Rheoli Adeiladau
Sut mae gwneud cais Rheoliadau Adeiladu?
Mae dwy ffordd o wneud cais rheoliadau adeiladu:
- Cais Cynlluniau Llawn
- Cais Hysbysiad Adeiladu
Cynlluniau Llawn
Mae cais cynlluniau llawn yn golygu cyflwyno cynlluniau manwl a manylebau ar gyfer y gwaith arfaethedig. Bydd y cynlluniau'n cael eu gwirio'n fanwl ac, os byddant yn foddhaol, bydd hysbysiad o benderfyniad ffurfiol yn cael ei gyhoeddi.
Dylai'r cais gynnwys:
- Lluniadau manwl o'r gwaith arfaethedig.
- Cynllun safle neu leoliad, sy'n dangos y cynnig, ffiniau'r safle a lleoliad carthffosydd cyhoeddus.
- Unrhyw fanyleb sy'n gysylltiedig â'r lluniadau.
- Ar gyfer adeiladau sy'n ddarostyngedig i ddeddfwriaeth diogelwch tân, h.y. y rhan fwyaf o safleoedd masnachol, diwydiannol a manwerthu - rhaid cynnwys lluniadau diogelwch tân sy'n dangos: gwrthiant tân, adrannu, synhwyro tân a larymau, goleuadau argyfwng, ffordd o ddianc ac arwyddion.
- Dyluniad a chyfrifiadau strwythurol.
- Y ffurflen gais wedi'i llenwi, amcangyfrif o gost y gwaith a/neu faint unrhyw arwynebedd llawr newydd a'r ffi briodol.
Rhaid i rai mathau o geisiadau fod ar ffurf cais cynlluniau llawn. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Gwaith adeiladu mewn perthynas ag adeilad y mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn berthnasol iddo, neu a fydd yn berthnasol ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu.
- Gwaith adeiladu sy'n cynnwys codi adeilad sy'n wynebu stryd breifat.
- Gwaith adeiladu y mae rheoliad H4 (Adeiladu dros garthffosydd) yn berthnasol iddo.
Hysbysiad Adeiladu
Mae cais hysbysiad adeiladu yn golygu rhoi manylion ar y ffurflen Hysbysiad Adeiladu a darparu cynllun bloc. Ni fydd hysbysiad o benderfyniad ffurfiol yn cael ei gyhoeddi ond bydd yr Hysbysiad Adeiladu yn cael ei gydnabod.
Rhaid i geisiadau Hysbysiad Adeiladu gynnwys:
- Ffurflen Hysbysiad Adeiladu wedi'i llenwi
- Os yw’r cynnig ar gyfer adeilad newydd neu estyniad i safle, cynllun wedi ei luniadu yn dangos: lleoliad, ffiniau'r safle, draenio ac unrhyw garthffosydd cyhoeddus.
- Y ffi briodol ac amcangyfrif os oes angen.
Mae Hysbysiadau Adeiladu yn fwyaf addas ar gyfer datblygiadau domestig, bach, er bod modd eu defnyddio ar gyfer tai newydd ac estyniadau. Os oes gennych unrhyw amheuon, cofiwch gysylltu â ni am gyngor pellach.
Ni ddylid defnyddio Hysbysiad Adeiladu ar gyfer:
- Unrhyw adeilad sy'n ddarostyngedig i ddeddfwriaeth diogelwch tân, h.y. y rhan fwyaf o safleoedd masnachol, diwydiannol a manwerthu.
- tai sy'n wynebu strydoedd preifat (mae hyn yn eithrio’r mwyafrif o dai newydd); ac
- adeilad sydd dros neu o fewn tri metr i garthffos gyhoeddus.
Pan fydd Hysbysiad Adeiladu wedi’i gyflwyno, efallai y byddwn yn gofyn i chi am unrhyw gynlluniau o’r gwaith, neu gyfrifiadau i ddangos ei fod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu. Mae hyn hefyd yn berthnasol os nad yw'r gwaith yn rhwydd, fel addasiadau atig.
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais Rheoliadau Adeiladu drwy ddewis y ddolen briodol isod. Mae ffi yn daladwy am gyflwyno cais. Mae gwybodaeth am y rhestr ffioedd ar gael isod hefyd.
Gall ceisiadau gael eu e-bostio i building.control@pembrokeshire.gov.uk neu eu postio at sylw Rheoli Adeiladu, Neuadd y Sir, Freemens Way, Hwlffordd, SA61 1TP
Wrth gyflwyno, gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi'r ffurflenni'n gywir ac yn rhoi'r holl wybodaeth y gofynnwn amdani er mwyn osgoi oedi wrth brosesu eich cais.
Gwneud cais rheoliadau adeiladu - ar-lein
Rheoli Adeiladu Taliadau a Chanllawiau
Ffurflen Cyflwyniad Rheoliadau Adeiladu - PDF