Rheoli Cŵn

Deddfau Iechyd yr Amgylchedd Iechyd y Choedd a Rheoli Cwn

Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936

Deddf Iechyd y Cyhoedd 1961
Deddf Adeiladu 1984
Deddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978
Deddf Rheoli Llygredd 1974
Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982
Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010
Deddf y Diwydiant Dŵr 1991
Deddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993
Deddf Sŵn
Deddf Aer Glân 1993
Deddf Atal Difrod gan Blâu 1949
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984
Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996
Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 Adran 42
Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005, Adrannau 59, 73, 82, 83 a 102
Adrannau 149 a 150 Deddf Iechyd yr Amgylchedd 1990
Deddf Cŵn 1871
Deddf Cŵn Peryglus 1989
Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
Deddf Lles Anifeiliaid
Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015
Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936 Adrannau 45, 48, 50, 79, 80, 83, 84, 85
Deddf Iechyd y Cyhoedd 1961 Adrannau 17, 34, 36
Deddf Adeiladu 1984 Adrannau 59, 60, 61, 64, 66, 67, 76
Deddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978 Adran 6
Deddf Rheoli Llygredd 1974 Adrannau 60, 79, 80, 93
Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 Adrannau 6, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 18, 80, 92, 93
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 Adran 35
Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 Adrannau 80, 85
Deddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993
Deddf Aer Glân 1993 Adrannau 3, 6
Deddf Atal Difrod gan Blâu 1949 Adrannau 4, 5, 6, 7
Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 Adrannau 42, 64-84
Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2017, Adran 43
Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 Adran 83(2)
Awdurdodi Adran 59 i ddyroddi hysbysiadau cosb penodedig
Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

 

 

ID: 3757, adolygwyd 09/07/2018

Cŵn Peryglus

Er mai dim ond ychydig iawn o gŵn yr ydym yn gwybod yn benodol eu bod yn beryglus, mae'r gallu gyda phob ci i ymddwyn yn ymosodol, brathu ac anafu.

Beth yw ci peryglus?
Pwy sy'n gyfrifol am ymdrin â chŵn peryglus?
Beth ddylwn i wneud os byddaf wyneb yn wyneb â chi dieithr?
Mae ci arall wedi ymosod ar fy nghi i. Beth alla'i wneud?
Mae ci wedi fy mrathu. Beth ddylwn i wneud?

Beth yw ci peryglus?

Y farn yw bod y cŵn canlynol yn gŵn peryglus o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1981:

  • Daeargi Pydew (yn cynnwys daeargwn pydew croesfrid)
  • Tosa Siapaneaidd
  • Dogo Argentino a
  • Fila Braziliero

Mae cadw ci fel hyn yn eich meddiant yn groes i'r gyfraith heb dystysgrif eithrio, a roddir unwaith y bydd y ci wedi ei ysbaddu, ei yswirio a micro-sglodyn wedi ei blannu ynddo. Nid yw'r cŵn hyn yn cael bod mewn lle cyhoeddus heb benffrwyn a bod rhywun nad yw o dan 16 oed yn eu dal yn ddiogel ar dennyn.

Ar ben hynny, o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991, gallai trosedd fod wedi ei gyflawni os yw unrhyw gi yn beryglus a mas o reolaeth mewn lle cyhoeddus. Hyd yn oed os nad yw mewn lle cyhoeddus, ond mewn lle y mae caniatâd i'r ci fod ac mae'n brathu rhywun, neu'n codi ofn ar rywun, gellid erlyn y perchennog yr un modd. 

Pwy sy'n gyfrifol am ymdrin â chŵn peryglus?

Yn wahanol i'r sefyllfa gyda chŵn sy'n crwydro, mae'r awdurdod lleol a'r heddlu yn gyfrifol am ymateb i gwynion sy'n ymwneud â chŵn peryglus.

Yr hyn sy'n digwydd yw bod cwynion sy'n ymwneud â chŵn peryglus fel arfer yn golygu gweithredu ar y cyd oni bai ei bod yn amlwg bod un asiantaeth mewn sefyllfa well na'r llall i ymdrin â chŵyn briodol.

Os bydd ci yn ymosod ar ddefaid a da eraill mae'r gyfraith yn caniatáu i berchennog y da saethu'r ci sy'n ymosod. 

