Rheoli Cŵn
Microsglodyn
Mae gosod microsglodyn yn ddull diogel a pharhaol o roi modd adnabod ci. Anaml iawn y mae'n peidio â gweithio ac mae'n cynnig llawer mwy o obaith y dewch chi a'ch anifail anwes yn ôl at eich gilydd os bydd ar goll neu wedi ei ddwyn.
Maen nhw'n gosod microsglodyn bach iawn (maint gronyn o reis) yn ddi-boen yn y croen ar wâr y ci. Ynddo mae rhif cod unigryw sy'n cael ei roi ar gofnod cenedlaethol o anifeiliaid anwes ar gronfa ddata gyfrifiadurol, sef PetLog, gydag enw a chyfeiriad y perchennog. Os daw rhywun o hyd i'r ci, maen nhw'n dal sganiwr dros y microsglodyn ac mae modd gwybod pwy yw'r perchennog.
Mae angen microsglodynnu eich ci!
Mae Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015 yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016.
Os ydych chi'n berchen ar gi mi fydd y rheoliadau hyn yn eich effeithio chi!
Mae'r Rheoliadau yn gosod nifer o ddyletswyddau cyfreithiol i bobl sydd yn cadw/berchen ar gi.
Bydd yn rhaid i bob ceidwad/perchennog ci, oni bai am gi bach o dan 8 wythnos oed neu gi gweithio tystiedig gael microsglodyn ar ei gi, a bydd yn rhaid iddynt hefyd ddarparu gwybodaeth benodol i'w gofnodi ar gronfa ddata.
Mae'r wybodaeth yma yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig, i'r canlynol:
- enw llawn a chyfeiriad y ceidwad/bridiwr
- yr enw neu rif adnabod gwreiddiol a roddwyd ar y ci;
- rhif ffôn cyswllt (os o gwbl) y ceidwad;
- cyfeiriad e-bost (os o gwbl) y ceidwad;
- yr enw a roddwyd ar y ci gan y ceidwad
- rhyw'r ci
- brîd y ci, neu ddisgrifiad os yw'n groesfrid;
- lliw'r ci;
- unrhyw nodweddion sy'n gwahaniaethu'r ci;
- yr amcan mwyaf cywir y gall y ceidwad ei gynnig o ddyddiad geni'r ci; a
- rhif unigryw'r microsglodyn sydd wedi ei fewnblannu ar y ci.
Mae'r Rheoliadau yn rhwystro unrhyw gi rhag cael ei drosglwyddo i geidwad/berchennog newydd hyd nes ei fod wedi cael ei ficrosglodynnu. Fel perchennog newydd ci, chi sy'n gyfrifol am ddiweddaru'r wybodaeth ar y gronfa ddata am y newid ceidwad/perchnogaeth (oni bai fod y perchennog blaenorol wedi gwneud hynny'n barod). Gall unrhyw un nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau hyn dderbyn cosb uchafswm o £500.
Mae gan Swyddogion yr Awdurdodau Lleol a Swyddogion yr Heddlu'r pŵer i:
- gyflwyno rhybudd i berchennog ci yn gofyn iddyn nhw ficrosglodynnu eu ci
- fynd a chi i'w ficrosglodynnu ac adennill y gost am wneud hynny gan y perchennog, neu i
- gymryd y ci yn eu meddiant, heb ganiatâd y perchennog, er mwyn gwirio os ydyw wedi ei ficrosglodynnu ai peidio ac, os nad ydyw, i'w ficrosglodynnu.
I gael mwy o wybodaeth, fe'ch anogir i ddarllen y Rheoliadau (yn agor mewn tab newydd)
Os ydych wedi derbyn rhybudd ond yn anghytuno, mae'n bosibl i chi apelio (yn agor mewn tab newydd).
Peidiwch ag anghofio diweddaru eich manylion!
Mae microsglodyn yn ddiwerth os yw'r manylion yn anghywir. Os ydych chi'n symud tŷ neu'n newid eich rhif ffôn, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru microsglodyn eich ci os gwelwch yn dda.
Os ydym ni'n dod o hyd i gi coll byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i'w ddychwelyd ichi. Er hynny, os nad ydych chi ar gael neu os nad ydych chi gartref ac nad ydym ni'n gallu cael gafael ar unrhyw un, ni fydd dewis gennym ni ond mynd a'r ci i'r cytiau cŵn. Gall hyn achosi llawer o straen ar berchnogion a'u cŵn a byddwch chi fel perchennog yn derbyn ffi am y cwt.
Os ydych chi'n gwerthu eich ci i rywun arall, mae'n rhaid ichi wneud yn siŵr fod y manylion ar y microsglodyn yn cael ei newid. Yn ôl cyfraith, pwy bynnag sydd wedi ei gofrestru fel y perchennog ar ficrosglodyn yw'r perchennog cyfreithiol ac felly'n gyfrifol. Felly, pe bai'r ci yn achosi damwain neu ddifrod i rywun neu rywbeth, pwy bynnag sydd wedi ei gofrestru fydd yn atebol.
Gallwch wirio manylion microsglodyn eich ci ar-lein (yn agor mewn tab newydd) neu gallwch ffonio ein Wardeniad Cŵn ar y rhifau canlynol Sally ar 07557 251669.
Dyletswydd Gofal Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Mae Adran 9 o'r Ddeddf uchod yn cynnwys darparu pump "rhyddid" mewn perthynas â lles anifeiliaid, sef:
- Amgylchedd addas
- Diet addas
- Arddangos patrymau ymddygiad arferol
- Cyfeillach
- Diogelwch rhag poen, dioddefaint, niwed ac afiechyd
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gydymffurfio'n llawn gyda'r gofynion hyn mewn perthynas â holl agweddau'r gwasanaeth rheoli cŵn.