Rhaglen Adeiladu Ysgolion

Prosiectau a Gwblhawyd (Band A)

Ysgol Gynradd Aberllydan 

Roedd y prosiect yn cynnwys ailfodelu'r adeilad presennol a’r mannau awyr agored ynghyd ag estyniad newydd y tu cefn i’r ysgol ar gyfer yr Uned Blynyddoedd Cynnar. Cwblhawyd y gwaith ym mis Medi 2015 ac agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Gadeirydd y Cyngor, Wynne Evans, ar 25 Tachwedd 2015. 

Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick

Ysgol gynradd i ddisgyblion 3-11 oed yw Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick, a adeiladwyd yn lle Ysgol Feithrin ac Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Hubberston, ac Ysgol Gymunedol Hakin. Cynlluniwyd yr adeilad ysgol i gynnig addysg o'r ansawdd gorau i bob plentyn yn ardaloedd Hakin a Hubberston ac mae hefyd yn cynnwys cyfleusterau cymunedol. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 9 Mawrth 2018.

Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston

Adeiladwyd Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston i gymryd lle'r adeilad blaenorol a oedd mewn cyflwr gwael. Mae’r ysgol yn ysgol gynradd ar gyfer plant 3-11 oed gyda lle ar gyfer 210 o ddisgyblion llawn amser yn ogystal ag Uned Blynyddoedd Cynnar a Chanolfan Adnoddau Dysgu (CAD) ar gyfer hyd at 20 o ddisgyblion ag anghenion cymhleth neu ychwanegol. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 3 Chwefror 2017.

Ysgol Harri Tudur / Henry Tudor School

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys adeiladu ysgol uwchradd newydd ar gyfer pobl ifanc 11-19 oed i gymryd lle Ysgol Penfro gynt ac i ddarparu amgylchedd dysgu cwbl hygyrch, gan gynnwys caeau chwaraeon newydd. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 8 Tachwedd 2018.

Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn

Sefydlwyd Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn ar 1 Medi 2017 yn dilyn cau Ysgol Wirfoddol a Reolir Angle, Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Ystagbwll ac Ysgol Gynradd Gymunedol Orielton. Mae'n ysgol gynradd i ddisgyblion oed 3-11 oed sy'n gwasanaethu Penrhyn Angle i gyd. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 9 Mawrth 2018.

Ysgol Hafan y Môr ac Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod

Trawsnewidiodd y prosiect hwn yr hen ysgol ddwy ffrwd, Ysgol Babanod a Iau Gymunedol WR Dinbych-y-pysgod, yn ddwy ysgol gynradd i ddisgyblion 3-11 oed ar wahân. Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod (cyfrwng Saesneg) ac adnewyddiad mawr i hen adeilad Ysgol Iau Dinbych-y-pysgod ar gyfer Ysgol Hafan y Môr (cyfrwng Cymraeg). 

Agorwyd Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 1 Rhagfyr 2016. Agorwyd Ysgol Hafan y Môr yn swyddogol gan Alun Davies AC (Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes) ar 13 Chwefror 2017.

Ysgol Bro Gwaun

Roedd prosiect Ysgol Bro Gwaun yn cynnwys creu bloc addysgu newydd, Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a chyfleusterau dysgu cymunedol – roedd hyn yn dilyn ailbennu’r ysgol fel ysgol i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed. Roedd yr ail gam yn cynnwys dymchwel y rhan fwyaf o'r ystafelloedd dysgu blaenorol a chreu pedair Ardal Chwaraeon Amlddefnydd (MUGA), a'r cam olaf oedd gwaith ar yr adeilad a gedwir hy y neuadd, y gampfa a'r caffi presennol. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 3 Mai 2018.

Ysgol Caer Elen 

Sefydlwyd Ysgol Caer Elen ar 1 Medi 2018 yn dilyn cau Ysgol Gynradd Gymraeg Glan Cleddau. Mae’n ysgol i ddisgyblion 3-16 oed yn Hwlffordd sy’n mynd i’r afael â’r galw cynyddol am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng nghanol a de’r sir.  Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ar 14eg Mawrth 2019.

Ysgol Yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn Dewi 

Sefydlwyd Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn Dewi ar 1 Medi 2018 yn dilyn cau Ysgol Dewi Sant, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Ysgol Bro Dewi ac Ysgol Gymunedol Solfach. Mae’r ysgol yn gweithredu ar draws tri safle’r hen ysgolion ac fe’i hagorwyd yn swyddogol gan Eluned Morgan AC (Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes) ar 30 Tachwedd

ID: 11105, adolygwyd 08/01/2024

Ysgol Gynradd Waldo Williams (Band B)

Sefydlwyd Ysgol Gynradd Waldo Williams ar 1 Ionawr 2019 yn dilyn uno Ysgol Feithrin ac Ysgol Fabanod Mount Airey ac Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Hwlffordd (Barn Street). Ymgymerwyd â'r prosiect er mwyn rhoi lle i'r disgyblion ar un safle. 

Yn dilyn gwaith adnewyddu mawr ar hen adeilad Ysgol Glan Cleddau yn Scarrowscant Lane, symudodd Ysgol Waldo Williams i’w safle newydd ym mis Mawrth 2022.