Beth ddylwn i wneud os byddaf wyneb yn wyneb â chi dieithr?

Does dim ateb syml nac unrhyw drefn benodol ar gyfer datrys problem cŵn anghyfeillgar. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o gŵn fel arfer yn cadw rheolau ymddygiad rhagweladwy.

Efallai y bydd yr wybodaeth yma yn eich helpu i gadw mas o drafferth:

  • Fe fydd hyd yn oed cŵn cyfeillgar yn cyfarth arnoch chi, oherwydd mai eu gwaith yw amddiffyn eu tiriogaeth. Fe fydd eraill yn meddwl eich bod yn fygythiad iddyn nhw neu'r sawl sy'n gyfrifol amdanyn nhw pan fyddan nhw mas yn cerdded.
  • Siaradwch gyda'r ci gyda llais cadarn ond cyfeillgar ac os daw atoch yn gyfeillgar - heb ysgyrnygu dannedd na chodi gwrychyn - sefwch yn stond er mwyn i'r ci eich gwynto, gan gadw eich dwylo mas o'r ffordd hyd nes byddwch yn teimlo'n hyderus.
  • Wrth ddod yn nes at y ci, gwyliwch y modd y mae'n ymateb i chi. Os bydd yn aros yn ei unfan neu'n cilio, mae'n debyg ei fod yn eich ystyried yn dresbaswr trechol a bydd arno ormod o ofn ymosod. Os bydd yn cerdded neu'n rhedeg tuag atoch gan siglo ei gwt yn isel, mae'n debyg ei fod yn gyfeillgar ac nad yw'n debygol y bydd yn eich brathu. Os bydd dal ei hun yn dyn, codi ei gwt lan, ysgyrnygu dannedd a rhythu arnoch, byddwch yn ofalus iawn. Os bydd yn dangos ei ddannedd, efallai y bydd yn fwy diogel peidio â mentro cam ymhellach.
  • Peidiwch byth â rhedeg heibio i gi dieithr, na cherdded yn glou oddi wrtho. Fe allai hyn wneud iddo eich cwrso chi ac fe allech chi gael eich brathu o ganlyniad.
  • Cerddwch neu cefnwch bant yn araf bob tro, gan wynebu'r ci wrth wneud - hyd nes byddwch yn siŵr eich bod yn ddiogel.
  • Peidiwch â dangos ofn. Mae ci yn gallu synhwyro ofn. Peidiwch â chynhyrfu, cerddwch bant yn araf a siaradwch yn gadarn gyda'r ci.
  • Peidiwch â rhythu. Mae rhythu yn fygythiad - fe allai ci weld hynny'n her ac ymosod.
  • Peidiwch â gadael i blant fynd at gŵn nad ydyn nhw'n eu ‘nabod. Allwch chi byth fod yn siŵr. Gofalwch nad yw'r plant yn byseddu llygaid y ci nac yn tynnu ei flew ac ati. Sgyrnygu dannedd neu frathu yw'r unig fodd sydd gyda'r ci i ddweud "Dyna ddigon".

Fe ddylech chi gofion mai anaml y bydd cŵn yn ymosod. Peidiwch felly â becso gormod am bob ci y byddwch chi'n cwrdd ag e'. Mae ar y rhan fwyaf ofn ymladd ond mae'n dda gyda nhw roi'r argraff eu bod yn galed ar eu tiriogaeth eu hunain. 

Mae ci arall wedi ymosod ar fy nghi i. Beth alla'i wneud?

Oni bai fod perygl i un o'r cyhoedd pan ddigwyddodd yr ymosodiad, fe fyddai hyn yn cael ei ystyried yn fater sifil rhyngoch chi a pherchennog y ci arall o dan sylw.

Fodd bynnag, fe fyddai'r Tîm Rheoli Cŵn yn fwy na bodlon rhoi cyngor i chi ynglŷn â'r peth iawn i'w wneud ac efallai y bydden nhw'n ystyried mynd i weld perchennog y ci am sgwrs anffurfiol.

Mae ci wedi fy mrathu. Beth ddylwn i wneud?

Mae'n bwysig, yn gyntaf, cael cymorth meddygol ar unwaith os yw'r brathiad yn un difrifol, yn enwedig os nad yw eich pigiad gwrth-detanws wedi ei adnewyddu mewn pryd (mae arno angen hwb pob deng mlynedd fel arfer).

