Rheoli Adeiladau
Pryd allaf i ddechrau gweithio ar y safle?
Unwaith y byddwch wedi cael cynlluniau llawn hysbysiad penderfyniad, neu wedi cael cydnabyddiaeth o’ch cais Rhybudd Adeiladu, gallwch ddechrau’r gwaith.
Mae’r Rheoliadau Adeiladu’n gofyn eich bod yn rhoi rhybudd i ni o bryd fyddwch yn cyrraedd camau canlynol y gwaith, er mwyn i Swyddog Rheoli Adeiladu allu archwilio pob un o’r camau hyn. Rhaid i chi roi 24 awr o rybudd i ni o bob un o’r camau isod.
Y camau yw:
- Dechrau’r gwaith
- Cloddio’r sylfeini
- Concrid y sylfeini
- Deunydd dros y safle
- Haen wrth-leithder
- Draeniau (carthion a dŵr arwyneb)
- Meddiannu
- Cwblhau
Efallai y byddwn hefyd eisiau archwilio’r agweddau canlynol ar y gwaith:
- Trawstiau llawr
- Adeiledd y to
- Gwaith dur adeileddol
Pan fydd y gwaith ar ben, dylai eich adeiladwr ein hysbysu fel bod modd gwneud yr archwiliad terfynol a chyhoeddodd Tystysgrif Gwblhau.
Mae’r Dystysgrif Gwblhau’n bwysig iawn oherwydd os byddwch yn gwerthu eich tŷ, bydd prynwyr eisiau gwybod a wnaed estyniadau neu addasiadau’n briodol.