ID: 11101, adolygwyd 08/01/2024

Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd (Band B)

Sefydlwyd Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd ar 1 Medi 2018 fel ysgol cyfrwng Saesneg i bobl ifanc rhwng 11 a 19 oed yn dilyn cau hen Ysgol Wirfoddol a Reolir Tasker Milward ac Ysgol Syr Thomas Picton.

Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r ysgol newydd gwerth £48.7miliwn ym mis Tachwedd 2020, i ddarparu lle ar gyfer 1500 o ddisgyblion 11-16 oed ynghyd â 250 o ddisgyblion chweched dosbarth. Mae'r ysgol yn adeilad deulawr gydag atriwm canolog sy'n gweithredu fel man cyfarfod, bwyta a chymdeithasu. Mae cyfleusterau chwaraeon newydd yn cynnwys neuadd chwaraeon wyth cwrt, cae rygbi safonol 3G URC â llifoleuadau a dwy ardal chwaraeon aml-ddefnydd; mae pob un ohonynt ar gael at ddefnydd y gymuned y tu allan i oriau ysgol.

Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan y Dywysoges Frenhinol ar 14 Hydref 2022.

Ers hynny mae adeilad Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd wedi mynd ymlaen i ennill tair gwobr fawreddog, gan gynnwys ‘Prosiect y flwyddyn’ yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2023.

ID: 11099, adolygwyd 08/01/2024

Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton

Gwnaethpwyd gwaith adnewyddu yn Ysgol Fenton yn ystod gwyliau’r haf a hanner tymor mis Hydref 2023 i adnewyddu ystafelloedd dosbarth a mannau cymunedol. Elfen gyntaf gwelliannau i'r ysgol yw’r gwaith hwn, ac mae gwaith wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn amodol ar y cyllid sydd ar gael. 

ID: 11104, adolygwyd 08/01/2024

Ysgol VC Cosheston

Yn ystod gwyliau haf yr ysgol 2023, darparwyd adeilad modiwlaidd newydd ar gyfer Ysgol Wirfoddol a Reolir Cosheston. Mae’r adeilad newydd yn darparu:-

  • Un ystafell ddosbarth
  • 1 toiled hygyrch/staff
  • 2 doiled i ddisgyblion 
  • Gofod storio
  • Lobi 

Ychwanegwyd yr adeilad i ddarparu gofod ychwanegol a gwella'r amgylchedd dysgu.

ID: 11103, adolygwyd 08/01/2024

Ysgol Caer Elen

Yn ystod tymor yr hydref 2022, darparwyd ystafelloedd dosbarth modiwlaidd newydd ar gyfer Ysgol Caer Elen. Mae’r adeilad newydd yn darparu:-

  • Pedair ystafell ddysgu
  • Gofod Storio
  • Toiledau

Mae'r adeilad modiwlaidd newydd yn darparu capasiti ychwanegol y mae mawr ei angen ar gyfer yr ysgol ac yn cyfrannu at y dyheadau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor.

ID: 11102, adolygwyd 24/06/2024

Ysgol Bro Penfro

Mae Ysgol Bro Penfro yn ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sy’n cynnwys darpariaeth gofal plant ar gyfer plant hyd at bedair oed, darpariaeth feithrin ar gyfer 30 o blant, a darpariaeth brif ffrwd ar gyfer 210 o ddisgyblion rhwng 5 ac 11 oed. Dechreuodd y gwaith ar safle’r ysgol newydd yn Bush Hill, Penfro, ym mis Ebrill 2023 a chwblhawyd y prosiect ym mis Gorffennaf 2024. Bydd yr ysgol yn chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at y dyheadau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y cyngor.

Digwyddiadau diweddar

Prosiect wedi'i gwblhau - 15 Gorffennaf 2024

Cwblhawyd adeilad ysgol newydd Ysgol Bro Penfro, a rhoddwyd yr allweddi i’r pennaeth a llywodraethwyr yr ysgol ar 15 Gorffennaf 2024. Bydd yr adeilad yn cael ei agor yn swyddogol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

Seremoni gosod y trawst olaf – 14 Tachwedd 2023

Cynhaliwyd digwyddiad dathlu ar safle’r ysgol newydd ar ddydd Mawrth, 14 Tachwedd i nodi cyrraedd pwynt uchaf yr adeilad, sef y seremoni y'i galwyd yn Saesneg yn seremoni ‘topping out’. Cynhaliwyd y digwyddiad gan gwmni Morgan Sindall Construction & Infrastructure Ltd ac roedd disgyblion a staff o Ysgol Gelli Aur, pennaeth gweithredol yr ysgol newydd, llywodraethwyr corff llywodraethu dros dro Ysgol Bro Penfro, aelodau Cabinet ac uwch swyddogion y Cyngor yn bresennol, ynghyd â nifer o swyddogion o dîm y prosiect.