Yna fe ddylech chi gysylltu ar unwaith â'r Tîm Rheoli Cŵn yn y Cyngor a gyda Heddlu Dyfed-Powys hefyd, y mae modd cysylltu gyda nhw ar 101.  

ID: 2344, adolygwyd 24/01/2018

Microsglodyn

Mae gosod microsglodyn yn ddull diogel a pharhaol o roi modd adnabod ci. Anaml iawn y mae'n peidio â gweithio ac mae'n cynnig llawer mwy o obaith y dewch chi a'ch anifail anwes yn ôl at eich gilydd os bydd ar goll neu wedi ei ddwyn.

Maen nhw'n gosod microsglodyn bach iawn (maint gronyn o reis) yn ddi-boen yn y croen ar wâr y ci. Ynddo mae rhif cod unigryw sy'n cael ei roi ar gofnod cenedlaethol o anifeiliaid anwes ar gronfa ddata gyfrifiadurol, sef PetLog, gydag enw a chyfeiriad y perchennog. Os daw rhywun o hyd i'r ci, maen nhw'n dal sganiwr dros y microsglodyn ac mae modd gwybod pwy yw'r perchennog.

Mae angen microsglodynnu eich ci!

Mae Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015 yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016.

Os ydych chi'n berchen ar gi mi fydd y rheoliadau hyn yn eich effeithio CHI!

Mae'r Rheoliadau yn gosod nifer o ddyletswyddau cyfreithiol i bobl sydd yn cadw/berchen ar gi.

Bydd yn rhaid i bob ceidwad/perchennog ci, oni bai am gi bach o dan 8 wythnos oed neu gi gweithio tystiedig gael microsglodyn ar ei gi, a bydd yn rhaid iddynt hefyd ddarparu gwybodaeth benodol i'w gofnodi ar gronfa ddata.

Mae'r wybodaeth yma yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig, i'r canlynol:

  • enw llawn a chyfeiriad y ceidwad/bridiwr
  • yr enw neu rif adnabod gwreiddiol a roddwyd ar y ci;
  • rhif ffôn cyswllt (os o gwbl) y ceidwad;
  • cyfeiriad e-bost (os o gwbl) y ceidwad;
  • yr enw a roddwyd ar y ci gan y ceidwad
  • rhyw'r ci
  • brîd y ci, neu ddisgrifiad os yw'n groesfrid;
  • lliw'r ci;
  • unrhyw nodweddion sy'n gwahaniaethu'r ci;
  • yr amcan mwyaf cywir y gall y ceidwad ei gynnig o ddyddiad geni'r ci; a
  • rhif unigryw'r microsglodyn sydd wedi ei fewnblannu ar y ci.

Mae'r Rheoliadau yn rhwystro unrhyw gi rhag cael ei drosglwyddo i geidwad/berchennog newydd hyd nes ei fod wedi cael ei ficrosglodynnu. Fel perchennog newydd ci, CHI sy'n gyfrifol am ddiweddaru'r wybodaeth ar y gronfa ddata am y newid ceidwad/perchnogaeth (oni bai fod y perchennog blaenorol wedi gwneud hynny'n barod). Gall unrhyw un nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau hyn dderbyn cosb uchafswm o £500.

Mae gan Swyddogion yr Awdurdodau Lleol a Swyddogion yr Heddlu'r pŵer i:

  • gyflwyno rhybudd i berchennog ci yn gofyn iddyn nhw ficrosglodynnu eu ci
  • fynd a chi i'w ficrosglodynnu ac adennill y gost am wneud hynny gan y perchennog, neu i
  • gymryd y ci yn eu meddiant, heb ganiatâd y perchennog, er mwyn gwirio os ydyw wedi ei ficrosglodynnu ai peidio ac, os nad ydyw, i'w ficrosglodynnu.

I gael mwy o wybodaeth, fe'ch anogir i ddarllen y Rheoliadau 

Os ydych wedi derbyn rhybudd ond yn anghytuno, mae'n bosibl i chi apelio. 

