Rhaglen Adeiladu Ysgolion
Ysgol Arbennig Portfield (Band B)
Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a Chyngor Sir Penfro, bydd y gwaith o ailddatblygu Ysgol Portfield yn cynnwys cael gwared ar adeilad presennol yr 'ysgol isaf', gan adeiladu un newydd yn ei le, ac adnewyddu canolfan chweched dosbarth yr ysgol. Bydd canolfan breswyl newydd i blant hefyd yn cael ei hadeiladu ynghyd â gwaith ailwampio i Dŷ Holly, sef y ganolfan gofal seibiant gyfagos. Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2026.
Digwyddiadau diweddar
Seremoni torri'r dywarchen - 29 Gorffennaf 2024
Cynhaliwyd digwyddiad dathlu ‘torri’r dywarchen’ ar safle'r ysgol newydd yn Hwlffordd ddydd Llun, 29 Gorffennaf, i nodi dechrau ffurfiol y gwaith adeiladu. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Morgan Sindall Construction ac roedd pennaeth yr ysgol, llywodraethwyr, aelodau’r cyngor, uwch-swyddogion a swyddogion o dîm y prosiect yn bresennol.
Dyddiad cychwyn y contract adeiladu - 22 Gorffennaf 2024
Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau'n swyddogol ar brosiect adeiladu Ysgol Portfield.
Cyfarfodydd ymgysylltu â chleientiaid - Mai 2023 i Chwefror 2024
Cynhelir cyfarfodydd ymgysylltu â chleientiaid bob yn ail wythnos gyda’r contractwyr, y timau dylunio, timau adeiladu ac addysg Cyngor Sir Penfro, ac uwch-dîm arwain yr ysgol.
Dyfarnwyd cyfnod cyn-adeiladu - 2023
Dyfarnwyd y contract ar gyfer cam cyn-adeiladu'r prosiect i Morgan Sindall.