynnig addysg o'r ansawdd gorau i bob plentyn yn ardaloedd Hakin a Hubberston ac mae hefyd yn cynnwys cyfleusterau cymunedol. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 9 Mawrth 2018.
Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston
Adeiladwyd Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston i gymryd lle'r adeilad blaenorol a oedd mewn cyflwr gwael. Mae’r ysgol yn ysgol gynradd ar gyfer plant 3-11 oed gyda lle ar gyfer 210 o ddisgyblion llawn amser yn ogystal ag Uned Blynyddoedd Cynnar a Chanolfan Adnoddau Dysgu (CAD) ar gyfer hyd at 20 o ddisgyblion ag anghenion cymhleth neu ychwanegol. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 3 Chwefror 2017.
Ysgol Harri Tudur / Henry Tudor School
Roedd y prosiect hwn yn cynnwys adeiladu ysgol uwchradd newydd ar gyfer pobl ifanc 11-19 oed i gymryd lle Ysgol Penfro gynt ac i ddarparu amgylchedd dysgu cwbl hygyrch, gan gynnwys caeau chwaraeon newydd. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 8 Tachwedd 2018.
Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn
Sefydlwyd Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn ar 1 Medi 2017 yn dilyn cau Ysgol Wirfoddol a Reolir Angle, Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Ystagbwll ac Ysgol Gynradd Gymunedol Orielton. Mae'n ysgol gynradd i ddisgyblion oed 3-11 oed sy'n gwasanaethu Penrhyn Angle i gyd. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 9 Mawrth 2018.
Ysgol Hafan y Môr ac Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod
Trawsnewidiodd y prosiect hwn yr hen ysgol ddwy ffrwd, Ysgol Babanod a Iau Gymunedol WR Dinbych-y-pysgod, yn ddwy ysgol gynradd i ddisgyblion 3-11 oed ar wahân. Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod (cyfrwng Saesneg) ac adnewyddiad mawr i hen adeilad Ysgol Iau Dinbych-y-pysgod ar gyfer Ysgol Hafan y Môr (cyfrwng Cymraeg).
Agorwyd Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 1 Rhagfyr 2016. Agorwyd Ysgol Hafan y Môr yn swyddogol gan Alun Davies AC (Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes) ar 13 Chwefror 2017.
Ysgol Bro Gwaun
Roedd prosiect Ysgol Bro Gwaun yn cynnwys creu bloc addysgu newydd, Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a chyfleusterau dysgu cymunedol – roedd hyn yn dilyn ailbennu’r ysgol fel ysgol i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed. Roedd yr ail gam yn cynnwys dymchwel y rhan fwyaf o'r ystafelloedd dysgu blaenorol a chreu pedair Ardal Chwaraeon Amlddefnydd (MUGA), a'r cam olaf oedd gwaith ar yr adeilad a gedwir hy y neuadd, y gampfa a'r caffi presennol. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 3 Mai 2018.
Ysgol Caer Elen
Sefydlwyd Ysgol Caer Elen ar 1 Medi 2018 yn dilyn cau Ysgol Gynradd Gymraeg Glan Cleddau. Mae’n ysgol i ddisgyblion 3-16 oed yn Hwlffordd sy’n mynd i’r afael â’r galw cynyddol am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng nghanol a de’r sir. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 14eg Mawrth 2019.
Ysgol Yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn Dewi
Sefydlwyd Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn Dewi ar 1 Medi 2018 yn dilyn cau Ysgol Dewi Sant, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Ysgol Bro Dewi ac Ysgol Gymunedol Solfach. Mae’r ysgol yn gweithredu ar draws tri safle’r hen ysgolion ac fe’i hagorwyd yn swyddogol gan Eluned Morgan AC (Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes) ar 30 Tachwedd