Sut i ficrosglodynnu eich ci:

Mae ein Wardeniad Cŵn yn cynnig Microsglodynnu AM DDIM i'ch ci ar hyn o bryd.
Galwch Sally ar 07557 251669 neu e-bostiwch dogcontrol@pembrokshire.gov.uk

Lleoliadau a Milfeddygon Microsglodynnu AM DDIM

FREE Dogs Trust Microchipping Locations and Vets

Cwestiynau a ofynnir yn aml am Fircrosglodynnu

Peidiwch ag anghofio diweddaru eich manylion!

Mae microsglodyn yn ddiwerth os yw'r manylion yn anghywir. Os ydych chi'n symud tŷ neu'n newid eich rhif ffôn, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru microsglodyn eich ci os gwelwch yn dda.

Os ydym ni'n dod o hyd i gi coll byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i'w ddychwelyd ichi. Er hynny, os nad ydych chi ar gael neu os nad ydych chi gartref ac nad ydym ni'n gallu cael gafael ar unrhyw un, ni fydd dewis gennym ni ond mynd a'r ci i'r cytiau cŵn. Gall hyn achosi llawer o straen ar berchnogion a'u cŵn a byddwch chi fel perchennog yn derbyn ffi am y cwt.

Os ydych chi'n gwerthu eich ci i rywun arall, mae'n rhaid ichi wneud yn siŵr fod y manylion ar y microsglodyn yn cael ei newid. Yn ôl cyfraith, pwy bynnag sydd wedi ei gofrestru fel y perchennog ar ficrosglodyn yw'r perchennog cyfreithiol ac felly'n gyfrifol. Felly, pe bai'r ci yn achosi damwain neu ddifrod i rywun neu rywbeth, pwy bynnag sydd wedi ei gofrestru fydd yn atebol.

Gallwch wirio manylion microsglodyn eich ci ar-lein neu gallwch ffonio ein Wardeniad Cŵn ar y rhifau canlynol Sally ar 07557 251669.

Dyletswydd Gofal Deddf Lles Anifeiliaid 2006

Mae Adran 9 o'r Ddeddf uchod yn cynnwys darparu pump "rhyddid" mewn perthynas â lles anifeiliaid, sef:

  • Amgylchedd addas
  • Diet addas
  • Arddangos patrymau ymddygiad arferol
  • Cyfeillach
  • Diogelwch rhag poen, dioddefaint, niwed ac afiechyd

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gydymffurfio'n llawn gyda'r gofynion hyn mewn perthynas â holl agweddau'r gwasanaeth rheoli cŵn.

 

ID: 2375, adolygwyd 26/01/2018

Sbaddu

Beth yw sbaddu?

Mae sbaddu yn driniaeth syml y bydd milfeddyg yn ei gwneud tra bydd yr anifail o dan anaesthetig cyffredinol. Gyda gwrywod, mae sbaddu yn golygu tynnu'r ceilliau. Gyda menywod mae'n golygu tynnu'r groth ar ofarïau. Mae sbaddu eich anifail anwes yn golygu na fydd yn medru cael rhagor o rai bach.

Beth yw manteision sbaddu fy nghi?

  • Mae'n gallu gwneud datblygu cancr y fron yn llawer llai tebygol ac mae'n dileu'r bygythiad o gancr yr ofari a heintiau mewnol, sy'n drafferthion cyffredin gyda menywod heb eu sbaddu.
  • Mae sbaddu eich ci gwryw yn atal tyfiannau ar y ceilliau a helpu efallai i atal problemau'r brostad.
  • Mae sbaddu eich anifail anwes yn golygu y bydd y gwasanaeth lles anifeiliaid a sefydliadau lles anifeiliaid eraill yn casglu llai o anifeiliaid dieisiau ac ar grwydr.
  • Mae'n helpu i wneud eich ci yn llai tebygol o fod eisiau dianc.
  • Bydd yn golygu bod llai o gŵn bach dieisiau yn cael eu geni bob blwyddyn

Dogs Trust - Cost Isel Sbaddu

ID: 2376, adolygwyd 24/01/2018

Cŵn Mewn Ceir a Chŵn Wedi Eu Gadael Mewn Tai

Beth ddylwn i wneud os byddaf yn gweld ci mewn trybini wedi ei gloi mewn car?

