Rheoli Cŵn
Dwyn cŵn
Mae dwyn cŵn yn bryder cynyddol i berchnogion gan fod cynnydd mawr yn y galw am gŵn a chŵn bach gyda phrisiau'n codi’n aruthrol. Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi sefydlu tasglu er mwyn mynd i'r afael â dwyn cŵn yn yr ardal ac yn annog y gymuned i adrodd am unrhyw weithgaredd amheus neu ladradau.
- Sut i adrodd am achosion o ddwyn, ymgais i ddwyn neu weithgaredd amheus sy'n ymwneud â phrynu/gwerthu neu ddwyn cŵn
- Beth i’w wneud os ydych yn cael eich targedu
- Sut i gadw eich cŵn yn ddiogel
- Os ydych yn ystyried prynu ci bach neu gi
- Beth i wneud os yw eich ci yn mynd ar goll
Sut i adrodd am achosion o ddwyn, ymgais i ddwyn neu weithgaredd amheus sy'n ymwneud â phrynu/gwerthu neu ddwyn cŵn:
Ar-lein: Dyfed Powys Police - Riportio
E-bost: 101@dyfed-powys.pnn.police.uk
Ffoniwch: 101 neu 999 mewn argyfwng
Ar gyfer y Warden Cŵn, cysylltwch â:
Ffoniwch: 01437 764551 / 07557251669
E-bost: dogcontrol@pembrokeshire.gov.uk
Beth i’w wneud os ydych yn cael eich targedu:
Cadwch yn ddiogel, a dim ond os yw’n bosibl :
- Ceisiwch gael disgrifiad o'r unigolion (nodwch eu gwisg a'u hacenion)
- Nodwch y cerbyd maent yn ei yrru, rhif cofrestru ac unrhyw farciau neu nodweddion nodedig
Sut i gadw eich cŵn yn ddiogel:
- Cadwch yn effro ac yn wyliadwrus
- Peidiwch byth â gadael eich ci ar ben ei hun mewn car neu wedi'i glymu y tu allan i siop
- Os yw cŵn oddi ar y tennyn, sicrhewch eu bod yn aros gerllaw ac yn dychwelyd atoch yn syth ar ôl cael eu galw
- Os yw eich ci yn disgwyl cŵn bach, cadwch yn wyliadwrus iawn ac osgoi hysbysebu'r ffaith ar y cyfryngau cymdeithasol
- Sicrhewch fod microsglodyn yn eich ci, bod y manylion diweddaraf ar gofnod a bod eich ci yn gwisgo tag gyda'ch enw, eich rhif ffôn a'ch cyfeiriad arno
- Cadwch ffotograffau diweddar o'ch cŵn a nodwch unrhyw farciau gwahaniaethol
- Mae ysbaddu eich ci yn helpu i atal unrhyw ladrata at ddibenion bridio
- Cadwch eich gerddi yn ddiogel er mwyn osgoi unrhyw achosion o ddianc ac atal mynediad hawdd
Os ydych yn ystyried prynu ci bach neu gi:
- Gwiriwch gyda'r awdurdod lleol i sicrhau bod trwydded gan y bridiwr: Bridwyr trwyddedig yn Sir Benfro
- Gwiriwch fod y ci bach yn hapus, yn effro, yn chwilfrydig ac yn derbyn gofal da
- Sicrhewch eich bod yn gweld y fam gyda'i chŵn bach
- Gofynnwch am fanylion y tad, gan gynnwys ffotograffau
- Disgwyliwch i'r bridiwr ofyn cwestiynau i chi i sicrhau bod y cŵn bach yn mynd i gartrefi da – os nad ydynt, byddwch yn wyliadwrus
- Cerddwch i ffwrdd os oes gennych unrhyw bryderon neu amheuon neu'n teimlo bod rhaid i chi 'achub' y ci bach
- Sicrhewch fod gennych y gwaith papur perthnasol gan gynnwys derbynneb os ydych yn prynu ci bach (peidiwch â derbyn bod y gwaith papur yn cael ei anfon atoch yn hwyrach)
- Gwnewch eich ymchwil cyn prynu ci neu gi bach - ni ddylai hwn fod yn bryniant byrbwyll ac ni ddylech deimlo o dan bwysau i roi blaendal nac unrhyw daliad arall nes eich bod yn hollol gyffyrddus
Beth i wneud os yw eich ci yn mynd ar goll:
Os yw eich ci yn mynd ar goll a'ch bod chi'n ansicr ynglŷn ag os yw'r ci ar goll neu wedi cael ei ddwyn, cysylltwch â'r warden cŵn i weld a ydym wedi derbyn unrhyw negeseuon bod rhywun wedi gweld y ci neu ein bod ni wedi casglu'r ci ac yn ei gadw fel ci crwydr.
Gwybodaeth am gŵn sydd ar goll, wedi dod o hyd iddo ac sy'n crwydro