Rheoli Adeiladau
Datganiad Mynediad ar gyfer Rheoli Adeiladu
Mae'r pwyslais yn Rhan M o'r Rheoliadau Adeiladu wedi newid o'r ddarpariaeth benodol ar gyfer pobl ag anableddau i fabwysiadu datrysiadau cynllunio cynhwysol sy'n cydnabod gofynion eang iawn poblogaeth amrywiol. Mae'r Ddogfen M Gymeradwy newydd yn argymell defnyddio datganiadau mynediad. Dylai ymgeiswyr ddefnyddio'r datganiad hwn i amlygu'r prif faterion a fyddai'n cael sylw wrth gyflwyno cynlluniau manwl ar gyfer cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.
Mae'r materion hyn yn cynnwys y canlynol:-
- Darparu lleoedd parcio hygyrch
- Llwybr mynediad
- Cynllun a mesuriadau palmentydd a llwybrau cerdded
- Dewis, lleoliad a lliwiau celfi'r heol
- Adeiladu cyfleusterau croesi
- Goleuadau
- Arwyddion
- Mynedfeydd
- Diwyg a chynllun mewnol / cyfleusterau, toiledau hygyrch
- Fyrdd allan brys
Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn a'r datganiad mynediad drafft amgaeedig wedi eu llunio i helpu datblygwyr i ddangos fod y prosiect wedi ei gynllunio yn unol â darpariaethau Rhan M o'r Rheoliadau Adeiladu.
Am ragor o gyfarwyddyd a chyngor ynghylch rheoliadau anabledd 2010 (yn agor mewn tab newydd)
Am ragor o gyfarwyddyd a chyngor ynghylch Datganiad Mynediad: building.control@pembrokeshire.gov.uk