Yr RSPCA (Y Gymdeithas Frenhinol dros Atal Creulondeb i Anifeiliaid) sy'n bennaf gyfrifol am gŵn sydd wedi eu gadael mewn ceir a byddai'r rhain yn delio gyda materion o'r fath fel materion creulondeb. Pan welwch ddigwyddiad fel hyn dylech gysylltu ar unwaith gyda'r RSPCA a chysylltu hefyd â gwasanaeth rheoli cŵn y cyngor.

Oherwydd natur frys y materion hyn, fe allai'r Wardeiniaid Cŵn a'r Heddlu ymateb i gwynion o'r fath ond bydd y rhain bob amser yn cysylltu gyda'r RSPCA y cyfle cyntaf a geir.

Advice from the RSPCA - Dogs Die in Hot Cars

Pwy sy'n gyfrifol am gŵn wedi eu gadael mewn tŷ?

Fe fyddai cŵn wedi eu gadael mewn tŷ yn fater i'r RSPCA yn y lle cyntaf. Fe allai anawsterau godi fodd bynnag o ran penderfynu a yw ci ar grwydr wedi ei adael neu ddim ond heb dystiolaeth glir bod ci ar grwydr wedi ei adael byddai'n rhaid trin y ci fel ci ar grwydr. Os bydd gwybodaeth gyda'r wardeiniaid ynghylch perchennog ci y credir ei fod wedi ei adael yna byddai ymdrechion yn cael eu gwneud i ddychwelyd ci i'w berchennog cywir.

Sut ydw i'n cysylltu â'r RSPCA?

Mae'r RSPCA wedi sefydlu canolfan gysylltu i dderbyn galwadau gan y cyhoedd. Mae modd cysylltu gyda nhw ar 08705 555999.  

ID: 2374, adolygwyd 24/01/2018

Gwahardd Oddi Ar Draethau Yn Yr Haf

Ar ba draethau dwi ddim i fod i fynd â'r ci am dro yn yr haf?

Mae cŵn wedi eu gwahardd oddi ar 10 traeth yn Sir Benfro rhwng y 1af Mai a'r 30ain Medi bob blwyddyn.

Mae mapiau manwl ar gael ar-lein ac fe'u harddangosir ar bob traeth sydd wedi ei sy'n dangos y rhannau lle gellir neu ni ellir mynd â chŵn am dro yn ogystal ag ardaloedd ar dennyn yn unig. 

Mae gwaharddiadau rhannol gyda'r traethau hyn: -

  • Lydstep
  • Porth Niwgwl a'r Promenâd
  • Traeth Saundersfoot a'r promenâd
  • Traeth y Castell a Thraeth y De - Dinbych-y-pysgod
  • Traeth Llanrhath a'r Promenâd
  • Traeth Poppit
  • Aberllydan - Gogledd
  • Dale

Mae cŵn wedi eu gwahardd yn llwyr oddi ar y traethau hyn: -

  • Traeth y Gogledd - Dinbych-y-pysgod
  • Y Porth Mawr - Tyddewi

Mae'r Tîm Rheoli Cŵn ar y cyd â gweithwyr Hamdden yn gorfodi'r gwaharddiadau hyn drwy fisoedd yr haf. 

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Traethau sy'n Croesawu Cŵn ar wefan Visit Pembrokeshire  

Pam na chaf fynd â'r ci am dro ar y traethau hyn?


Mae'r is-ddeddfau sy'n gwahardd cŵn oddi ar rannau o rai traethau yn bodoli'n bennaf i ddiogelu buddiannau ymdrochwyr yn ystod tymor yr haf.  Mae'r gwaharddiad mewn grym rhwng y 1af Mai tan y 30ain Medi. O'r 1af Hydref ymlaen bydd croeso eto i gŵn ar y traethau.  

Ei nod yw sicrhau diogelwch a phleser y mwyafrif a fyddai'n dymuno torheulo, nofio neu wneud gweithgareddau hamdden glan mor eraill ar y traeth  

ID: 2386, adolygwyd 24/01/2018

Gwasanaeth Rheoli Cŵn

 

Bu’n rhaid adolygu’r Gwasanaeth Rheoli Cŵn yn ddiweddar yn dilyn arbedion effeithlonrwydd.

O ganlyniad, mae’r Cyngor bellach yn cyflogi 1.8 Warden Cŵn cyfwerth ag amser llawn. Mae’r Cyngor wedi gorfod ystyried beth yw rôl statudol y gwasanaeth h.y. beth yw swyddogaethau y mae’n rhaid i’r wardeniaid eu cyflawni yn ôl y gyfraith ayyb.

