Rheoli Llygredd
Ansawdd Aer
Monitro Ansawdd Aer Withyhedge
Trosolwg 2024
Trosolwg y Grŵp Ansawdd Aer (Tachwedd 2024)
Adroddiadau hanesyddol
Adroddiadau Ansawdd Aer Hanesyddol
Ar y dudalen hon:
Adroddiad Cynnydd Ansawdd 2023
Adroddiad 6 - Crynodeb
Mae’r chweched adroddiad interim hwn wedi ystyried yr holl ddata monitro a gasglwyd ers dechrau monitro ym mis Chwefror 2024.
Mae'n amlwg o'r defnydd cyson ac ailadroddus o'r offeryn Jerome mewn safleoedd monitro yn y gymuned o amgylch y safle tirlenwi bod lefelau crynodiad o hydrogen sylffid wedi disgyn o'r lefelau uwch a welwyd yn gynharach yn y flwyddyn, ac ychydig o achosion o lefelau canfyddadwy a gafwyd yn y misoedd diwethaf. Ar yr un pryd, mae nifer yr arogleuon yr ystyrir eu bod yn gysylltiedig â nwy tirlenwi wedi gostwng, yn ogystal â nifer y cwynion. Mae'r crynodiad o hydrogen sylffid a chyfansoddion organig anweddol a ganfyddir gan diwbiau tryledu wedi aros yn is na'r gwerthoedd canllaw ar gyfer cysylltiad canolradd/cysylltiad oes drwy gydol y gwaith monitro hyd yma.
Mae’r chweched adroddiad interim hwn wedi rhoi cyfle i adolygu’r holl ddata monitro a gasglwyd ers mis Chwefror 2024 i’w ystyried.
Yn y cyd-destun hwn, bydd y rhaglen fonitro gymunedol felly yn canolbwyntio ar fesur hydrogen sylffid gan ddefnyddio tiwbiau tryledu yn D1 i D12 ynghyd â'r data a gasglwyd gan Gyngor Sir Penfro yn y monitor safle sefydlog a leolir yn Ysgol Spittal. Bydd y strategaeth hyblyg hon yn cael ei hadolygu'n barhaus.
Adroddiad 5 - Crynodeb
Mae’r adroddiad dros dro hwn yn crynhoi’r data a gasglwyd o’r gwaith monitro parhaus o amgylch safle tirlenwi Withyhedge. Mae’r gwaith monitro yn cynnwys tiwbiau tryledu ar gyfer asesu hydrogen sylffid a chyfansoddion organig anweddol sy’n darparu crynodiadau cyfartalog dros gyfnod diffiniedig, a mesuriadau disymwth o hydrogen sylffid gan ddefnyddio dadansoddwr Jerome. Mae’r rhaglen fonitro wedi’i hanelu’n bennaf at gasglu data meintiol i ddarparu llwybrau tystiolaeth i helpu i asesu’r risgiau o ddod i gysylltiad ag ansawdd aer oddi ar y safle.
Mae cymharu’r crynodiadau hydrogen sylffid a ganfuwyd gan ddefnyddio tiwbiau tryledu â’r meini prawf gwerthuso sy’n seiliedig ar iechyd yn dangos bod y crynodiadau’n parhau i fod yn is na’r gwerthoedd canllaw ar gyfer cysylltiad canolradd/oes.
Mewn llawer o safleoedd, nid yw hydrogen sylffid yn bresennol uwchlaw’r lefel ddadansoddol o ganfod. Mae monitro cyfansoddion organig anweddol hefyd wedi datgelu bod llawer o gyfansoddion organig anweddol yn bresennol ar lefelau isel iawn, ac yn is na’r meini prawf gwerthuso, lle maent ar gael.
