Rheoli Adeiladau

Sut ydw i’n gwneud cais dychweliad?

Mae deddfwriaeth yn caniatáu i gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu (a elwid gynt yn arolygwyr cymeradwy) gyflawni’r swyddogaeth rheolaeth adeiladu. Mae cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn cyflwyno hysbysiad cychwynnol i’r cyngor. Mae hyn yn dileu unrhyw rwymedigaeth ar y cyngor i reoli’r gwaith. Mae cymeradwyo’r gwaith yn amodol ar reolaeth y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu.

 

Gwiriwch y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu ar Cael hyd i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yng Nghymru – GOV.UK (yn agor mewn tab newydd) i gael manylion cyfredol yr yswiriant.

 

Os nad yw’r cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn gallu cyflawni ei swyddogaethau, rhaid i’r swyddog hwnnw neu’r unigolyn sy’n gwneud y gwaith ganslo’r hysbysiad cychwynnol a gyflwynwyd i’r cyngor.

 

Gall unrhyw hysbysiad cychwynnol sydd wedi’i ganslo ddychwelyd i’r awdurdod lleol lle byddai’r awdurdod lleol yn goruchwylio’r swyddogaeth rheolaeth adeiladu sy’n weddill yn y prosiect, oni bai bod hysbysiad cychwynnol newydd gan gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu gwahanol yn cael ei roi i’r awdurdod lleol naill ai:

  • o fewn saith diwrnod i’r hysbysiad canslo ddod i law’r awdurdod lleol, os cyhoeddwyd yr hysbysiad canslo gan y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu gwreiddiol
  • ar unrhyw adeg cyn i’r awdurdod lleol gymryd camau cadarnhaol i oruchwylio’r gwaith, os cyhoeddwyd yr hysbysiad canslo gan yr unigolyn sy’n gwneud y gwaith.

 

Mae defnyddio hysbysiad cychwynnol newydd yn dderbyniol lle mae cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu newydd wedi’i gyflogi gan yr unigolyn sy’n cyflawni’r gwaith ar y sail ei fod yn ymgymryd â holl swyddogaethau cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu o dan

rhan 5 o Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 (yn agor mewn tab newydd) ac yn bodloni’r holl elfennau angenrheidiol a nodir yn adran 53(7)–(14) (yn agor mewn tab newydd) ac adran 53B (yn agor mewn tab newydd) o Ddeddf Adeiladu 1984.

 

Os na ddaw hysbysiad cychwynnol i law o fewn saith diwrnod i’r hysbysiad canslo ac nad oes cais dychweliad wedi’i gyflwyno i’r awdurdod lleol, mae hyn yn gadael y gwaith heb gais dilys, a gall arwain at ddirwy nad yw’n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gellir dod o hyd i ganllawiau pellach o wefan gov.uk (yn agor mewn tab newydd).

 

 Mae enghreifftiau o pryd y gall hysbysiadau canslo ddigwydd yn cynnwys:

  • pan nad oes gan y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yswiriant dilys
  • os bydd cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn rhoi’r gorau i fasnachu
  • pan fo materion heb eu datrys neu dorri rheoliadau adeiladu ar y safle

 

Cyflwyno cais dychweliad

Wrth gyflwyno cais dychweliad, caiff pob cais ei asesu’n unigol a chynhyrchir ffi bwrpasol yn dibynnu ar faint y prosiect, cam y gwaith y mae’r prosiect wedi’i wrthdroi a’r wybodaeth a ddarperir gyda’r cais i benderfynu a ydyw’r cais yn cydymffurfio.

Os na allwn sicrhau cydymffurfedd ag elfennau penodol o’r gwaith, efallai y bydd yn rhaid i ni ofyn i rai prosiectau gwaith gael eu datgelu ar gyfer ein harchwiliad. Byddwn yn ceisio cadw hyn i’r lleiafswm.

 

Y camau nesaf

Anfonwch neges e-bost i Rheolaeth Adeiladu Cyngor Sir Penfro Building.Control@Pembrokeshire.gov.uk:

  •      Gofynnwch am ffurflen gais dychweliad
  •      Atodwch yr hysbysiad canslo perthnasol
  •     Atodwch ddogfennau a thystiolaeth ategol, megis cofnodion arolygwyr cymeradwy, cynlluniau cymeradwy, rhestr amodau, manylebau, tystysgrifau, lluniau, ymatebion i ymgynghoriadau statudol, dyluniadau ac adroddiadau peirianwyr, ac adroddiadau megis adroddiadau ar radon neu gloddio glo.

 

Os hoffech drafod ymhellach gydag un o aelodau ein tîm, gweler y ddolen a ddarperir am fanylion cyswllt: Cysylltu â Rheolaeth Adeiladu – Cyngor Sir Penfro (yn agor mewn tab newydd), neu fel arall drwy anfon neges e-bost i Building.Control@Pembrokeshire.gov.uk gan adael eich manylion cyswllt, a bydd aelod o’r tîm yn ymateb.

 

Gellir cael rhagor o wybodaeth hefyd drwy Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol, sy’n nodi ymatebion i gwestiynau cyffredin ar faterion yswiriant arolygwyr cymeradwy | Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (yn agor mewn tab newydd).

ID: 14440, adolygwyd 19/11/2025