Rheoli Cŵn
Cŵn sydd ar goll, wedi dod o hyd iddo ac sy'n crwydro
Pan gaiff ci grwydro ar ei ben ei hun a phan nid oes modd cysylltu â neu gael hyd i'r perchenogion, caiff y ci ei ddosbarthu fel Ci Crwydr. Pan fo hynny'n ymarferol, mae cyfrifoldeb ar y Cyngor i gasglu a chadw unrhyw Gi Crwydr. Mae hyn er diogelwch y cyhoedd a lles y ci.
Bellach mae Cŵn Crwydr yn cael eu cadw yn:
Green Acres Animal Rescue
Ebbs Acres Farm
Talbenni
Hwlffordd
Sir Benfro
SA62 3XA
Ffôn: 01437 781745
Neidiwch i lawr i:
Rwyf wedi colli fy nghi. Beth ddylwn i wneud?
Rwyf wedi dod o hyd i gi neu wedi gweld ci yn crwydro. Beth ddylwn i wneud?
Beth sy'n digwydd os nad oes modd cysylltu gyda'r perchennog neu os nad yw e' neu hi gartref?
Beth sy'n digwydd i gi os na ddaw neb i'w nôl?
Ga'i gadw ci rwy'n dod o hyd iddo?
Beth mae'r cyngor yn ei wneud ynghylch cŵn sy'n crwydro'n gyson?
Pa drefniadau sydd ar gyfer cŵn sy'n crwydro'r tu fas i oriau swyddfa arferol?
Beth alla'i wneud i rwystro fy nghi rhag crwydro?
Rwy'n pryderu ynglŷn â lles rhyw gi. Beth ddylwn i wneud?
Yw'r warden cŵn yn delio gyda chathod hefyd?
Yw'r gwasanaeth rheoli cŵn yn gallu ail-gartrefu fy nghi?
Rwyf wedi colli fy nghi. Beth ddylwn i wneud?
Y peth cyntaf i'w wneud yw rhoi gwybod i'r cyngor oherwydd bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i gysylltu adroddiadau o gŵn ar goll gyda chŵn a welir yn crwydro. Fel hyn, efallai y bydd y wardeiniaid yn gallu aduno ci a'i berchennog y cyfle cyntaf a ddaw. Unwaith y byddwch chi wedi rhoi gwybod i'r cyngor bod eich ci ar goll fe allech chi gysylltu â'r cytiau cŵn y mae'r cyngor yn eu defnyddio i weld a ydyn nhw wedi derbyn eich ci. Caiff perchnogion gasglu eu cŵn o gynelau Greenacres Animal Rescue (Fferm Ebbs Acres, Talbenni, Hwlffordd, SA62 3XA, 01437 781745) trwy drefniant ymlaen llaw
Os yw ci unrhyw un wedi ei gael yn crwydro a'i ddodi yng nghytiau cŵn yr awdurdod, yna bydd rhaid iddo ef neu hi dalu pob cost a gafwyd yn rhesymol cyn y caiff y ci ei ddychwelyd iddyn nhw. Gallai'r costau hyn gynnwys:
- Dirwy statudol
- Ffi am letya dyddiol
- Unrhyw gostau milfeddygol.
Rwyf wedi dod o hyd i gi neu wedi gweld ci yn crwydro. Beth ddylwn i wneud?
Os ydych chi wedi dod o hyd i gi yn crwydro neu wedi gweld ci yn crwydro, y peth cyntaf i'w wneud yw rhoi gwybod i'r cyngor. Wedi derbyn cwyn, fe fydd y wardeiniaid cŵn yn ceisio cysylltu gyda'r sawl sy'n cwyno cyn gynted ag y bo modd a chymryd manylion y ci a'r fan y cafwyd y ci neu y'i gwelwyd yn crwydro.