ID: 11097, adolygwyd 11/11/2024

Ysgol Arbennig Portfield (Band B)

Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a Chyngor Sir Penfro, bydd y gwaith o ailddatblygu Ysgol Portfield yn cynnwys cael gwared ar adeilad presennol yr 'ysgol isaf', gan adeiladu un newydd yn ei le, ac adnewyddu canolfan chweched dosbarth yr ysgol. Bydd canolfan breswyl newydd i blant hefyd yn cael ei hadeiladu ynghyd â gwaith ailwampio i Dŷ Holly, sef y ganolfan gofal seibiant gyfagos. Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2026. 

Digwyddiadau diweddar

Seremoni torri'r dywarchen - 29 Gorffennaf 2024

Cynhaliwyd digwyddiad dathlu ‘torri’r dywarchen’ ar safle'r ysgol newydd yn Hwlffordd ddydd Llun, 29 Gorffennaf, i nodi dechrau ffurfiol y gwaith adeiladu. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Morgan Sindall Construction ac roedd pennaeth yr ysgol, llywodraethwyr, aelodau’r cyngor, uwch-swyddogion a swyddogion o dîm y prosiect yn bresennol.

Dyddiad cychwyn y contract adeiladu - 22 Gorffennaf 2024

Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau'n swyddogol ar brosiect adeiladu Ysgol Portfield. 

Cyfarfodydd ymgysylltu â chleientiaid - Mai 2023 i Chwefror 2024 

Cynhelir cyfarfodydd ymgysylltu â chleientiaid bob yn ail wythnos gyda’r contractwyr, y timau dylunio, timau adeiladu ac addysg Cyngor Sir Penfro, ac uwch-dîm arwain yr ysgol. 

Dyfarnwyd cyfnod cyn-adeiladu - 2023

Dyfarnwyd y contract ar gyfer cam cyn-adeiladu'r prosiect i Morgan Sindall.

ID: 11098, adolygwyd 04/11/2024

Rhaglen Cymunedau Dysgu

Mae’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn gydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.

Adlewyrchir ymrwymiad Cyngor Sir Penfro i addysg yn ei fuddsoddiad cyfalaf a refeniw mewn adeiladau ysgolion. Mae gan adeiladau ysgol ran hanfodol i'w chwarae wrth helpu i godi safonau addysgol. Gall adeiladau ysgol fodern o ansawdd uchel gyda'r systemau TGCh integredig diweddaraf helpu i godi cyrhaeddiad a gallant wneud cyfraniad mawr at wella cyfleoedd addysgol ac ehangu mynediad cymunedol i ysgolion.

I gydnabod hyn, rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn ysgolion newydd ac mewn gwaith i wella ysgolion presennol. Ar hyn o bryd rydym yn un o'r gwarwyr mwyaf yng Nghymru ac eisoes wedi agor sawl ysgol newydd.

Mae blaenoriaethau ar gyfer gwariant cyfalaf yn cynnwys:

  • Sicrhau digon o leoedd i ddisgyblion, ad-drefnu'r ddarpariaeth a chael gwared ar yr holl ystafelloedd dosbarth symudol
  • Gwella pob ysgol i gyflwr da neu ragorol
  • Sicrhau hygyrchedd a chynwysoldeb llawn ar gyfer y rheini ag anghenion arbennig
  • Ymestyn a chefnogi datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg
  • Cynllunio i fodloni gofynion cwricwlaidd newidiol
  • Nodi a rhyddhau safleoedd ac adeiladau nad oes eu hangen mwyach
  • Darparu system addysg gynaliadwy yng Nghymru sy’n bodloni safonau adeiladu cenedlaethol ac sy’n lleihau costau rheolaidd ac ôl troed carbon adeiladau addysg.

Ers ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996, mae buddsoddiad sylweddol wedi’i ddyrannu i brosiectau newydd i wella adeiladau ysgol a’r amgylchedd addysgol ar gyfer ein pobl ifanc. Dyma’r rhaglen fuddsoddi fwyaf sylweddol yn ein seilwaith addysgol ers blynyddoedd lawer ac rydym wedi gweithio’n agos iawn gydag ysgolion a Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu dull darbodus ac effeithlon o ymdrin â phrosiectau datblygu ar safleoedd ysgol.

Er bod rhywfaint o'n gwariant wedi canolbwyntio ar gael gwared ar yr ôl-groniad o waith atgyweirio a chynnal a chadw sydd heb ei wneud, rhoddwyd sylw hefyd i wella cynaliadwyedd adeiladau ysgol.

 

Prosiectau a gwblhawyd (Band A)

 Trosolwg o Brosiectau Band A

Prosiectau a gwblhawyd yn Ddiweddar

Ysgol Gynradd Waldo Williams

Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd

Ysgol Gynradd Cymunedol Fenton

Adeilad Modiwlaidd Ysgol Wirfoddol a Reolir Cosheston

Adeilad Modiwlaidd Ysgol Caer Elen

Prosiectau wrthi’n cael eu hadeiladu

Ysgol Bro Penfro

Ysgol Arbennig Portfield 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau sy’n rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, cysylltwch â’r Swyddog Prosiect, Margaret Treiber-Johnson drwy ffonio 01437 764551 neu drwy e-bostio Margaret.Treiber-Johnson@pembrokeshire.gov.uk

ID: 2479, adolygwyd 30/10/2024