Rheoli Cŵn

Cŵn Peryglus

Er mai dim ond ychydig iawn o gŵn yr ydym yn gwybod yn benodol eu bod yn beryglus, mae'r gallu gyda phob ci i ymddwyn yn ymosodol, brathu ac anafu.

Beth yw ci peryglus?
Pwy sy'n gyfrifol am ymdrin â chŵn peryglus?
Beth ddylwn i wneud os byddaf wyneb yn wyneb â chi dieithr?
Mae ci arall wedi ymosod ar fy nghi i. Beth alla'i wneud?
Mae ci wedi fy mrathu. Beth ddylwn i wneud?

Beth yw ci peryglus?

Y farn yw bod y cŵn canlynol yn gŵn peryglus o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1981:

  • Daeargi Pydew (yn cynnwys daeargwn pydew croesfrid)
  • Tosa Siapaneaidd
  • Dogo Argentino a
  • Fila Braziliero

Mae cadw ci fel hyn yn eich meddiant yn groes i'r gyfraith heb dystysgrif eithrio, a roddir unwaith y bydd y ci wedi ei ysbaddu, ei yswirio a micro-sglodyn wedi ei blannu ynddo. Nid yw'r cŵn hyn yn cael bod mewn lle cyhoeddus heb benffrwyn a bod rhywun nad yw o dan 16 oed yn eu dal yn ddiogel ar dennyn.

Ar ben hynny, o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991, gallai trosedd fod wedi ei gyflawni os yw unrhyw gi yn beryglus a mas o reolaeth mewn lle cyhoeddus. Hyd yn oed os nad yw mewn lle cyhoeddus, ond mewn lle y mae caniatâd i'r ci fod ac mae'n brathu rhywun, neu'n codi ofn ar rywun, gellid erlyn y perchennog yr un modd. 

Pwy sy'n gyfrifol am ymdrin â chŵn peryglus?

Yn wahanol i'r sefyllfa gyda chŵn sy'n crwydro, mae'r awdurdod lleol a'r heddlu yn gyfrifol am ymateb i gwynion sy'n ymwneud â chŵn peryglus.

Yr hyn sy'n digwydd yw bod cwynion sy'n ymwneud â chŵn peryglus fel arfer yn golygu gweithredu ar y cyd oni bai ei bod yn amlwg bod un asiantaeth mewn sefyllfa well na'r llall i ymdrin â chŵyn briodol.

Os bydd ci yn ymosod ar ddefaid a da eraill mae'r gyfraith yn caniatáu i berchennog y da saethu'r ci sy'n ymosod. 

Beth ddylwn i wneud os byddaf wyneb yn wyneb â chi dieithr?

Does dim ateb syml nac unrhyw drefn benodol ar gyfer datrys problem cŵn anghyfeillgar. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o gŵn fel arfer yn cadw rheolau ymddygiad rhagweladwy.

Efallai y bydd yr wybodaeth yma yn eich helpu i gadw mas o drafferth:

  • Fe fydd hyd yn oed cŵn cyfeillgar yn cyfarth arnoch chi, oherwydd mai eu gwaith yw amddiffyn eu tiriogaeth. Fe fydd eraill yn meddwl eich bod yn fygythiad iddyn nhw neu'r sawl sy'n gyfrifol amdanyn nhw pan fyddan nhw mas yn cerdded.
  • Siaradwch gyda'r ci gyda llais cadarn ond cyfeillgar ac os daw atoch yn gyfeillgar - heb ysgyrnygu dannedd na chodi gwrychyn - sefwch yn stond er mwyn i'r ci eich gwynto, gan gadw eich dwylo mas o'r ffordd hyd nes byddwch yn teimlo'n hyderus.
  • Wrth ddod yn nes at y ci, gwyliwch y modd y mae'n ymateb i chi. Os bydd yn aros yn ei unfan neu'n cilio, mae'n debyg ei fod yn eich ystyried yn dresbaswr trechol a bydd arno ormod o ofn ymosod. Os bydd yn cerdded neu'n rhedeg tuag atoch gan siglo ei gwt yn isel, mae'n debyg ei fod yn gyfeillgar ac nad yw'n debygol y bydd yn eich brathu. Os bydd dal ei hun yn dyn, codi ei gwt lan, ysgyrnygu dannedd a rhythu arnoch, byddwch yn ofalus iawn. Os bydd yn dangos ei ddannedd, efallai y bydd yn fwy diogel peidio â mentro cam ymhellach.
  • Peidiwch byth â rhedeg heibio i gi dieithr, na cherdded yn glou oddi wrtho. Fe allai hyn wneud iddo eich cwrso chi ac fe allech chi gael eich brathu o ganlyniad.
  • Cerddwch neu cefnwch bant yn araf bob tro, gan wynebu'r ci wrth wneud - hyd nes byddwch yn siŵr eich bod yn ddiogel.
  • Peidiwch â dangos ofn. Mae ci yn gallu synhwyro ofn. Peidiwch â chynhyrfu, cerddwch bant yn araf a siaradwch yn gadarn gyda'r ci.
  • Peidiwch â rhythu. Mae rhythu yn fygythiad - fe allai ci weld hynny'n her ac ymosod.
  • Peidiwch â gadael i blant fynd at gŵn nad ydyn nhw'n eu ‘nabod. Allwch chi byth fod yn siŵr. Gofalwch nad yw'r plant yn byseddu llygaid y ci nac yn tynnu ei flew ac ati. Sgyrnygu dannedd neu frathu yw'r unig fodd sydd gyda'r ci i ddweud "Dyna ddigon".

Fe ddylech chi gofion mai anaml y bydd cŵn yn ymosod. Peidiwch felly â becso gormod am bob ci y byddwch chi'n cwrdd ag e'. Mae ar y rhan fwyaf ofn ymladd ond mae'n dda gyda nhw roi'r argraff eu bod yn galed ar eu tiriogaeth eu hunain. 

Mae ci arall wedi ymosod ar fy nghi i. Beth alla'i wneud?

Oni bai fod perygl i un o'r cyhoedd pan ddigwyddodd yr ymosodiad, fe fyddai hyn yn cael ei ystyried yn fater sifil rhyngoch chi a pherchennog y ci arall o dan sylw.

Fodd bynnag, fe fyddai'r Tîm Rheoli Cŵn yn fwy na bodlon rhoi cyngor i chi ynglŷn â'r peth iawn i'w wneud ac efallai y bydden nhw'n ystyried mynd i weld perchennog y ci am sgwrs anffurfiol.

Mae ci wedi fy mrathu. Beth ddylwn i wneud?

Mae'n bwysig, yn gyntaf, cael cymorth meddygol ar unwaith os yw'r brathiad yn un difrifol, yn enwedig os nad yw eich pigiad gwrth-detanws wedi ei adnewyddu mewn pryd (mae arno angen hwb pob deng mlynedd fel arfer).

Yna fe ddylech chi gysylltu ar unwaith â'r Tîm Rheoli Cŵn yn y Cyngor a gyda Heddlu Dyfed-Powys hefyd, y mae modd cysylltu gyda nhw ar 101.  

ID: 2344, adolygwyd 12/09/2022