Rheoli Cŵn
Gwahardd Oddi Ar Draethau Yn Yr Haf
Ar ba draethau dwi ddim i fod i fynd â'r ci am dro yn yr haf?
Mae cŵn wedi eu gwahardd oddi ar 10 traeth yn Sir Benfro rhwng y 1af Mai a'r 30ain Medi bob blwyddyn.
Mae mapiau manwl (yn agor mewn tab newydd) ar gael ar-lein ac fe'u harddangosir ar bob traeth sydd wedi ei sy'n dangos y rhannau lle gellir neu ni ellir mynd â chŵn am dro yn ogystal ag ardaloedd ar dennyn yn unig.
Mae gwaharddiadau rhannol gyda'r traethau hyn: -
- Lydstep
- Porth Niwgwl a'r Promenâd
- Traeth Saundersfoot a'r promenâd
- Traeth y Castell a Thraeth y De - Dinbych-y-pysgod
- Traeth Llanrhath a'r Promenâd
- Traeth Poppit
- Aberllydan - Gogledd
- Dale
Mae cŵn wedi eu gwahardd yn llwyr oddi ar y traethau hyn: -
- Traeth y Gogledd - Dinbych-y-pysgod
- Y Porth Mawr - Tyddewi
Mae gweithwyr Hamdden yn gorfodi'r gwaharddiadau hyn drwy fisoedd yr haf.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Traethau sy'n Croesawu Cŵn (yn agor mewn tab newydd) ar wefan Visit Pembrokeshire (yn agor mewn tab newydd)
Pam na chaf fynd â'r ci am dro ar y traethau hyn?
Mae'r is-ddeddfau sy'n gwahardd cŵn oddi ar rannau o rai traethau yn bodoli'n bennaf i ddiogelu buddiannau ymdrochwyr yn ystod tymor yr haf. Mae'r gwaharddiad mewn grym rhwng y 1af Mai tan y 30ain Medi. O'r 1af Hydref ymlaen bydd croeso eto i gŵn ar y traethau.
Ei nod yw sicrhau diogelwch a phleser y mwyafrif a fyddai'n dymuno torheulo, nofio neu wneud gweithgareddau hamdden glan mor eraill ar y traeth