Rheoli Adeiladau
Sut i gael copi o dystysgrif gwblhau
Mae copïau o wybodaeth o ffeiliau rheoli adeiladu ar gael drwy’r botwm ‘cyflwyno cais’ isod.
Cyn cyflwyno cais, dylech ddarllen y wybodaeth bwysig isod. I ymgymryd â’r gwaith i ateb y cais hwn am wasanaeth, rydym yn cwblhau chwiliad o’n cofnodion ac yn darparu ymateb i chi.
Mae’r gost i ninnau o berfformio chwiliad o’n cofnodion a darparu ymateb a/neu gopi o dystysgrif gwblhau (sy’n daladwy ar bob eiddo ar wahân) yn £36.75 + TAW (£44.10). Noder, ni ellir ad-dalu unrhyw ffioedd am y gwasanaeth hwn.
Mae costau ychwanegol am gopïo dogfennau eraill fel a ganlyn
- A4 du a gwyn - 15c y dudalen
- A4 lliw - 32c y dudalen
- A3 du a gwyn - 21c y dudalen
- A3 lliw - 63c y dudalen
- A2 du a gwyn - 42c y dudalen
- A1 du a gwyn - 84c y dudalen
- A0 du a gwyn - £1.68 y dudalen
Amser ychwanegol i gopïo dogfennau - cysylltwch â rheoli adeiladau ar 01437 764551 am ddyfynbris.
Nod codi’r prisiau hyn ydy osgoi baich y costau’n disgyn ar ysgwyddau Trethdalwyr y Cyngor.
Gwybodaeth bwysig
- Lle bo’r ymgeisydd yn unigolyn, mae'n debygol y caiff y rhan fwyaf o'r wybodaeth a gedwir ar y ffeil rheoli adeiladu ei dosbarthu'n ddata personol yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Ni ellir rhyddhau data personol i unrhyw un heblaw am yr ymgeisydd neu ei asiant.
- Ni ellir ad-dalu unrhyw ffioedd am geisiadau am gopïau a cheisiadau am dystysgrifau cwblhau hyd yn oed os na ellir darparu tystysgrif.
- Dim ond am gyfnod o 15 mlynedd y cedwir cofnodion rheoli adeiladu ac ni allwn ddarparu unrhyw ddogfennau ar ôl i’r cyfnod hwn ddod i ben.
- Cofiwch y gellid ond caniatáu tystysgrif gwblhau lle bo archwiliad terfynol boddhaol wedi’i ymgymryd.
- Rydyn ni’n anelu at ymateb i geisiadau am wybodaeth o fewn 7 niwrnod o dderbyn cais dilys.
- Rhaid i bob cais gael ei wneud ar-lein trwy’r ddolen isod a thalu’n llawn amdano ymlaen llaw.
- Nid ydym yn cadw copïau o dystysgrifau cynllun personau cymwys (Rhagddodiad CP)
- Ar gyfer gwaith sy’n cael ei oruchwylio gan crolygwr Cymeradwy, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol so gwelwch yn dda am gopi o’r dystysgrif derfynol (Rhagddodiad IN)
ID: 3339, adolygwyd 08/08/2025