Rhaglen Balchder Bro a'r Gronfa Effaith

Rhaglen Balchder Bro a'r Gronfa Effaith

Mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, byddwn yn gwario £1.5 miliwn yn cefnogi cymunedau ledled Sir Benfro ac rydym yn mynd i’w wario lle rydych chi’n meddwl y dylem ni.

Hoffem i drigolion, busnesau a sefydliadau Sir Benfro wneud awgrymiadau ar yr hyn yr hoffech i’r arian gael ei wario yn eich cymuned.

Gellir gwario’r cyllid ar y canlynol:

  • Mannau cymunedol (e.e. creu, ymestyn neu wella cyfleusterau cymunedol fel neuaddau pentref)
  • Mannau cyhoeddus (e.e. mannau gwyrdd newydd neu well, mannau chwarae a sgwariau cyhoeddus)
  • Gwelliannau i’r stryd fawr a chanol y dref

 

Cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen isod gyda’ch awgrymiadau. (Un awgrym ar bob ffurflen, ond gallwch gyflwyno cymaint o awgrymiadau ag y dymunwch.) Bydd y panel yn ystyried pob awgrym. Byddwn yn gweithio gyda’r rhai a ddewiswyd i gael yr arian i’r man lle mae ei angen cyn gynted â phosibl.

Rhaglen Balchder Bro a'r Gronfa Effaith

 

Eisiau mwy o fanylion?

Beth yw’r rhaglen Balchder Bro a’r Gronfa Effaith?

Mae’r Rhaglen Balchder Bro a’r Gronfa Effaith yn raglen newydd gan Lywodraeth y DU sydd â’r nod o gyflawni gwelliannau gweladwy i strydoedd mawr a gwella lleoedd a mannau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gymunedau lleol. Bydd Sir Benfro yn derbyn £1.5 miliwn i’w neilltuo i brosiectau cyn mis Mawrth 2027. Cyngor Sir Penfro fydd yn gweinyddu’r cronfeydd hyn, ond panel o wleidyddion lleol fydd yn penderfynu ar y defnydd a wneir ohonynt yn seiliedig ar awgrymiadau gennych chi, pobl Sir Benfro.

Gall unrhyw un, unrhyw fusnes ac unrhyw sefydliad wneud awgrym neu gyflwyno syniad ar gyfer prosiect. Bydd ein panel yn ystyried y rhain i gyd, gan nodi’r cynigion mwyaf addawol. Yna byddwn yn ceisio nodi partïon abl a sydd â diddordeb sy’n gallu cyflawni cynigion y prosiectau hyn. Unwaith y bydd syniad am brosiect wedi’i ddatblygu’n llawn a bod partner cyflawni wedi’i ddewis, cynigir cytundeb grant, a gall y prosiect ddechrau.

 

Cwmpas y rhaglen Balchder Bro a’r Gronfa Effaith

Cronfa gyfalaf yn unig yw’r rhaglen Balchder Bro a’r Gronfa Effaith. Golyga hyn, er y gall dalu am brynu neu wella asedau, ni all dalu am gostau rhedeg. Ased yn yr ystyr hwn yw rhywbeth a fydd yn para am ddeuddeg mis neu fwy.

Gellir gwario’r cyllid ar dair categori o brosiectau:

  • Mannau cymunedol: creu, ymestyn, gwella neu adnewyddu cyfleusterau cymunedol presennol a galluogi sefydliadau cymunedol i gymryd rheolaeth neu berchnogaeth dros asedau lleol sy’n cael eu tanddefnyddio ond sy’n werthfawr.
  • Mannau cyhoeddus: gwella’r amgylchedd ffisegol mewn mannau cyhoeddus - mae enghreifftiau o fentrau’n cynnwys mannau gwyrdd neu sgwariau cyhoeddus newydd neu well, gwell chwarae awyr agored, mannau chwaraeon a hamdden, gosod dodrefn stryd, celf gyhoeddus neu ddulliau canfod eich ffordd o amgylch.
  • Adfywio’r stryd fawr a chanol trefi: gwneud yr ardaloedd hyn yn lleoedd mwy deniadol a chroesawgar lle mae pobl yn ymgynnull ac sy’n annog gweithgarwch economaidd. Mae enghreifftiau o fentrau y gellid eu hariannu yn cynnwys gwelliannau i flaen siopau, addasiadau sy’n dod ag eiddo yn ôl i ddefnydd, gwelliannau i dirwedd y strydoedd, celf gyhoeddus, llwybrau a dulliau canfod eich ffordd o amgylch, a chreu neu wella’r seilwaith ar gyfer marchnadoedd rheolaidd.

 

Mae’r cyllid ar gael ledled Sir Benfro, ond bydd croeso arbennig i awgrymiadau ar gyfer prosiectau a fydd o fudd i ardaloedd llai ffyniannus.

Nid oes dyddiad cau i wario grantiau rhaglen Balchder Bro a’r Gronfa Effaith, ond yn ddelfrydol anelir at gwblhau prosiectau llwyddiannus erbyn 31 Mawrth 2027 fan bellaf.

 

Sut i Ggynnig awgrym

Gellir cyflwyno awgrymiadau drwy’r ffurflen ar-lein ar wefan y cyngor. Fel arall, gellir cyflwyno eich awgrymiadau drwy’r post i’r Tîm Cyllid Strategol, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer cyllid yn y garfan gyntaf o awgrymiadau, dylid cyflwyno syniadau am brosiect erbyn 31 Ionawr 2026. Fodd bynnag, bydd modd cyflwyno syniadau ar ôl hyn.  Dim ond ar ôl i’r holl arian gael ei neilltuo neu ar 31 Rhagfyr 2026, pa un bynnag ddaw gyntaf, y byddwn yn cau’r cyfle i gyflwyno syniadau.

Ni fydd unrhyw gydnabyddiaethau’n cael eu hanfon at y rhai sy’n gwneud awgrymiadau, oherwydd y nifer fawr o syniadau a ddisgwylir ond gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd pob syniad a gyflwynir yn cael ei ystyried gan y panel.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd pob awgrym yn cael ei asesu a syniadau tebyg yn cael eu nodi. Bydd unrhyw brosiectau nad ydynt yn gymwys (megis syniadau sydd angen refeniw yn hytrach na chyllid cyfalaf, neu brosiectau nad ydynt yn digwydd yn Sir Benfro) yn cael eu dileu. 

Yna bydd awgrymiadau’n cael eu cyflwyno gerbron panel sy’n cynnwys Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Senedd dros Sir Benfro, Dirprwy Arweinydd a Chyfarwyddwr Lleoedd Cyngor Sir Penfro. Bydd y panel hwn yn gweithio i nodi’r cynigion mwyaf addawol o blith y rhai a gyflwynwyd. Bydd y rhain yn cael eu datblygu gyda’r bwriad o ddyfarnu cyllid. 

Y cam nesaf fydd nodi sefydliad addas sy’n fodlon ac yn gallu cyflawni’r prosiect a gweithio gyda nhw i egluro manylion y prosiect. Bydd hyn yn cynnwys disgrifio cwmpas y prosiect yn fanwl gywir, sicrhau bod unrhyw ganiatadau angenrheidiol ar waith, nodi cyllideb y prosiect, a gosod targedau a cherrig milltir ar gyfer cyflawni. Darperir canllawiau pellach ar y cam hwnnw.

 

 

                               logo rhaglen balchder bro a'r gronfa effaith

ID: 7617, revised 15/01/2026