Rheoli Cŵn
Cŵn Mewn Ceir a Chŵn Wedi Eu Gadael Mewn Tai
Beth ddylwn i wneud os byddaf yn gweld ci mewn trybini wedi ei gloi mewn car?
Yr RSPCA (Y Gymdeithas Frenhinol dros Atal Creulondeb i Anifeiliaid) sy'n bennaf gyfrifol am gŵn sydd wedi eu gadael mewn ceir a byddai'r rhain yn delio gyda materion o'r fath fel materion creulondeb. Pan welwch ddigwyddiad fel hyn dylech gysylltu ar unwaith gyda'r RSPCA a chysylltu hefyd â gwasanaeth rheoli cŵn y cyngor.
Oherwydd natur frys y materion hyn, fe allai'r Wardeiniaid Cŵn a'r Heddlu ymateb i gwynion o'r fath ond bydd y rhain bob amser yn cysylltu gyda'r RSPCA y cyfle cyntaf a geir.
RSPCA - Dogs Die in Hot Cars
Pwy sy'n gyfrifol am gŵn wedi eu gadael mewn tŷ?
Fe fyddai cŵn wedi eu gadael mewn tŷ yn fater i'r RSPCA yn y lle cyntaf. Fe allai anawsterau godi fodd bynnag o ran penderfynu a yw ci ar grwydr wedi ei adael neu ddim ond heb dystiolaeth glir bod ci ar grwydr wedi ei adael byddai'n rhaid trin y ci fel ci ar grwydr. Os bydd gwybodaeth gyda'r wardeiniaid ynghylch perchennog ci y credir ei fod wedi ei adael yna byddai ymdrechion yn cael eu gwneud i ddychwelyd ci i'w berchennog cywir.
Sut ydw i'n cysylltu â'r RSPCA?
Mae'r RSPCA wedi sefydlu canolfan gysylltu i dderbyn galwadau gan y cyhoedd. Mae modd cysylltu gyda nhw ar 08705 555999.