Rhaglen Adeiladu Ysgolion
Ysgol Bro Penfro
Mae Ysgol Bro Penfro yn ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sy’n cynnwys darpariaeth gofal plant ar gyfer plant hyd at bedair oed, darpariaeth feithrin ar gyfer 30 o blant, a darpariaeth brif ffrwd ar gyfer 210 o ddisgyblion rhwng 5 ac 11 oed. Dechreuodd y gwaith ar safle’r ysgol newydd yn Bush Hill, Penfro, ym mis Ebrill 2023 a chwblhawyd y prosiect ym mis Gorffennaf 2024. Bydd yr ysgol yn chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at y dyheadau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y cyngor.
Digwyddiadau diweddar
Prosiect wedi'i gwblhau - 15 Gorffennaf 2024
Cwblhawyd adeilad ysgol newydd Ysgol Bro Penfro, a rhoddwyd yr allweddi i’r pennaeth a llywodraethwyr yr ysgol ar 15 Gorffennaf 2024. Bydd yr adeilad yn cael ei agor yn swyddogol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Seremoni gosod y trawst olaf – 14 Tachwedd 2023
Cynhaliwyd digwyddiad dathlu ar safle’r ysgol newydd ar ddydd Mawrth, 14 Tachwedd i nodi cyrraedd pwynt uchaf yr adeilad, sef y seremoni y'i galwyd yn Saesneg yn seremoni ‘topping out’. Cynhaliwyd y digwyddiad gan gwmni Morgan Sindall Construction & Infrastructure Ltd ac roedd disgyblion a staff o Ysgol Gelli Aur, pennaeth gweithredol yr ysgol newydd, llywodraethwyr corff llywodraethu dros dro Ysgol Bro Penfro, aelodau Cabinet ac uwch swyddogion y Cyngor yn bresennol, ynghyd â nifer o swyddogion o dîm y prosiect.