Felly, bydd y Cyngor yn parhau i ddelio â cheisiadau yn ymwneud â:

• Cŵn strae
• Cŵn peryglus
• Ymholiadau’n ymwneud â microsglodynnu

Yn anffodus, golyga’r gostyngiadau nad ydym bellach yn gallu delio â chwynion yn ymwneud â baw cŵn a chŵn ar draethau pan honnir eu bod yn groes i gyfyngiadau Is-ddeddfau’r Traeth.

Ni fydd modd ychwaith i’r Cyngor gynnal digwyddiadau perchnogaeth gyfrifol o gŵn fel yn y gorffennol, fel y digwyd blynyddol 'Pawennau yn y Parc'


Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Rheoli Cŵn drwy 

Ffôn: 01437 764551
E-bost: Dogcontrol@pembrokeshire.gov.uk 

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd yma

Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn

ID: 2335, adolygwyd 27/06/2018

Cŵn sydd ar goll, wedi dod o hyd iddo ac sy'n crwydro

Pan gaiff ci grwydro ar ei ben ei hun a phan nid oes modd cysylltu â neu gael hyd i'r perchenogion, caiff y ci ei ddosbarthu fel Ci Crwydr. Pan fo hynny'n ymarferol, mae cyfrifoldeb ar y Cyngor i gasglu a chadw unrhyw Gi Crwydr. Mae hyn er diogelwch y cyhoedd a lles y ci.

Bellach mae Cŵn Crwydr yn cael eu cadw yn:

Green Acres Animal Rescue
Ebbs Acres Farm
Talbenni
Hwlffordd
Sir Benfro
SA62 3XA

Ffôn: 01437 781745.

Rwyf wedi colli fy nghi. Beth ddylwn i wneud?
Rwyf wedi dod o hyd i gi neu wedi gweld ci yn crwydro. Beth ddylwn i wneud?
Beth sy'n digwydd os nad oes modd cysylltu gyda'r perchennog neu os nad yw e' neu hi gartref?
Beth sy'n digwydd i gi os na ddaw neb i'w nôl?
Ga'i gadw ci rwy'n dod o hyd iddo?
Beth mae'r cyngor yn ei wneud ynghylch cŵn sy'n crwydro'n gyson?
Pa drefniadau sydd ar gyfer cŵn sy'n crwydro'r tu fas i oriau swyddfa arferol?
Beth alla'i wneud i rwystro fy nghi rhag crwydro?
Rwy'n pryderu ynglŷn â lles rhyw gi. Beth ddylwn i wneud?
Yw'r warden cŵn yn delio gyda chathod hefyd?
Yw'r gwasanaeth rheoli cŵn yn gallu ail-gartrefu fy nghi?

Rwyf wedi colli fy nghi. Beth ddylwn i wneud?

Y peth cyntaf i'w wneud yw rhoi gwybod i'r cyngor oherwydd bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i gysylltu adroddiadau o gŵn ar goll gyda chŵn a welir yn crwydro. Fel hyn, efallai y bydd y wardeiniaid yn gallu aduno ci a'i berchennog y cyfle cyntaf a ddaw. Unwaith y byddwch chi wedi rhoi gwybod i'r cyngor bod eich ci ar goll fe allech chi gysylltu â'r cytiau cŵn y mae'r cyngor yn eu defnyddio i weld a ydyn nhw wedi derbyn eich ci.  Caiff perchnogion gasglu eu cŵn o gynelau Greenacres Animal Rescue (Fferm Ebbs Acres, Talbenni, Hwlffordd, SA62 3XA, 01437 781745) trwy drefniant ymlaen llaw

Os yw ci unrhyw un wedi ei gael yn crwydro a'i ddodi yng nghytiau cŵn yr awdurdod, yna bydd rhaid iddo ef neu hi dalu pob cost a gafwyd yn rhesymol cyn y caiff y ci ei ddychwelyd iddyn nhw. Gallai'r costau hyn gynnwys:-

  • Dirwy statudol
  • Ffi am letya dyddiol
  • Unrhyw gostau milfeddygol.