Gan ddefnyddio offeryn â llaw, a elwir yn offeryn Jerome, mae crynodiadau hydrogen sylffid wedi’u cofnodi mewn gwahanol leoliadau. Mae llawer o ddarlleniadau yn is na’r terfyn canfod ac ni aethpwyd uwchlaw’r trothwy niwsans 30 munud o 5 ppb drwy gydol y cyfnod monitro diweddaraf. Gyda’i gilydd, mae’r data’n awgrymu naill ai nad yw hydrogen sylffid yn bresennol ar lefelau y gellir eu canfod, neu’n bresennol ar lefelau isel iawn sy’n disgyn yn is na’r gwerthoedd canllaw sydd ar gael.
Adroddiad Cryno dros dro monitro ansawdd - 5
Adroddiad 4 - Crynodeb
Mae'r adroddiad dros dro hwn yn crynhoi'r data a gasglwyd o'r monitro parhaus o amgylch Safle Tirlenwi Withyhedge. Mae'r monitro bellach yn cynnwys tiwbiau tryledu ar gyfer asesu hydrogen sylffid a chyfansoddion organig anweddol (VOCs) sy'n darparu crynodiadau cyfartalog dros gyfnod diffiniedig, a mesuriadau disymwth o hydrogen sylffid gan ddefnyddio dadansoddwr Jerome. Mae'r rhaglen fonitro wedi'i hanelu yn bennaf at gasglu data meintiol i ddarparu llinellau tystiolaeth i helpu i asesu y risgiau o ddod i gysylltiad ag ansawdd aer oddi ar y safle.
Mae cymhariaeth o grynodiadau hydrogen sylffid a ganfuwyd gan ddefnyddio tiwbiau tryledu gyda meini prawf sy'n seiliedig ar iechyd yn dangos bod y crynodiadau'n parhau i fod yn is na'r gwerthoedd canllaw ar gyfer cysylltiad canolradd/oes.
Mae monitro cyfansoddion organig anweddol wedi datgelu bod llawer o gyfansoddion organig anweddol yn bresennol ar lefelau isel iawn ac yn is na’r meini prawf gwerthuso, lle maent ar gael. Mae'r monitro hwn i ddod i ben.
Gan ddefnyddio offeryn â llaw, a elwir yn offeryn Jerome, mae crynodiadau hydrogen sylffid wedi'u cofnodi mewn gwahanol leoliadau. Mae llawer o ddarlleniadau hydrogen sylffid a adroddwyd gan y dadansoddwr Jerome yn ystod y cyfnod monitro diweddaraf yn agos at neu'n is na'r terfyn canfod ac ychydig o werthoedd a gofnodwyd uwchlaw gwerth canllaw 5ppb. Mae'n amlwg o'r defnydd ailadroddus o'r offeryn, ar wahanol adegau o'r dydd, dros sawl diwrnod, nad yw crynodiadau o'r fath yn barhaus dros amserlenni o'r fath. Mewn llawer o safleoedd monitro ar wahanol achlysuron ni chanfu'r dadansoddwr Jerome hydrogen sylffid uwchlaw'r lefel canfod.
Adroddiad cryno dros dro monitro ansawdd - 4
Adroddiad 3 - Crynodeb
Mae’r adroddiad dros dro hwn yn crynhoi’r data a gasglwyd o’r gwaith monitro parhaus o amgylch Safle Tirlenwi Withyhedge. Mae’r gwaith monitro bellach yn cynnwys tiwbiau tryledu ar gyfer asesu hydrogen sylffid a chyfansoddion organig anweddol (VOCs) sy’n darparu crynodiadau cyfartalog dros gyfnod diffiniedig, a mesuriadau disymwth o hydrogen sylffid gan ddefnyddio dadansoddwr Jerome. Mae’r rhaglen fonitro wedi’i hanelu’n bennaf at gasglu data meintiol i ddarparu llwybrau tystiolaeth i helpu i asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â dod i gysylltiad ag ansawdd aer oddi ar y safle yr effeithir arno gan y safle tirlenwi.
Mae cymharu’r crynodiadau hydrogen sylffid a ganfuwyd gan ddefnyddio tiwbiau tryledu â’r meini prawf gwerthuso ar sail iechyd yn dangos bod y crynodiadau’n parhau i fod yn is na’r gwerthoedd canllaw hyn ar gyfer cysylltiad canolradd/oes.
