Rheoli Cŵn

Gwasanaeth Rheoli Cwn

Mae gan y gwasanaeth rheoli cŵn gyfrifoldeb statudol, sy’n golygu bod y Cyngor yn gorfod ei wneud, i ddelio â chŵn crwydr. Mae hyn yn golygu bod y Cyngor yn gorfod casglu cŵn crwydr pan gânt eu hysbysu, er mwyn sicrhau bod y cŵn yn ddiogel a hefyd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a rheoli materion ehangach eraill, fel baw cŵn ac ati.

Mae’r Cyngor yn cyflogi Wardeiniaid Cŵn i gasglu cŵn crwydr a’u cadw mewn cwt cŵn ac mae’r gwasanaeth yn gweithredu o 9 tan 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener, pan fo hynny’n ymarferol.

Yn ogystal â chasglu cŵn crwydr oddi ar aelodau’r cyhoedd sydd wedi llwyddo i’w dal, bydd y Wardeiniaid hefyd yn ceisio dal cŵn eraill sydd ar grwydr yn unrhyw ran o diriogaeth y Cyngor. Ar ôl eu dal bydd y Wardeiniaid yn sganio’r cŵn am ficrosglodion (mae sglodyn bellach yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru) a bydd yn ymdrechu i aduno’r ci gyda’i berchennog.

Bydd y Wardeiniaid hefyd yn edrych ar goler a thag y ci (eto’n ofyniad cyfreithiol) i benderfynu pwy yw’r perchennog a cheisio sicrhau bod y ci’n cael ei ddychwelyd adref. Fodd bynnag, nid yw’r Warden yn gallu gwneud hyn bob amser neu efallai nad yw’r Warden yn gallu penderfynu neu gysylltu â’r perchennog. Felly, caiff y cŵn eraill i gyd eu cymryd i’r Cytiau Cŵn i sicrhau eu bod yn ddiogel. Gwelwch ‘Cŵn Coll, Crwydr ac y Cafwyd Hyd Iddynt’.

Yn ogystal â bod yn gyfrifol am ddelio â chŵn crwydr, bydd y Wardeiniaid hefyd yn delio â honiadau ynghylch cŵn peryglus ac yn ymchwilio iddynt, mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed Powys. Bydd y Wardeiniaid hefyd yn cadw cyswllt â’r cyhoedd ynghylch ymholiadau microsglodynnu.

Nid yw’r Wardeiniaid Cŵn mwyach yn uniongyrchol gyfrifol am ddelio â chwynion ynghylch baw cŵn. 

Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth Rheoli Cŵn:

Ffôn: 01437 764551

E-bost: Dogcontrol@pembrokeshire.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r hysbysiad hwn yn egluro pam ydym yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut gaiff eich gwybodaeth ei defnyddio a’r hyn a wnawn gyda’r wybodaeth a gasglwn.

 

ID: 2335, adolygwyd 23/03/2023