Bydd y wardeiniaid yn mynd i nôl y ci os oes modd o fewn rheswm a byddan nhw'n chwilio am fanylion un ai oddi ar y goler a'r llabed (os yw'n eu gwisgo) neu oddi ar y microsglodyn.
Os bydd hyn yn fodd i wybod pwy yw'r perchennog, bydd y wardeiniaid yn ceisio mynd â'r ci yn syth yn ôl at ei berchennog.
Mae hyn, wrth gwrs, yn gofyn bod manylion cysylltu digonol ar gael a bod rhywun gartref i dderbyn y ci.
Beth sy'n digwydd os nad oes modd cysylltu gyda'r perchennog neu os nad yw e' neu hi gartref?
Mewn sefyllfa fel hyn, fe fyddai'r warden yn mynd â'r ci i gytiau cŵn y cyngor. Os ydyn nhw'n gwybod cyfeiriad y ci ond does neb gartref, bydden nhw'n gadael hysbysiad i roi gwybod i'r perchennog eu bod wedi mynd â'r ci i'r cytiau. Fe fydden nhw hefyd yn gadael manylion cysylltu ar gyfer y cytiau cŵn.
Os bydd y warden yn becso am iechyd a lles y ci yna fe ellid mynd â'r ci at filfeddyg lleol cyn mynd ag e' i'r cytiau.
Beth sy'n digwydd i gi os na ddaw neb i'w nôl?
Mae'n rhaid i'r cyngor gadw unrhyw gŵn sy'n crwydro am saith niwrnod wedi iddyn nhw gyrraedd y cytiau cŵn.
Pan fydd y cyfnod o saith niwrnod wedi dod i ben, mae'n rhaid i'r cyngor ail-gartrefu'r ci neu os aiff hi i'r pen, lladd y ci.
Mae bron iawn i bob ci a geir yn crwydro ac na ddaw ei berchennog i'w nôl yn cael ei ail-gartrefu a dim ond os yw'n afiach neu fod ei ymddygiad yn gwneud ei ail-gartrefu yn afresymol, y byddai ei ladd yn ystyriaeth. Yn ddieithriad mae hyn yn golygu dilyn cyngor y milfeddyg.
Ga'i gadw ci rwy'n dod o hyd iddo?
Os byddwch yn dod o hyd i gi yn crwydro ac eisiau ei gadw, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r cyngor. Fe ddylech chi hefyd fynd ag ef at filfeddyg neu ddod ag ef atom ni, fel bod modd ei sganio am ficrosglodyn.
Os yw perchennog yr anifail yn chwilio amdano, ac wedi ei gofrestru yn gi ar goll, fe fyddwn ni'n gallu rhoi gwybod i'r perchennog bod rhywun wedi dod o hyd i'r anifail.
Os, ar ôl un mis, gwelir nad oes unrhyw berchennog arall, yna gallwch gadw'r ci yn gyfreithlon, ond nid yw ei berchnogaeth yn gyfreithiol-drosglwyddadwy. Os daw'r perchnogion i'r amlwg unrhyw bryd yn ddiweddarach ac y gallant brofi taw eu ci hwy ydyw, yna byddai'n rhaid rhoi'r ci yn ôl iddynt. Yr unig ffordd gyfreithlon o fod yn berchennog swyddogol y ci yw sicrhau ei fod yn dilyn y drefn cynelau am gyfnod o 7 diwrnod.
Beth mae'r cyngor yn ei wneud ynghylch cŵn sy'n crwydro'n gyson?
Fel arfer, pan geir cŵn yn crwydro, bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i ddychwelyd yr anifail i'w berchennog, os byddwn yn gwybod pwy yw ef neu hi. Fodd bynnag, os byddwn yn gwybod bod ci yn crwydro'n gyson, efallai y byddwn yn hepgor dychwelyd y ci i'w berchennog a mynd â'r ci yn syth i'r cytiau.