Am y tro cyntaf, mae cyfansoddion organig anweddol wedi cael eu monitro yn ystod y cyfnod cyswllt diweddaraf. Mae profion wedi datgelu bod llawer o gyfansoddion organig anweddol yn bresennol ar lefelau isel iawn ac yn is na’r meini prawf gwerthuso, lle maent ar gael.
Gan ddefnyddio offeryn â llaw, a elwir yn offeryn Jerome, mae crynodiadau hydrogen sylffid wedi’u cofnodi mewn gwahanol leoliadau. Ar y cyd ag asesiad o’r arogl a ganfyddir ar adeg y samplu, mae’r gwaith monitro hwn wedi datgelu amrywiadau yn y crynodiad o hydrogen sylffid, ond mae’r set ddata yn gymhleth ac mae llawer o ddarlleniadau yn agos at derfyn canfod yr offeryn. Mae gwerthoedd uwch o hydrogen sylffid a adroddwyd gan yr offeryn fel arfer yn gysylltiedig â phresenoldeb aroglau, a gwelwyd bod sawl math o aroglau gwahanol. Ar adegau, canfuwyd bod y crynodiad hydrogen sylffid yn uwch na 5ppb, gyda bron i 15ppb wedi’u canfod yn yr ardaloedd cymunedol am gyfnodau byr (<30 munud) a chrynodiadau uwch yn y safle tirlenwi. Mae crynodiadau uwchlaw 5ppb wedi’u canfod yn gysylltiedig â gwahanol ffynonellau arogl, gan gynnwys nwy tirlenwi a gweithgareddau amaethyddol. Mae’r crynodiadau uchaf o hydrogen sylffid yn dueddol o gael eu canfod pan amheuir bod nwy aroglus yn bresennol mewn safleoedd tirlenwi.
Adroddiad Cryno dros dro monitro ansawdd - 3
Adroddiad 2 - Crynodeb
Dyma'r ail adroddiad interim sy'n crynhoi'r data a gasglwyd o'r monitro parhaus o amgylch Safle Tirlenwi Withyhdege. Mae'r monitro bellach yn cynnwys tiwbiau tryledu ar gyfer asesu hydrogen sylffid a chyfansoddion organig ffrwydrad sy'n darparu crynodiadau cyfartalog dros gyfnod diffiniedig a mesuriadau ebrwydd o hydrogen sylffid gan ddefnyddio dadansoddwr Jerome. Mae'r rhaglen fonitro wedi'i hanelu'n bennaf at gasglu data meintiol i ddarparu llinellau tystiolaeth i helpu i asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig ag amlygiad i ansawdd aer oddi ar y safle yr effeithir arno gan y safle tirlenwi.
Mae cymhariaeth o grynodiadau hydrogen sylffid a ganfuwyd gan ddefnyddio tiwbiau tryledu gyda meini prawf sy'n seiliedig ar iechyd yn dangos bod y crynodiadau'n parhau i ddisgyn yn is na'r gwerthoedd canllaw hyn ar gyfer amlygiad canolradd/oes.
Am y tro cyntaf, mae cyfansoddion organig ffrwydrad wedi cael eu monitro yn ystod y cyfnod amlygiad diweddaraf. Mae'r profion wedi datgelu bod llawer o’r cyfansoddion hyn yn bresennol ar lefelau isel iawn ac yn is na'r meini prawf gwerthuso, lle maent ar gael.
Gan ddefnyddio offeryn llaw, a elwir yn ‘Jerome’, mae crynodiadau hydrogen sylffid wedi'u cofnodi mewn gwahanol leoliadau. Mae ystyriaeth gychwynnol o'r data a gasglwyd yn dangos bod y gwerthoedd a gofnodwyd wedi bod yn uwch ac yn is na gwerth canllaw 5ppb a bod y gwerthoedd hyn wedi'u cofnodi pan fydd arogl yn cael ei ganfod / adrodd amdano ac ar adegau pan nad yw arogl wedi'i ganfod. Mae monitro parhaus gan ddefnyddio'r Jerome yn canolbwyntio ar logio data am 30 munud ar gyfnodau samplu pum munud yn yr un safle â'r tiwbiau tryledu. Bydd y data hwn yn cael ei werthuso yn y crynodeb monitro data nesaf ochr yn ochr â chymhariaeth o'r canlyniadau a gasglwyd gan fonitoriaid Jerome gwahanol.