Rwyf wedi dod o hyd i gi neu wedi gweld ci yn crwydro. Beth ddylwn i wneud?

Os ydych chi wedi dod o hyd i gi yn crwydro neu wedi gweld ci yn crwydro, y peth cyntaf i'w wneud yw rhoi gwybod i'r cyngor. Wedi derbyn cwyn, fe fydd y wardeiniaid cŵn yn ceisio cysylltu gyda'r sawl sy'n cwyno cyn gynted ag y bo modd a chymryd manylion y ci a'r fan y cafwyd y ci neu y'i gwelwyd yn crwydro.

Bydd y wardeiniaid yn mynd i nôl y ci os oes modd o fewn rheswm a byddan nhw'n chwilio am fanylion un ai oddi ar y goler a'r llabed (os yw'n eu gwisgo) neu oddi ar y microsglodyn.

Os bydd hyn yn fodd i wybod pwy yw'r perchennog, bydd y wardeiniaid yn ceisio mynd â'r ci yn syth yn ôl at ei berchennog.

Mae hyn, wrth gwrs, yn gofyn bod manylion cysylltu digonol ar gael a bod rhywun gartref i dderbyn y ci.

Beth sy'n digwydd os nad oes modd cysylltu gyda'r perchennog neu os nad yw e' neu hi gartref?

Mewn sefyllfa fel hyn, fe fyddai'r warden yn mynd â'r ci i gytiau cŵn y cyngor. Os ydyn nhw'n gwybod cyfeiriad y ci ond does neb gartref, bydden nhw'n gadael hysbysiad i roi gwybod i'r perchennog eu bod wedi mynd â'r ci i'r cytiau. Fe fydden nhw hefyd yn gadael manylion cysylltu ar gyfer y cytiau cŵn.

Os bydd y warden yn becso am iechyd a lles y ci yna fe ellid mynd â'r ci at filfeddyg lleol cyn mynd ag e' i'r cytiau.

Beth sy'n digwydd i gi os na ddaw neb i'w nôl?

Mae'n rhaid i'r cyngor gadw unrhyw gŵn sy'n crwydro am saith niwrnod wedi iddyn nhw gyrraedd y cytiau cŵn.

Pan fydd y cyfnod o saith niwrnod wedi dod i ben, mae'n rhaid i'r cyngor ail-gartrefu'r ci neu os aiff hi i'r pen, lladd y ci.

Mae bron iawn i bob ci a geir yn crwydro ac na ddaw ei berchennog i'w nôl yn cael ei ail-gartrefu a dim ond os yw'n afiach neu fod ei ymddygiad yn gwneud ei ail-gartrefu yn afresymol, y byddai ei ladd yn ystyriaeth. Yn ddieithriad mae hyn yn golygu dilyn cyngor y milfeddyg.

Ga'i gadw ci rwy'n dod o hyd iddo?

Os byddwch yn dod o hyd i gi yn crwydro ac eisiau ei gadw, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r cyngor. Fe ddylech chi hefyd fynd ag ef at filfeddyg neu ddod ag ef atom ni, fel bod modd ei sganio am ficrosglodyn.

Os yw perchennog yr anifail yn chwilio amdano, ac wedi ei gofrestru yn gi ar goll, fe fyddwn ni'n gallu rhoi gwybod i'r perchennog bod rhywun wedi dod o hyd i'r anifail.

Os, ar ôl un mis, gwelir nad oes unrhyw berchennog arall, yna gallwch gadw'r ci yn gyfreithlon, ond nid yw ei berchnogaeth yn gyfreithiol-drosglwyddadwy.  Os daw'r perchnogion i'r amlwg unrhyw bryd yn ddiweddarach ac y gallant brofi taw eu ci hwy ydyw, yna byddai'n rhaid rhoi'r ci yn ôl iddynt.  Yr unig ffordd gyfreithlon o fod yn berchennog swyddogol y ci yw sicrhau ei fod yn dilyn y drefn cynelau am gyfnod o 7 diwrnod.

Beth mae'r cyngor yn ei wneud ynghylch cŵn sy'n crwydro'n gyson?

Fel arfer, pan geir cŵn yn crwydro, bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i ddychwelyd yr anifail i'w berchennog, os byddwn yn gwybod pwy yw ef neu hi. Fodd bynnag, os byddwn yn gwybod bod ci yn crwydro'n gyson, efallai y byddwn yn hepgor dychwelyd y ci i'w berchennog a mynd â'r ci yn syth i'r cytiau.