Yn ogystal â'r uchod, gallwch hefyd fod yn achosi effaith andwyol ar eich cymuned os byddwch yn gadael i'ch ci grwydro'n rheolaidd. Mae gan y Cyngor bwerau dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 i roi Rhybudd Gwarchod y Gymuned i chi os ydych yn dal i adael i'ch ci grwydro. Fe all y Rhybudd hwn fynnu yn y gyfraith eich bod yn cadw'r ci dan reolaeth, a gallai peidio â chydymffurfio â Rhybudd o'r fath beri eich bod yn cael Tocyn Cosb Benodedig a/neu fod y mater yn arwain at ddwyn achos yn eich erbyn yn y Llys Ynadon.
Efallai hefyd y bydd perchnogion cŵn heb goler a llabed arnyn nhw yn gorfod wynebu'r gyfraith.
Pa drefniadau sydd ar gyfer cŵn sy'n crwydro'r tu fas i oriau swyddfa arferol?
Mae Greenacres Animal Rescue ar agor saith niwrnod yr wythnos ac maent yn barod i dderbyn cŵn ar grwydr gan aelodau'r cyhoedd. Mae hwn yn drefniant anffurfiol a ddarperir ar sail ewyllys da ac nid yw'n gytundebol. Darperir manylion cyswllt Greenacres Animal Rescue uchod.
Beth alla'i wneud i rwystro fy nghi rhag crwydro?
Fe fydd rhaid i chi ofalu eich bod yn cadw ffensys a giatiau ar ffiniau eich tir mewn cyflwr da. Os oes modd o gwbl, ddylech chi ddim gadael eich ci yn yr ardd tra'r ydych chi yn y gwaith oherwydd, yn ogystal â'r perygl y bydd ymwelwyr â'ch eiddo chi yn gadael y ci mas, mae mwy o berygl hefyd y bydd y ci yn niwsans i'ch cymdogion. Ar ben hyn, fe ddylech chi sicrhau eich bod :
- Wedi dodi coler a llabed ar eich ci gyda digon o fanylion arnyn nhw (mae'r gyfraith yn mynnu hyn);
- Wedi rhoi rhifau ffôn symudol yn ogystal â rhifau ffôn eich gwaith;
- Yn ddelfrydol, wedi gosod micro-sglodyn a'ch bod yn diweddaru unrhyw wybodaeth ar sglodyn.
- Sut i atal eich chi rhag crwydro
Rwy'n pryderu ynglŷn â lles rhyw gi. Beth ddylwn i wneud?
Does dim modd i'r gwasanaeth rheoli cŵn ymchwilio i gwynion ynghylch lles cŵn ac anifeiliaid eraill. Os byddwch yn pryderu ynghylch lles ci neu anifail arall, gallwch alw'r RSPCA ar 0300 1234 999.
Yw'r warden cŵn yn delio gyda chathod hefyd?
Y farn yw mai anifeiliaid gwyllt yw cathod, yn hytrach nag anifeiliaid domestig, ac yn hyn o beth nid oes yr un rheolaethau arnynt ag ar gŵn.
Os cewch chi drafferth gyda chathod efallai y bydd y Tîm Iechyd Cyhoeddus Domestig yn gallu eich cynghori ynghylch mesurau rheoli y gallech chi eu rhoi ar waith.
Yw'r gwasanaeth rheoli cŵn yn gallu ail-gartrefu fy nghi?
Mae'r wardeiniaid cŵn yn derbyn nifer o ymholiadau bob blwyddyn gyda pherchnogion cŵn sydd, am nifer o resymau, am ail-gartrefu eu ci.
Does dim gwasanaeth i'w gael gyda'r cyngor sy'n ailgartrefu cŵn ond fe fydd y wardeiniaid yn cynnig cyngor ynghylch hynny.
Mae hyn fel arfer yn golygu cysylltu'r sawl sy'n dymuno ail-gartrefu ei gi gydag un neu ragor o ganolfannau ail-gartrefu y mae'r wardeiniaid cŵn yn gwybod amdanyn nhw.