Adroddiad Crynon dros dro monitro ansawdd - 2
Adroddiad 1 - Crynodeb
Adroddiad Cryno dros dro monitro ansawdd - 1
Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Mae'r atodiadau canlynol yn rhoi crynodeb o'r canlyniadau monitro gan ddangos cyfartaleddau 30 munud
Tabl A
Dyddiad |
Amser dechrau'r monitro |
Lleoliad |
Crynodiad cyfartalog 30 munud (ppb) o’i gymharu â lefel safon Sefydliad Iechyd y Byd o 5 ppb |
Cyfeiriad y gwynt (o) |
O ba gyfeiriad mae’r gwynt yn debygol o fwrw’r derbynnydd |
Cyflymder y gwynt |
08-Mai | 00:09:26 | Cyffordd B4329 - Poyston Cross what3words = wound.hardening.butternut |
0.4 | Dim gwynt | Gogledd/gogledd-ogledd-orllewin | Dim gwynt |
08-Mai | 07:20:48 | Tafarn Corner Piece | 13.5 | Dim gwynt | Gorllewin/gorllewin-dde-orllewin | Dim gwynt |
12-Mai | 22:26:26 | SA62 5QR - cyferbyn â Oakvale, Spittal what3words = truly.creatures.smoker |
2.0 | De-dde-orllewin/de | De/de-orllewin | Ysgafn |
14-Mai | 14:03:26 | Cae Corner Piece what3words - stud. Supplied. Strongman Dewiswyd y lleoliad oherwydd arogleuon o’r safle tirlenwi. |
2.2 | De-ddwyrain | Gorllewin/gorllewin-dde-orllewin | Ysgafn |
26-Mai | 08:03:01 | 6) Ysgol Gynradd Spittal | 0.0 | De-orllewin | De/de-orllewin | Dim – Ysgafn |
10-Mehefin | 04:25:06 | what3words: expansion.traffic. fondest | 4.8 | Gogledd-orllewin | Gogledd/gogledd-ogledd-orllewin | Cyson/cryf |
Tabl B
21 Mawrth 24
Amser dechrau’r monitro |
Lleoliad |
Crynodiad cyfartalog 30 munud (ppb) o’i gymharu â lefel safon Sefydliad Iechyd y Byd o 5 ppb |
Arogl a ganfuwyd |
Cyfeiriad y gwynt (o) |
Cyflymder y gwynt |
O ba gyfeiriad mae’r gwynt yn debygol o fwrw’r derbynnydd |
Gweithgareddau ar y safle neu weithgareddau eraill |
Nodiadau / sylwadau |
10:04:13 | D4 | 3.0 | Arogl 'melys' ysbeidiol | dim data | dim data | De-orllewin | dim data | amherthnasol |
10:44:21 | Ysgol Spittal | 20.2 | Arogl ysbeidiol | dim data | dim data | De/de-orllewin | dim data | Yn cynnwys darlleniad uchel iawn am bum munud cyntaf (117.07 ppb) y cyfnod monitro. Os dilynir y llawlyfr defnyddiwr ni fyddai'r cylchred cynhesu pum munud cyntaf yn cael ei gynnwys |
11:29:09 | Trefgarn (yr eglwys gyfagos) | 0.8 | Dim arogl canfyddadwy | dim data | dim data | De/de-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
13:51:15 | D9 | 0.0 | Dim arogl canfyddadwy | dim data | dim data | Dwyrain | dim data | amherthnasol |
14:37:59 | D1 | 3.7 | Dim arogl canfyddadwy | dim data | dim data | De | dim data | amherthnasol |
15:25:14 | Cyferbyn ag Ysgol Spittal | 3.9 | Arogl ysbeidiol | dim data | dim data | De/de-orllewin | dim data | amherthnasol |
16:17:43 | Ffordd Llwynhelyg, i’r de o Hwlffordd | 4.3 | Arogl ysbeidiol | dim data | dim data | Gogledd | dim data | amherthnasol |
22 Mawrth 2024
Amser dechrau’r monitro |
Lleoliad |
Crynodiad cyfartalog 30 munud (ppb) o’i gymharu â lefel safon Sefydliad Iechyd y Byd o 5 ppb |
Arogl a ganfuwyd |
Cyfeiriad y gwynt (o) |
Cyflymder y gwynt |
