Rheoli Llygredd
Rheoli Llygredd a Monitro'r Amgylchedd
Mae Tîm Rheoli Llygredd y Cyngor yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd adeiledig fel y mae a wnelont ag adeiladau masnachol, busnes neu ddiwydiannol yn Sir Benfro.
Mae hyn yn cynnwys:
- Ymchwilio i ystod eang o gwynion am niwsansau statudol a deddfwriaeth awyr lân fel y mae a wnelont â gweithgaredd masnachol.
- Samplu a gorfodi mewn perthynas â chyflenwadau dwr preifat yn y Sir, o lygaid ffynnon, dyfrdyllau neu ffynhonnau, at ddefnydd masnachol neu i'r rhai sy'n gwasanaethu tai neu osodiadau domestig.
- Samplu o leoliadau traethau ymdrochi a dwr hamdden "Annynodedig" i asesu ansawdd dwr ac addasrwydd i ymdrochi.
- Cynnal adolygiadau ac asesiadau ansawdd awyr i bennu'r ansawdd awyr cyffredinol yn y Sir.
- Gweinyddu a gorfodi prosesau a ganiateir o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a Rheolidau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloger) 2016.
- Gorfodi deddfwriaeth mewn perthynas â thir wedi'i halogi o dan Ran 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Oriau Gwasanaeth:
- Dydd Llun: 9am-4pm
- Dydd Mawrth: 9am-4pm
- Dydd Mercher: 9am-4pm
- Dydd Iau: 9am-4pm
- Dydd Gwener: 9am-4pm
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol ar bob adeg ac er ein bod yn anelu at ymdrin â'r swyddfa rhwng 9am a 4pm efallai na fyddwn bob amser yn cysylltu â dros y ffôn. I roi gwybod am ddigwyddiad argyfwng ffoniwch 01437 764551.
Ty Rheoli Difwyniad
Ffôn: 01437 764551
E-bost: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn
ID: 2415, adolygwyd 06/01/2025