Yn ogystal â'r uchod, gallwch hefyd fod yn achosi effaith andwyol ar eich cymuned os byddwch yn gadael i'ch ci grwydro'n rheolaidd. Mae gan y Cyngor bwerau dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 i roi Rhybudd Gwarchod y Gymuned i chi os ydych yn dal i adael i'ch ci grwydro. Fe all y Rhybudd hwn fynnu yn y gyfraith eich bod yn cadw'r ci dan reolaeth, a gallai peidio â chydymffurfio â Rhybudd o'r fath beri eich bod yn cael Tocyn Cosb Benodedig a/neu fod y mater yn arwain at ddwyn achos yn eich erbyn yn y Llys Ynadon.

Efallai hefyd y bydd perchnogion cŵn heb goler a llabed arnyn nhw yn gorfod wynebu'r gyfraith.

Pa drefniadau sydd ar gyfer cŵn sy'n crwydro'r tu fas i oriau swyddfa arferol?

Mae Greenacres Animal Rescue ar agor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos ac maent yn barod i dderbyn cŵn ar grwydr gan aelodau'r cyhoedd. Mae hwn yn drefniant anffurfiol a ddarperir ar sail ewyllys da ac nid yw'n gytundebol. Darperir manylion cyswllt Greenacres Animal Rescue uchod.

Beth alla'i wneud i rwystro fy nghi rhag crwydro?

Fe fydd rhaid i chi ofalu eich bod yn cadw ffensys a giatiau ar ffiniau eich tir mewn cyflwr da. Os oes modd o gwbl, ddylech chi ddim gadael eich ci yn yr ardd tra'r ydych chi yn y gwaith oherwydd, yn ogystal â'r perygl y bydd ymwelwyr â'ch eiddo chi yn gadael y ci mas, mae mwy o berygl hefyd y bydd y ci yn niwsans i'ch cymdogion. Ar ben hyn, fe ddylech chi sicrhau eich bod :

  • Wedi dodi coler a llabed ar eich ci gyda digon o fanylion arnyn nhw (mae'r gyfraith yn mynnu hyn);
  • Wedi rhoi rhifau ffôn symudol yn ogystal â rhifau ffôn eich gwaith;
  • Yn ddelfrydol, wedi gosod micro-sglodyn a'ch bod yn diweddaru unrhyw wybodaeth ar sglodyn.
  • Sut i atal eich chi rhag crwydro

Rwy'n pryderu ynglŷn â lles rhyw gi. Beth ddylwn i wneud?

Does dim modd i'r gwasanaeth rheoli cŵn ymchwilio i gwynion ynghylch lles cŵn ac anifeiliaid eraill. Os byddwch yn pryderu ynghylch lles ci neu anifail arall, gallwch alw'r RSPCA ar 0300 1234 999.  

Yw'r warden cŵn yn delio gyda chathod hefyd?

Y farn yw mai anifeiliaid gwyllt yw cathod, yn hytrach nag anifeiliaid domestig, ac yn hyn o beth nid oes yr un rheolaethau arnynt ag ar gŵn.

Os cewch chi drafferth gyda chathod efallai y bydd y Tîm Iechyd Cyhoeddus Domestig yn gallu eich cynghori ynghylch mesurau rheoli y gallech chi eu rhoi ar waith.

Yw'r gwasanaeth rheoli cŵn yn gallu ail-gartrefu fy nghi?

Mae'r wardeiniaid cŵn yn derbyn nifer o ymholiadau bob blwyddyn gyda pherchnogion cŵn sydd, am nifer o resymau, am ail-gartrefu eu ci.

Does dim gwasanaeth i'w gael gyda'r cyngor sy'n ailgartrefu cŵn ond fe fydd y wardeiniaid yn cynnig cyngor ynghylch hynny.

Mae hyn fel arfer yn golygu cysylltu'r sawl sy'n dymuno ail-gartrefu ei gi gydag un neu ragor o ganolfannau ail-gartrefu y mae'r wardeiniaid cŵn yn gwybod amdanyn nhw.

ID: 2336, adolygwyd 24/01/2018