O ba gyfeiriad mae’r gwynt yn debygol o fwrw’r derbynnydd |
Gweithgareddau ar y safle neu weithgareddau eraill |
Nodiadau / sylwadau |
10:22:18 | Trefgarn (yr eglwys gyfagos) | 22.0 | Dim arogl i'w ganfod | Gogledd-orllewin | dim data | De/de-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
11:13:16 | Ysgol Spittal | 4.1 | Arogl gwan | Gorllewin | dim data | De/de-orllewin | dim data | amherthnasol |
12:00:03 | D6 | 4.1 | Dim arogl | Gogledd-orllewin | dim data | Gorllewin | dim data | amherthnasol |
13:03:03 | D7 | 3.9 | Dim arogl | Gorllewin | dim data | Gogledd / gogledd-ogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
3 Ebrill 2024
Amser dechrau’r monitro |
Lleoliad |
Crynodiad cyfartalog 30 munud (ppb) o’i gymharu â lefel safon Sefydliad Iechyd y Byd o 5 ppb |
Arogl a ganfuwyd |
Cyfeiriad y gwynt (o) |
Cyflymder y gwynt |
O ba gyfeiriad mae’r gwynt yn debygol o fwrw’r derbynnydd |
Gweithgareddau ar y safle neu weithgareddau eraill |
Nodiadau / sylwadau |
12:01:23 | Ell's Kitchen | 2.9 | Arogl gwan | Gogledd | dim data | Gogledd | dim data | amherthnasol |
12:55:53 | Cyffordd yr A40 Rudbaxton | 4.5 | Arogl cryf nad yw’n barhaus | Gogledd | dim data | Gogledd | dim data | amherthnasol |
14:05:53 | Ysgol Spittal | 4.1 | Arogl 'melys' nad yw’n barhaus | Gorllewin | dim data | De/de-orllewin | dim data | amherthnasol |
15:15:53 | D7 | 4.0 | Dim arogl i'w ganfod | Gogledd | dim data | Gogledd | dim data | amherthnasol |
5 Ebrill 2024
Amser dechrau’r monitro |
Lleoliad |
Crynodiad cyfartalog 30 munud (ppb) o’i gymharu â lefel safon Sefydliad Iechyd y Byd o 5 ppb |
Arogl a ganfuwyd |
Cyfeiriad y gwynt (o) |
Cyflymder y gwynt |
O ba gyfeiriad mae’r gwynt yn debygol o fwrw’r derbynnydd |
Gweithgareddau ar y safle neu weithgareddau eraill |
Nodiadau / sylwadau |
10:25:53 | HfW County Hall | 5.1 | Dim arogl | Gwynt yn hyrddio | dim data | Gogledd / gogledd-ogledd-ddwyrain | dim data | Dim digon o ddata i gyfrifo cyfartaledd ar gyfer 30 munud – gwerth 25 munud o ddata |
11:45:52 | Trefgarn (yr eglwys gyfagos) | 5.0 | Arogl ysbeidiol gwan | Dwyrain | dim data | De-ddwyrain | Amaethyddiaeth? | Dim digon o ddata i gyfrifo cyfartaledd ar gyfer 30 munud – gwerth 25 munud o ddata |
12:30:52 | D1 | 4.9 | Arogl melys | De/de-orllewin | dim data | De | Amaethyddiaeth? | amherthnasol |
13:15:53 | Ysgol Spittal | 6.7 | Arogl cryf, egr, tirlenwi | De/de-orllewin | dim data | De/de-orllewin | dim data | amherthnasol |
15:40:52 | D7 | 4.6 | Dim arogl | De | dim data | Gogledd / gogledd-ogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
16:40:52 | Heol Palmerston, Hwlffordd | 5.1 | Dim arogl | De | dim data | dim data | dim data | Dim digon o ddata i gyfrifo cyfartaledd ar gyfer 30 munud – gwerth 25 munud o ddata |
16 Ebrill 2024
Amser dechrau’r monitro |
Lleoliad |
Crynodiad cyfartalog 30 munud (ppb) o’i gymharu â lefel safon Sefydliad Iechyd y Byd o 5 ppb |
Arogl a ganfuwyd |
Cyfeiriad y gwynt (o) |
Cyflymder y gwynt |
