Rhaglen Adeiladu Ysgolion
Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd (Band B)
Sefydlwyd Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd ar 1 Medi 2018 fel ysgol cyfrwng Saesneg i bobl ifanc rhwng 11 a 19 oed yn dilyn cau hen Ysgol Wirfoddol a Reolir Tasker Milward ac Ysgol Syr Thomas Picton.
Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r ysgol newydd gwerth £48.7miliwn ym mis Tachwedd 2020, i ddarparu lle ar gyfer 1500 o ddisgyblion 11-16 oed ynghyd â 250 o ddisgyblion chweched dosbarth. Mae'r ysgol yn adeilad deulawr gydag atriwm canolog sy'n gweithredu fel man cyfarfod, bwyta a chymdeithasu. Mae cyfleusterau chwaraeon newydd yn cynnwys neuadd chwaraeon wyth cwrt, cae rygbi safonol 3G URC â llifoleuadau a dwy ardal chwaraeon aml-ddefnydd; mae pob un ohonynt ar gael at ddefnydd y gymuned y tu allan i oriau ysgol.
Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan y Dywysoges Frenhinol ar 14 Hydref 2022.
Ers hynny mae adeilad Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd wedi mynd ymlaen i ennill tair gwobr fawreddog, gan gynnwys ‘Prosiect y flwyddyn’ yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2023.