O ba gyfeiriad mae’r gwynt yn debygol o fwrw’r derbynnydd |
Gweithgareddau ar y safle neu weithgareddau eraill |
Nodiadau / sylwadau |
10:15:52 | Ysgol Spittal | 5.5 | Arogl gwan | Gorllewin/gogledd-orllewin | dim data | De/de-orllewin | dim data | amherthnasol |
11:40:52 | Poyston cross | 8.3 | Arogl cryf egr | Gorllewin/gogledd-orllewin | dim data | Gogledd/gogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
23 Ebrill 2024
Amser dechrau’r monitro |
Lleoliad |
Crynodiad cyfartalog 30 munud (ppb) o’i gymharu â lefel safon Sefydliad Iechyd y Byd o 5 ppb |
Arogl a ganfuwyd |
Cyfeiriad y gwynt (o) |
Cyflymder y gwynt |
O ba gyfeiriad mae’r gwynt yn debygol o fwrw’r derbynnydd |
Gweithgareddau ar y safle neu weithgareddau eraill |
Nodiadau / sylwadau |
14:05:52 | Spittal school | 0.5 | Dim arogl | Gogledd-orllewin | dim data | De/de-orllewin | dim data | amherthnasol |
14:55:53 | D7 | 2.8 | Arogl anhysbys ysbeidiol gwan | Gogledd-orllewin | dim data | Gogledd/gogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
24 Ebrill 2024
Amser dechrau’r monitro
|
Lleoliad
|
Crynodiad cyfartalog 30 munud (ppb) o’i gymharu â lefel safon Sefydliad Iechyd y Byd o 5 ppb |
Arogl a ganfuwyd
|
Cyfeiriad y gwynt (o)
|
Cyflymder y gwynt |
O ba gyfeiriad mae’r gwynt yn debygol o fwrw’r derbynnydd
|
Gweithgareddau ar y safle neu weithgareddau eraill |
Nodiadau / sylwadau |
09:00:52 | D10 | 3.9 | Arogl ysbeidiol gwan | dim data | dim data | Dwyrain/dwyrain-dde-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
09:40:52 | D1 | 4.8 | Arogl melys | dim data | dim data | De | Amaethyddiaeth? | amherthnasol |
10:30:52 | D2 | 3.1 | Arogl gwan | dim data | dim data | De/de-orllewin | Amaethyddiaeth? | amherthnasol |
11:10:53 | D3 | 4.3 | Dim arogl | dim data | dim data | De/de-orllewin | dim data | amherthnasol |
11:50:52 | D4 | 4.5 | Arogl gwan | dim data | dim data | De-orllewin | dim data | amherthnasol |
12:40:52 | D5 | 4.8 | Arogl gwan | dim data | dim data | Gorllewin | Amaethyddiaeth? | amherthnasol |
13:20:52 | D6 | 4.9 | Dim arogl | dim data | dim data | Gorllewin | dim data | Dim digon o ddata i gyfrifo cyfartaledd ar gyfer 30 munud – gwerth 25 munud o ddata |
13:55:52 | D7 | 4.2 | Arogl gwan | dim data | dim data | Gogledd / gogledd-ogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
14:35:52 | D8 | 4.7 | Dim arogl | dim data | dim data | Gogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
15:20:52 | D9 | 4.8 | Arogl gwan | dim data | dim data | Gogledd-ogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
26 Ebrill 2024
Amser dechrau’r monitro |
Lleoliad |
Crynodiad cyfartalog 30 munud (ppb) o’i gymharu â lefel safon Sefydliad Iechyd y Byd o 5 ppb |
Arogl a ganfuwyd |
Cyfeiriad y gwynt (o) |
Cyflymder y gwynt |
O ba gyfeiriad mae’r gwynt yn debygol o fwrw’r derbynnydd |
Gweithgareddau ar y safle neu weithgareddau eraill |
Nodiadau / sylwadau |
13:15:53 | D9 | 6.4 | Arogl gwan | dim data | dim data | Gogledd-ogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
13:55:52 | D10 | 3.8 | Arogl cryf | dim data | dim data | Gogledd / gogledd-ogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
14:40:53 | D1 | 0.0 | Arogl ysbeidiol | dim data | dim data | Gogledd / gogledd-ogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
29 Ebrill 2024
Amser dechrau’r monitro |
Lleoliad |
Crynodiad cyfartalog 30 munud (ppb) o’i gymharu â lefel safon Sefydliad Iechyd y Byd o 5 ppb |
Arogl a ganfuwyd |
Cyfeiriad y gwynt (o) |
Cyflymder y gwynt |
O ba gyfeiriad mae’r gwynt yn debygol o fwrw’r derbynnydd |
Gweithgareddau ar y safle neu weithgareddau eraill |
Nodiadau / sylwadau |
11:05:53 | D10 | 5.8 | Dim | 180 (De) | 1.1 | Dwyrain/dwyrain-dde-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
11:05:53 | D1 | 6.7 | Amlwg | 180 (De) | 2.9 | De | Tirlenwi | amherthnasol |
12:30:52 | D2 | 5.2 | Dim | 180 (De) | 5.8 | De/de-orllewin | dim data | amherthnasol |
13:10:52 | D3 | 5.5 | Amlwg | 180 (De) | 3.8 | De/de-orllewin | Slyri | amherthnasol |
13:50:52 | D4 | 4.9 | Gwan | 180 (De) | 3.6 | De-orllewin | Tail | amherthnasol |
14:50:53 | D8 | 4.8 | Dim | 180 (De) | 3.1 | Gogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
15:40:52 | D9 | 4.3 | Dim | 180 (De) | 0.4 | Gogledd-ogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
16:25:53 | D7 | 4.7 | Dim | 180 (De) | 1.3 | Gogledd / gogledd-ogledd-ddwyrain | dim data | amherthnasol |
17:15:52 | D6 | 4.2 | Dim | 210 (De-orllewin) | 0.4 | Gorllewin | dim data | amherthnasol |
30 Ebrill 2024
Amser dechrau’r monitro |
Lleoliad |
Crynodiad cyfartalog 30 munud (ppb) o’i gymharu â lefel safon Sefydliad Iechyd y Byd o 5 ppb |
Arogl a ganfuwyd |
Cyfeiriad y gwynt (o) |
Cyflymder y gwynt |
O ba gyfeiriad mae’r gwynt yn debygol o fwrw’r derbynnydd |
Gweithgareddau ar y safle neu weithgareddau eraill |
Nodiadau / sylwadau |
12:15:52 | D9 | 6.0 | Gwan | 160 (De-ddwyrain) | 0.1 | Gogledd-ogledd-ddwyrain | Tirlenwi | amherthnasol |
13:10:52 | D5 | 6.1 | Gwan | 140 (SE) | 0.6 | Gorllewin | Dom/ cae cyfagos | amherthnasol |
13:55:52 | D3 | 6.7 | Gwan | 160 (De-ddwyrain) | 1.1 | De/de-orllewin | Slyri / fferm laeth | amherthnasol |
14:50:52 | Treffgarne | 6.9 | Amlwg | 160 (De-ddwyrain) | 0.1 | De-ddwyrain | Tirlenwi | amherthnasol |
Ansawdd Aer
Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 a Rheoliadau dilynol yn gofyn i'r Awdurdodau Lleol adolygu ac asesu ansawdd aer yn eu hardaloedd drwy lunio Asesiadau Diweddaru a Sgrinio bob tair blynedd ac Adroddiadau Cynnydd blynyddol ar gyfer y blynyddoedd yn y cyfamser. Mae'r weithdrefn Adolygu ac Asesu hon yn cynrychioli'r system ar gyfer Rheoli Ansawdd yr Aer yn Lleol (LAQM) sydd ei hun yn cynrychioli'r brif fethodoleg yn strategaethau Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn cyflawni amcanion perthnasol o ran ansawdd yr awyr ar gyfer Bensen, 1,3 Bwtadin, Carbon Monocsid, Plwm, Nitrogen Deuocsid, Gronynnau a Sylffwr Deuocsid.
Mae Cyngor Sir Penfro yn ymgymryd â monitro ystod o leoliadau yn y Sir. Mae'r dulliau o fonitro yn cynnwys tiwbiau tryledu goddefol, samplwyr gweithredol a dadansoddwyr gwir-amser awtomatig. Mae'r Awdurdod yn cynnal safle monitro parhaol ar yn Arberth, sy'n gysylltiedig â Rhwydwaith Trefol a Gweledig Awtomatig y DU (a weithredir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig). Bydd y ddolen ganlynol Welsh Air Quality (yn agor mewn tab newydd) yn rhoi mynediad uniongyrchol i wefan Fforwm Ansawdd Aer Cymru lle y gellir cael mynediad at ddata monitro gwir-amser a hanesyddol ynghyd â gwybodaeth berthnasol am ansawdd yr aer.
Os bydd LAQM yn nodi rhagori ar amcan, yna bydd rhaid i'r Awdurdod Lleol ddatgan Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer (AQMA) a cheisio datblygu strategaeth i leihau'r llygrydd sy'n achosi pryder. Ar hyn o bryd allyriadau cerbydau modur sy'n codi'r her fwyaf ar gyfer Awdurdodau Lleol ledled y DU.
Erys y Cyngor yn ymrwymedig i gael gwybodaeth am ansawdd yr aer yn yr ardal, ac i gynnal ei ddyletswyddau rheoli ansawdd yr aer yn lleol, gan gynnwys rheoli ac asesu ansawdd yr aer yn y Sir yn gyfredol.
Adroddiad Cynnydd Ansawdd 2023
Wrth gyflawni ei ddyletswydd a'i ymrwymiad i fonitro a gwella ansawdd yr aer lleol mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd mae'r Awdurdod Lleol wedi cyhoeddi dwy Ardal Reoli Ansawdd Aer (ARAA) yn Sir Benfro; yn y rhannau o Hwlffordd a Phenfro lle mae'r prif heolydd masnachol. Traffig y ffyrdd sy'n creu'r rhan fwyaf o'r allyriadau y cafodd yr ARAA eu cyhoeddi o'u herwydd o ganlyniad i'r crynodiadau uchel o nitrogen deuocsid. Mae'r "effaith hafn" yn digwydd yn y ddwy fan lle mae adeiladau gydag ochrau uchel y ddwy ochr i heol gul gyda'r canlyniad nad oes llawer o fodd yno i'r aer lleol wasgaru. Oherwydd hyn mae'r nitrogen deuocsid wedi codi'n uwch nag Amcan Ansawdd Aer blynyddol cymedrig yr Undeb Ewropeaidd, sef 40µg/m³. Mae cyhoeddi ac asesu ARAA yn dangos maint yr ardal yr effeithir arni ac mae'n fodd i'r Awdurdod Lleol ddatblygu Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer er mwyn trafod mesurau tymor byr a thymor hir er mwyn gwella ansawdd yr aer a chydymffurfio â'r amcan ansawdd aer perthnasol.
Ffôn: 01437 764551
E-bost: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk